Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Ofcom wedi datgelu bod darparwyr newyddion rhwydweithiau'r DU wedi rhoi mwy o sylw i bynciau datganoledig, yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig.
Mae'r adroddiad, a luniwyd ar y cyd gan Dr Richard Thomas o Brifysgol Abertawe a'r Athro Stephen Cushion o Brifysgol Caerdydd, yn ystyried pa mor llwyddiannus y bu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU wrth adrodd am faterion polisi datganoledig ar y teledu ac ar-lein.
Datgelodd dadansoddiad manwl o gynnwys rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 fod oddeutu 40% o eitemau newyddion yn berthnasol i ddatganoli o bosib – sy'n llawer mwy na'r hyn a ddatgelwyd gan astudiaethau a fu'n ystyried y mater yn 2015 a 2016.
Gellir cysylltu'r twf sylweddol â'r ffocws ar reolau Covid-19 a luniwyd gan lywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr.
Dangosodd archwiliad manwl arall fod 60% o'r eitemau hyn yn cyfeirio mewn rhyw ffordd at o leiaf un o'r pedair cenedl; fodd bynnag, wrth drafod mater datganoledig, collwyd y cyfle i gymharu ac esbonio penderfyniadau pob llywodraeth yn aml.
Fel rhan o'r adroddiad, cynhaliwyd cyfweliadau ag uwch-olygyddion o gyfryngau newyddion, gan gynnwys y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky News, er mwyn deall eu dewisiadau golygyddol yn well.
Datgelodd y cyfweliadau'r canlynol:
- Mae ystafelloedd newyddion bellach yn fwy ymwybodol o adrodd am wahaniaethau polisi datganoledig.
- Mae adrodd am bedair cenedl y DU yn llawer mwy heriol ers dyfodiad pandemig y coronafeirws, gan fod llywodraethau yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi mabwysiadu ymagweddau gwahanol at ymdrin â'r argyfwng iechyd.
- Mae'r holl olygyddion yn cytuno y rhoddodd newyddion ar-lein fwy o le ac amser i gyfeirio at bwerau datganoledig nag y gwnaeth adroddiadau ar y teledu.
Drwy roi sylw i ragor o newyddiadurwyr ar leoliad y tu hwnt i Loegr, manteisiodd y BBC, er enghraifft, ar y ffaith bod ganddi rwydwaith mwy helaeth o ohebwyr ledled y cenhedloedd na'r darlledwyr newyddion eraill.
Rhoddodd adroddiadau newyddion y BBC, yn enwedig ar-lein, lawer mwy o eglurder ynghylch pa mor berthnasol oedd materion datganoledig na bwletinau newyddion ar y teledu ac ar-lein gan rwydweithiau eraill.
Meddai Dr Richard Thomas, Pennaeth Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae ein prosiect cydweithredol wedi meithrin dealltwriaeth go iawn o'r ffyrdd yr adroddodd y prif ddarlledwyr ar ymatebion y cenhedloedd datganoledig i'r pandemig.
“Yr hyn sy'n arbennig o ddiddorol yw sut mae Covid-19 wedi arwain o bosib at ddealltwriaeth fwy eang o holl gysyniad datganoli. Er enghraifft, byddai llawer o bobl sy'n byw yng Nghymru'n gwybod bellach fod datganiadau Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn fwy perthnasol na datganiadau Boris Johnson mewn perthynas â chanllawiau Covid-19.
“Er ei bod hi'n amlwg y gellid gwella lefelau presennol y sylw mewn adroddiadau newyddion, mae awydd amlwg ar ran darlledwyr i wneud hynny, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn.
“Ar lefel fwy personol, mae'n destun balchder mawr bod dau aelod o'r tîm ymchwil gwych sy'n gweithio ar y prosiect, Sophie Timmermann a Marta Viganò, wedi graddio o Abertawe. Ochr yn ochr â'u cydweithwyr o Gaerdydd, gwnaethant waith gwych wrth gasglu a dadansoddi'r data.”