Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwaith ymchwil a'i rannu gydag arbenigwyr eraill.
Mae gwaith Kristen Hawkins yn ymwneud â sglerosis ymledol ac mae William Kay yn ymchwilio i effaith datblygiadau ynni adnewyddadwy morol ar boblogaethau morloi.
Bydd y ddau ohonynt bellach yn cael cyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil pwysig i ddatblygu eu gwaith, diolch i gyllid gwerth £1,000 gan Gwmni Lifrai Cymru, yn dilyn cystadleuaeth a oedd ar agor i ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd newydd ddechrau eu gyrfa.
Un o nodau'r cwmni, a sylfaenwyd ym 1993, yw “hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru”. Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i feithrin eu doniau a magu eu sgiliau drwy raglen flynyddol sy'n dyfarnu ysgoloriaethau a bwrsarïau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Esboniodd Kristen Hawkins, sy'n gweithio yn yr Ysgol Feddygaeth, sut byddai'r ysgoloriaeth yn hybu ei hymchwil i sglerosis ymledol (MS):
“Nod fy mhrosiect yw deall rôl ocsysterolau yng nghyd-destun MS. Mae ocsysterolau'n gyfansoddion sy'n deillio o golesterol, cyfansoddyn angenrheidiol sydd gennym i gyd yn ein cyrff. Fodd bynnag, rydym yn credu y gall y broses o'i ymddatod neu ei gynhyrchu fethu mewn achosion o MS.
Diolch i'r ysgoloriaeth, gallaf dreulio wythnos ym Manc Meinweoedd MS Coleg Imperial Llundain, sy'n cynnwys y casgliad helaethaf yn y byd o samplau o feinweoedd ymenyddol pobl ag MS.
Byddaf yn cael cyfle i baratoi samplau o feinweoedd ymenyddol a chael gafael ar hylif cerebrosbinol o gasgliad unigryw'r coleg, gan gydweithio â'r Athro Richard Nicholas. Bydd ychwanegu'r samplau hyn o feinweoedd yn helpu i ddatblygu fy ngwaith ymchwil. Byddaf hefyd yn cyflwyno fy ngwaith ymchwil i arbenigwyr MS yn yr adran.”
Bydd William Kay o'r Coleg Gwyddoniaeth yn rhannu ei waith ymchwil ar ffurf rithwir mewn cynhadledd fawr ar gyfer arbenigwyr rhyngwladol:
“Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd. Un o'r ffyrdd allweddol o liniaru newid yn yr hinsawdd yw drwy gefnogi'r broses o gynhyrchu trydan gwyrdd, megis drwy ddatblygiadau ynni adnewyddadwy morol. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd y datblygiadau hyn yn peryglu bywyd morol sydd o bwys mawr i ni, gan gynnwys morloi.
Rwy'n ymchwilio i ymddygiad a symudiadau morloi mewn amgylcheddau llanw yng Nghymru sy'n cael eu clustnodi ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy morol, er mwyn lleihau'r perygl y byddant yn rhyngweithio'n niweidiol.
Rwy'n monitro'r morloi drwy ddefnyddio dyfeisiau biogofnodi a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe. Gallaf ddefnyddio'r rhain i asesu'r perygl posib sy'n deillio o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy morol a helpu i lywio mesurau lliniaru i leihau'r niwed. Bydd fy nghanfyddiadau'n helpu i ddiogelu bywyd morol a chefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy morol drwy lywio prosesau cydsynio.
Bydd yr ysgoloriaeth yn fy ngalluogi i gymryd rhan yn y gynhadledd ymchwil uchaf ei bri yn fy maes ac i gyflwyno fy ngwaith ymchwil ynddi. Dyma gyfle i arddangos fy ngwaith ymchwil, siarad â rheoleiddwyr, a dysgu gwersi gan arbenigwyr yn y diwydiant ynni adnewyddadwy morol, yn ogystal â thynnu sylw at y datblygiadau cyffrous yn y maes yma yng Nghymru.”
Meddai Sylvia Robert-Sargeant, un o'r beirniaid yn y gystadleuaeth hon, wrth roi'r dyfarniadau hyn i Kristen a William:
“Un o nodau'r cwmni yw annog a helpu myfyrwyr i ddatblygu prosiect penodol. Rydym yn codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol a thrwy ymgyrraedd yn ehangach i'n gwŷr lifrai am gymorth ariannol, yn ogystal â'r gymuned ehangach yng Nghymru drwy wahodd cylchoedd busnes, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill sydd am hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau.
Mae'r ddau brosiect cyffrous hyn yn dangos sut gall y fath waith arloesol wneud cyfraniad hanfodol at ymchwil feddygol ac amgylcheddol yng Nghymru. Rydym hefyd yn falch ein bod yn gallu cefnogi ymdrechion Kristen a William i feithrin a datblygu cysylltiadau ag arbenigwyr eraill yn eu meysydd.”