Mae menyw sydd ymhlith y bobl gyntaf yn ei theulu i fynd i'r brifysgol, ac sy’n byw gyda syndrom Asperger ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), wedi talu teyrnged i bawb sydd wedi ei chefnogi, gan annog eraill i ddilyn ei hesiampl, wrth iddi ennill gradd meistr – gyda rhagoriaeth – mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe.
Derbyniodd Jessica Smith, o Shirley yng Nghanolbarth Lloegr, ei gradd ar y llwyfan yn Arena Abertawe yr wythnos hon, gan goroni hanes o gyflawniadau nodedig yn Abertawe. Dyfarnwyd gradd BA (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) mewn Hanes a Daearyddiaeth iddi yn 2020, cyn iddi ymgymryd â'r MA.
Mae gan Jessica swydd amser llawn bellach yng Nghyngor Sir Dyfnaint ym maes cynllunio trafnidiaeth, gan ddefnyddio ei sgiliau trefnu eithriadol.
Fodd bynnag, nid oedd ei llwybr i lwyddiant yn hawdd o bell ffordd.
Ychydig iawn o bobl yn nheulu Jessica neu'r gymuned leol oedd wedi mynd i'r brifysgol, felly roedd hyd yn oed cyflwyno cais yn gam mawr. Eto, roedd Jessica yn wynebu hyd yn oed mwy o heriau gan y darganfuwyd bod ganddi syndrom Asperger, sef cyflwr ar y sbectrwm awtistig (ASC), pan oedd yn ei harddegau. Meddai: “Roeddwn i wir yn torri fy nghwys fy hun.”
Yn ôl Jessica, mae byw gydag ASC yn anodd weithiau ond mae rhywun ag ASC yn gallu gwneud rhai pethau sydd y tu hwnt i allu rhywun niwronodweddiadol – felly, mae'n credu y gall fod yn fantais. Ond roedd diffyg diagnosis a chymorth arbenigol yn yr ysgol yn golygu bod dysgu mewn ystafell ddosbarth draddodiadol yn anodd iawn iddi. Fodd bynnag, ar ôl iddi gyrraedd coleg chweched dosbarth, llwyddodd i gael y cymorth roedd ei angen arni, gan gynnwys ei hannog i ystyried mynd i'r brifysgol.
Gyda chefnogaeth ei rhieni, Debbie a Gary, dechreuodd Jessica edrych ar brifysgolion, gyda'r bwriad o gyflwyno cais.
Meddai Jessica:
“Dau beth am Abertawe a ddenodd fy sylw – y llun o syrffiwr ar y traeth ger y campws a oedd yn y prosbectws, a'r ffaith bod gan y Brifysgol dîm cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr ag ASC. Doedd dim un o'r prifysgolion eraill roeddwn i wedi bod yn edrych arnyn nhw'n cynnig y naill beth na'r llall.
“Daeth ffrind a fi i ddiwrnod agored ac yn y pen draw daeth y ddau ohonon ni i astudio yn Abertawe!”
Mae gan Brifysgol Abertawe dîm ASC ymroddedig, sy'n cefnogi myfyrwyr o'r adeg pan fyddant yn derbyn lle yn wreiddiol, tan iddynt gyrraedd ac ymgartrefu a thrwy gydol eu hastudiaethau.
Un adnodd hanfodol yw grŵp Eureka, grŵp cymdeithasol i fyfyrwyr sy'n ei chael hi’n anodd cwrdd â phobl newydd, neu sydd ag ASC, neu sy'n meddwl y gallant fod ar y sbectrwm, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael diagnosis.
Disgrifiodd Jessica y cymorth roedd wedi ei dderbyn a arweiniodd at ei llwyddiant:
“Roedd y cymorth gan dîm ASC Abertawe yn anhygoel. Roedd yn help mawr i mi wrth fagu hyder. Gall fod yn anodd i unrhyw un, ond i bobl ag ASC, gall dechrau yn y brifysgol a chymysgu â phobl newydd fod yn arbennig o anodd.
“Un peth a fu'n help mawr i mi oedd hyblygrwydd y dulliau asesu, a oedd yn golygu dewis arholiadau yn hytrach na gwaith cwrs cymaint â phosib yn fy achos i.
“Ond rwyf wedi ffynnu mewn agweddau eraill hefyd, ar ben fy astudiaethau. Roeddwn i’n gweithio fel myfyriwr llysgennad uwch, gan dywys darpar fyfyrwyr ar ddiwrnodau agored, a defnyddio fy sgiliau trefnu er mwyn helpu i symleiddio gweithrediadau. Yn ystod Wythnos Groeso'r Brifysgol, creais i fan diogel i bobl ag ASC ar y diwrnod.
“Cymerais i ran mewn triathlonau ac athletau ac enillais i fedal efydd yn rasys cyfnewid Cymru.
“Roedd yn dipyn o gamp i rywun ag ASC wneud yr holl bethau hyn, ac roedd cymorth y tîm yn Abertawe'n amhrisiadwy.
“Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i gael cymaint o gymorth gan fy rhieni, a weithiodd yn galed iawn, a fy nghariad, a raddiodd o'r Brifysgol yr wythnos hon hefyd. Byddai wedi bod yn amhosib i mi lwyddo hebddyn nhw.”
Yn ogystal, talodd Jessica deyrnged i'w chyn-athrawon ysgol a'i darlithwyr, yn enwedig Dr Sarah Crook, Dr Richard Hall, Dr Michael Bresalier a'r Athro David Turner yn yr adran Hanes, a Dr Keith Halfacree, Dr Rhian Meara, yr Athro Marcus Doel a'r Athro Rory Walsh yn yr adran ddaearyddiaeth.
Pan ofynnwyd iddi beth byddai'n ei ddweud wrth bobl sy'n wynebu heriau tebyg, meddai Jessica:
“Fy neges i yw: beth bynnag yw eich cefndir, gallwch chi lwyddo.
“Ac os oes gennych chi ASC, peidiwch â chaniatáu i'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef ym meddyliau pobl eraill fod yn rhwystr i chi. Beth bynnag yw eich nodau, gallwch chi eu cyflawni ac er bod cymorth yn beth hyfryd, peidiwch â theimlo fel bod rhaid i chi gael eich diogelu drwy'r amser.
“Bydd yn anodd. Rhaid i bobl ag anabledd weithio'n llawer caletach er mwyn llwyddo. Ewch ati i weithio'n galed, rhoi trefn arnoch chi eich hun a darganfod pa gymorth sydd ar gael i chi, a threuliwch amser i ffwrdd yn mwynhau bywyd hefyd.
“Os ydych chi'n ystyried mynd i'r brifysgol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis un lle rydych chi'n gwybod byddwch chi’n cael y cymorth sydd ei angen arnoch i lwyddo, yn academaidd ac yn ehangach. Mae hynny'n hollbwysig.
“Anelwch yn uchel – a pheidiwch â chaniatáu i neb eich dal yn ôl.”