Mae gwyddor deunyddiau a pheirianneg wedi cyrraedd y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn gwobrau am waith arloesol yr adran ar dechnoleg ynni adnewyddadwy.
Mae'r NSS yn arolwg blynyddol proffil uchel o bron hanner miliwn o fyfyrwyr mewn prifysgolion ledled y DU, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi cyrraedd diwedd eu hastudiaethau. Mae'r cwestiynau'n ymdrin â llawer o feysydd, gan gynnwys eu boddhad cyffredinol â'u profiad, lle barnwyd bod yr adran yn Abertawe ar y brig yn y DU.
Mae gwyddor deunyddiau a pheirianneg yn faes cyffrous sy'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg ac sy'n cysylltu'n agos â'r rhan fwyaf o agweddau ar beirianneg.
Mae Abertawe'n un o brif ganolfannau'r DU ar gyfer y pwnc. Mae cysylltiadau diwydiannol y Brifysgol yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr dreulio blwyddyn mewn lleoliadau diwydiannol, yn ogystal â chynnig rhagolygon ymchwil a chyflogaeth gwych.
Mae Abertawe yn y chweched safle yn y DU am ragolygon graddedigion, wrth i fyfyrwyr fynd rhagddynt i gael gyrfaoedd diddorol gyda chwmnïau megis Tata Steel, Rolls-Royce, Jaguar Land Rover, Atkins, GE Aviation, Mott MacDonald a Babcock International Group.
Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg
Mae'r Adran Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg wedi cyrraedd y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr ar ôl arwain ymchwil ar dechnolegau adnewyddadwy a enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines, a gyflwynwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.
Dyfarnwyd y wobr am waith SPECIFIC, sef consortiwm academaidd a diwydiannol a sefydlwyd yn 2011 i ymchwilio i ddatblygiad technolegau ffotofoltäig rhad ac effeithlon sy'n trawsnewid ynni solar yn drydan.
Mae SPECIFIC wedi arloesi'r cysyniad o adeiladau ynni gweithredol, sy'n cynhyrchu, yn stori ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain at ddibenion gwres a phŵer. Mae dau o'r adeiladau hyn wedi cael eu hadeiladu ar gampws y Brifysgol ac maent wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus, gan ddangos bod y technolegau'n effeithiol.
Mae SPECIFIC hefyd yn rhoi technoleg ar waith ledled y byd drwy adeiladu adeiladau sy'n cael eu pweru gan yr haul yn India a gweithio gyda'r diwydiant argraffu tecstilau drwy sgriniau ym Mecsico i gynhyrchu modiwlau solar ar ddeunyddiau hyblyg.
Darllenwch am waith SPECIFIC ar Adeiladau Ynni Gweithredol
Enillodd ymchwil yr adran ragor o glod yn gynharach eleni pan gafodd yr Athro Dave Worsley a'r Athro James Durrant, sy'n arbenigwyr mewn technoleg ynni solar, eu hanrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines. LINK
Meddai'r Athro David Worsley o'r Adran Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn Abertawe:
“Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod ein myfyrwyr yn canu clodydd eu profiad yn Abertawe – mae'n newyddion gwych bod eu pleidleisiau wedi ein rhoi ar y brig yn y DU.
“Mae gennym dîm gwych yma sy'n ymrwymedig i'r safonau uchaf o addysgu a chefnogi myfyrwyr. Gallwn ni hefyd gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer cysylltiadau â byd diwydiant. Yn ein hymchwil, rydyn ni'n dod o hyd i atebion i broblemau mwyaf ein hoes, yn enwedig yr argyfwng hinsawdd.
“Wrth i flwyddyn academaidd newydd agosáu, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr newydd. Sut bynnag y maen nhw'n ein cyrraedd – boed hynny drwy glirio neu unrhyw lwybr arall – gallwn ni gadarnhau y byddan nhw'n cael croeso cynnes a phrofiad gwych yma yn Abertawe.”