Mae marwolaeth ddiangen perthynas annwyl wedi annog angerdd Bethel Ohanugo dros wella gofal iechyd yn Nigeria, ei mamwlad.
Bellach mae hi wedi ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn caniatáu iddi barhau â'i hastudiaethau ym maes cynyddol gwybodeg iechyd.
Bethel Ohanugo yw derbynnydd diweddaraf blynyddol y Brifysgol o Ysgoloriaeth Eira Francis Davies. Bydd yn dechrau ar ei hastudiaethau yn Abertawe ym mis hydref.
Dyfernir yr ysgoloriaeth ffioedd dysgu llawn i un myfyriwr benywaidd rhagorol yn ystod pob blwyddyn academaidd. Fe’i sefydlwyd yn 2012 gan y diweddar Eira Francis Davies gyda’r bwriad o gynorthwyo menywod o wledydd y gallai eu cefndir economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gyflwyno heriau a rhwystrau i wireddu eu potensial.
Yn ystod ei gradd israddedig, astudiodd Bethel ficrobioleg lle dilynodd gyrsiau mewn data iechyd a biowybodeg. Arweiniodd hyn at iddi wneud cais am MSc mewn Gwybodeg Iechyd yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Meddai: “Derbyniodd fy modryb ddiagnosis anghywir mewn ysbyty oherwydd y diffyg awtomeiddio wrth drin ei data iechyd. Bu farw ym mlodau ei dyddiau yn fuan wedyn.
“Mae’n anochel y bydd mwy o gamgymeriadau o’r natur hwn yn digwydd wrth i boblogaeth Nigeria dyfu ar gyfradd flynyddol gynyddol, oherwydd diffyg staff iechyd i fodloni’r sylw sydd ei angen ar draws y wlad. Mae gwybodeg iechyd yn Nigeria yn faes sy’n dod i’r amlwg ac mae lefel isel o ymwybyddiaeth o’i fanteision.”
Mae Bethel ar hyn o bryd yn gweithio fel arbenigwr data clinigol, ac yn byw yn Lagos State. Mae’n ymwneud â phrosiectau i werthuso a dilysu data a gasglwyd mewn treialon clinigol parhaus ar draws y byd.
Dywedodd ei bod wedi dewis gwneud cais i Abertawe oherwydd ei henw da am ragoriaeth mewn cyrsiau a addysgir a chyrsiau sy'n seiliedig ar ymchwil yn ei maes o’i dewis.
Meddai: “Rwy’n credu bod yr adran hon yn cyd-fynd â’m dyheadau gyrfa gan ein bod yn rhannu’r nod cyffredin o ddarparu atebion arloesol i ddarparu gofal iechyd.
“Trwy gyflwyno awtomeiddio, byddai cyfraddau gwallau mewn triniaethau a phresgripsiynau yn gostwng yn sylweddol. Byddai hyn o fudd i'r rhai sy'n derbyn gofal iechyd a bydd yn gwella ansawdd bywyd sy'n dirywio ymhlith Nigeriaid.”
Dyweda Bethel y byddai'r radd meistr yn ei helpu i gyflawni nod ei gyrfa o sefydlu ymgynghoriaeth gwybodeg iechyd sy'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar gontract allanol yn ogystal â systemau gwybodaeth iechyd.
“Byddai hyn yn helpu sefydliadau meddygol i sicrhau canlyniadau ac effeithlonrwydd gwell i gleifion.
“Bydd cael y lefel hon o addysg yn rhoi mantais i mi, nid yn unig i greu cyfleoedd gwaith ond hefyd i annog eraill i gymryd diddordeb yn y maes hwn wrth achub bywydau.
“Gyda chyfradd ddiweithdra amcangyfrifir y bydd yn cyrraedd 35 y cant erbyn 2023, teimlaf bod yn rhaid i mi wella’r naratif yn Nigeria a bod yn rhan o’r newid yr wyf am ei weld.”
Dywed Bethel y bydd derbyn yr ysgoloriaeth yn newid ei bywyd.
“Aberthodd fy rhieni bopeth i sicrhau fy mod yn mynd i'r brifysgol. Rwy’n dod o linach lle mae addysg merched yn cael ei hystyried yn fraint ac mae gallu datblygu fy astudiaethau yn gyfle unwaith-mewn-oes efallai na fyddaf yn gallu ei gyflawni ar fy mhen fy hun.
“Pan fyddaf yn ystyried y camau sylweddol y mae enillwyr yr ysgoloriaethau blaenorol fel Lovelyn Obiakor wedi cymryd, rwy’n cael fy atgoffa fy mod innau hefyd yn gallu cyflawni campau gwych.”
Bellach mae’n edrych ymlaen at fywyd yn Abertawe.
“Rhan enfawr o fy hunaniaeth Nigeriaidd yw cael rhieni sy'n dod o wahanol lwythau. Mae hyn yn fy helpu i gofleidio amrywiaeth ddiwylliannol mewn unrhyw leoliad y byddaf yn ei gael fy hun. Roedd gwneud cais i Abertawe yn benderfyniad hawdd i'w wneud oherwydd diwylliant cyfoethog a nodedig Cymru. Rwy'n ei hystyried yn anrhydedd i ymuno â chymuned sy'n derbyn fy nhreftadaeth tra byddaf yn dysgu mwy am eu treftadaeth nhw.
“Edrychaf ymlaen yn awr at weld Prifysgol Abertawe yn rhan o fy stori.”