Mae'n bosib bod gan hen dechneg o oresgyn ofnau'r potensial i ryddhau pobl rhag ofnau a phryderon ynghylch Covid-19, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.
Cafodd y dechneg, o'r enw gwrthgyflyru (counterconditioning), ei dyfeisio yn y 1920au ar sail gwaith Ivan Pavlov gyda chŵn ynghylch sut mae ofnau'n cael eu dysgu drwy baru ysgogiadau â chanlyniadau amhleserus.
Canfu un o arloeswyr cynnar gwrthgyflyru, Mary Cover-Jones, y gallai lwyddo i leihau ofn plentyn ifanc o gwningod drwy ganiatáu iddo fwyta ei hoff fwyd o flaen lluniau o gwningod a chwningod go iawn y daethpwyd â hwy'n agosach ac yn agosach, a hynny'n raddol.
Mae'r dull yn llwyddo i wrthsefyll cyflyru blaenorol drwy baru'n raddol ag ysgogiad pleserus a boddhaus.
Er gwaethaf ei symlrwydd, mae'r enghreifftiau o ddefnyddio gwrthgyflyru at ddibenion ymchwil yn gymharol brin. Hynny yw, tan nawr. Mewn astudiaeth a gynhaliwyd yn ei chyfanrwydd ar-lein yn ystod un o gyfnodau clo'r DU o ganlyniad i Covid-19 yn 2021, ymchwiliodd yr Athro Simon Dymond a'i gydweithwyr a allai'r hen dechneg hon oresgyn ofn pobl o Covid-19 a lleihau nifer y gweithiau y maent yn osgoi sefyllfaoedd sy'n gysylltiedig â'r feirws.
Er mwyn gwneud hynny, recriwtiodd y tîm 123 o bobl o bob rhan o'r DU rhwng mis Mawrth a mis Mai 2021 a oedd ar y pryd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau Covid-19 cenedlaethol megis dim cymysgu rhwng aelwydydd, dim teithio, cyfyngiadau ar gynulliadau cymdeithasol, a chadw pellter cymdeithasol gorfodol. Yna dangosodd tîm yr Athro Dymond fod pobl a oedd yn gwisgo mygydau yn beryglus drwy baru lluniau ohonynt â sgrech swnllyd amhleserus.
Yna, er mwyn ymdrechu i wrthgyflyru'r ofn hwn a oedd wedi’i ddysgu, cyflwynodd y tîm luniau o weithgareddau roedd pobl wedi cael eu hatal rhag eu gwneud ar y pryd, megis dal dwylo, cofleidio, cusanu, eistedd gyda'i gilydd ar ynys ar wyliau, neu ddathlu dan do gyda grŵp mawr. Yna cynhaliodd y tîm brawf i weld a oedd grŵp o bobl a oedd wedi cael eu gwrthgyflyru fel hyn yn teimlo dan lai o fygythiad ac yn defnyddio tactegau osgoi'n llai aml na grŵp o bobl nad oeddent wedi cael eu gwrthgyflyru. Roedd y canlyniadau'n amlwg: roedd gwrthgyflyru'n lleihau disgwyliadau pobl o fygythiad ac yn lleihau tactegau osgoi ganddynt o'u cymharu â phobl nad oeddent wedi cael eu gwrthgyflyru.
“Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod dull therapiwtig syml ond cain yn helpu i oresgyn ofn a thactegau osgoi sy'n gysylltiedig â'r pandemig,” meddai'r Athro Dymond, a arweiniodd yr astudiaeth gyda Dr Gemma Cameron, Dr Martyn Quigley, a Dr Dan Zuj o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe. “Mae'r ffaith y gellir ei ddarparu o bell – ar-lein – yn ychwanegu at botensial anferth gwrthgyflyru wrth ymdopi â chanlyniadau Covid-19.”
Mae'r astudiaeth newydd gael ei chyhoeddi ar sail mynediad agored yn y Journal of Behavior Therapy and Experimental Psychiatry ac fe'i hariannwyd drwy grant gan Sêr Cymru/Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i'r Athro Dymond, Dr Martyn Quigley, a Dr Daniel Zuj.