Menyw feichiog yn gwisgo mwgwd wyneb yn derbyn brechiad

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw feichiog o bosib yng Nghymru fyddai'n cael y brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd, er bod dwy o bob tair yn dweud y byddent yn cael y brechlyn.

Mae petruster o ran brechlyn yn ystyriaeth bwysig ymysg poblogaethau sy'n agored i niwed, megis menywod beichiog yn ystod y pandemig.  Nod yr astudiaeth, a arweiniwyd gan y tîm Ganed yng Nghymru yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth ar y cyd ag Ysgol Feddygaeth Bryste ac Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd:

  • Amcangyfrif cyfraddau brechiadau Covid-19 ymysg menywod beichiog yng Nghymru a'u cysylltiad ag oedran, ethnigrwydd, ardal o amddifadedd, gan ddefnyddio cysylltedd data cofnodion iechyd electronig; ac,
  • archwilio barn menywod beichiog ar dderbyn brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd gan ddefnyddio data o arolwg recriwtio drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy fydwragedd, a phosteri mewn ysbytai.

Nododd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn BMC Infectious Diseases, fenywod sy'n byw yng Nghymru a oedd yn feichiog rhwng 13 Ebrill a 31 Rhagfyr 2021, yn 18 oed neu'n hŷn, ac yn gymwys am frechiad Covid. 

Defnyddiodd y tîm Fanc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL), ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn casglu ac archwilio data gan feddygon, derbyniadau i'r ysbyty, iechyd plant cymunedol cenedlaethol, dangosyddion mamol a data brechiadau Covid yng Nghymru.  Mae Banc Data SAIL yn storfa ddata anhysbys sy'n hwyluso cysylltu data. Drwy gysylltu data, mae’n galluogi ymchwilwyr i ddod â gwybodaeth ynghyd o adnoddau amrywiol i greu dealltwriaeth ddyfnach ac ansawdd gwybodaeth i’w defnyddio yn eu gwaith ymchwil.  

Ar wahân, gwahoddwyd detholiad o fenywod beichiog yng Nghymru i gwblhau arolwg ar-lein yn gofyn am eu barn am gael brechiad Covid yn ystod beichiogrwydd, a oeddent eisoes wedi’i gael, neu’n bwriadu ei gael yn ystod beichiogrwydd a’r rhesymau dros eu penderfyniadau.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

  • Roedd 32.7% o fenywod wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn Covid yn ystod beichiogrwyd;
  • Roedd 34.1% heb eu brechu drwy gydol y cyfnod dilynol;
  • Roedd 33.2% wedi cael y brechlyn ar ôl rhoi genedigaeth;
  • Roedd menywod iau (dan 30 oed) a'r rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn llai tebygol o fod wedi cael y brechlyn; ac
  • Roedd grwpiau Asiaidd ac ethnig eraill ychydig yn fwy tebygol o gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd o'u cymharu â'r grŵp Gwyn.

Dyma brif ganfyddiadau'r arolwg gyda menywod beichiog:

  • Nododd 69% y byddent yn hapus i gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd;
  • Nododd 31% na fyddent yn cael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd;
  • Roedd y rhesymau dros gael y brechlyn yn ymwneud â diogelu eu hunain a'r baban, lefel risg ganfyddedig a derbyn digon o dystiolaeth a chyngor; ac
  • roedd y rhesymau dros wrthod cael y brechlyn yn cynnwys diffyg ymchwil am ganlyniadau hirdymor i'r baban, pryder am frechlynnau, cyngor/gwybodaeth anghyson ac yn dewis aros tan ar ôl y beichiogrwydd.

Meddai'r awdur arweiniol Dr Mohamed Mhereeg, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth: “Mae brechiadau'n diogelu yn erbyn clefydau difrifol. Wrth i'r pandemig barhau, mae brechiadau atgyfnerthu'n fwyfwy pwysig i ddiogelu yn erbyn Covid-19 difrifol, yn enwedig ar gyfer poblogaethau sy'n agored i niwed megis menywod beichiog.

"Mae'n hynod bwysig i ddatblygu strategaethau penodol i gynyddu cyfraddau derbyn brechlyn Covid-19 a lleihau petruster. Efallai bydd angen ymagwedd fwy penodol at frechiadau i gyrraedd grwpiau penodol megis pobl iau, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig cymysg a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae annog poblogaethau sy'n agored i newid, gan gynnwys menywod beichiog yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen."

Meddai'r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ymchwil fel hon yn hollbwysig wrth wella ein dealltwriaeth o bobl a'r ffordd y maen nhw'n rhyngweithio ag opsiynau gofal iechyd sydd ar gael iddynt. Mae canfyddiadau astudiaeth yn helpu i lywio a chefnogi llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd i nodi bylchau mewn cyfranogiad, gan roi'r cyfle i ddod o hyd i atebion sy'n diwallu anghenion  cynifer o bobl â phosib, yn enwedig y grwpiau mwyaf agored i niwed."

Ariennir y Ganolfan Genedlaethol i Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ariannwyd yr ymchwil hon gan yr Astudiaethau Craidd Cenedlaethol, menter a ariennir gan UKRI, NIHR a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyda chefnogaeth HDR UK.

 

Rhannu'r stori