Mae Dr Muhammad Naeem Anwar, o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, ymhlith aelodau cyntaf Academi’r Ifanc newydd y DU – sef rhwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar ac ymarferwyr proffesiynol a grëwyd i helpu i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid ystyrlon.
Fel rhan o'r garfan gyntaf o 67 o aelodau a gyhoeddwyd gan academïau cenedlaethol y DU ac Iwerddon, bydd Dr Anwar yn cael y cyfle i helpu i lywio strategaeth a ffocws y sefydliad newydd hwn, ar sail y meysydd sy'n bwysig iddynt.
Ynghyd â'r aelodau eraill o bob rhan o'r byd academaidd, sefydliadau elusennol a'r sector preifat, byddant yn cael y cyfle i lywio trafodaethau am bolisïau lleol a byd-eang, gan fanteisio ar eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad i ddod o hyd i atebion arloesol i'r heriau sy'n wynebu cymdeithasau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae Academi’r Ifanc y DU wedi cael ei sefydlu fel cydweithrediad rhyngddisgyblaethol ag academïau cenedlaethol uchel eu bri: Academi'r Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Peirianneg, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin a'r Gymdeithas Frenhinol. Mae'n ymuno â menter fyd-eang Academïau’r Ifanc. Academi’r Ifanc y DU yw 50fed aelod y mudiad.
Meddai Dr Anwar:
“Mae'n fraint i mi fod yn rhan o garfan gyntaf Academi’r Ifanc y DU (UKYA), ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ymarferwyr proffesiynol dawnus ar draws disgyblaethau amrywiol i helpu i greu dyfodol gwell. Nod UKYA yw galluogi ymchwilwyr ifanc i gyfleu materion gwyddonol mewn modd mwy difyr a bydd ei thimau amlddisgyblaethol yn sicr o gyflwyno rhywbeth rhagorol.”
Datganodd yr Athro Gert Aarts, Pennaeth Grŵp Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg Ddamcaniaethol (PPCT) Prifysgol Abertawe lle mae Dr Anwar yn gweithio:
“Mae'n anrhydedd arbennig bod Dr Anwar wedi cael ei ddewis i fod yn rhan o Academi’r Ifanc y DU, ac yntau'n unig ymgeisydd ein Prifysgol. Ymunodd ef â'r grŵp PPCT ym mis Mai 2022 gyda Chymrodoriaeth Ryngwladol Newton y Gymdeithas Frenhinol ac mae e'n gwneud cyfraniad pwysig at ein dealltwriaeth o hadronau. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn gam nesaf pwysig yn ei yrfa.”
Meddai'r Athro Prem Kumar, Cyd-bennaeth Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe:
“Mae Academi’r Ifanc y DU yn llwyfan uchelgeisiol i alluogi ymchwilwyr gyrfa gynnar i gysylltu, ceisio rhagori ym maes gwyddoniaeth, a gweithredu fel symbylwyr newid byd-eang. Mae'n wirioneddol wych gweld Dr Anwar, Cymrawd Rhyngwladol Newton ac aelod o'n grŵp ymchwil Ffiseg Gronynnau Ddamcaniaethol, yn cael ei ddewis gan yr academi hon. Ac yntau'n unig gynrychiolydd Prifysgol Abertawe, ac yn un o bump o Gymru, rwy'n siŵr y bydd yn rhagori yn ei rôl gyda'r Academi, fel y mae'n parhau i'w wneud yn ei faes ymchwil.”
Dechreuodd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn eu swyddi'n swyddogol ar 1 Ionawr 2023, ac mae aelodaeth yn para am bum mlynedd. Disgwylir y daw'r alwad nesaf am geisiadau yn 2023.