Mae gwyddonydd amlwg ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘patshyn clyfar’ newydd sy’n gallu canfod biofarcwyr llidhyrwyddol afiechydon niwroddirywiol megis clefydau Parkinson ac Alzheimer trwy ddefnyddio technoleg micronodwyddau.
Byddai’r datblygiad arloesol hwn sy’n hybu gallu trawsdermol yn golygu bod modd defnyddio ‘patshys clyfar’ i ganfod rhai biofarcwyr yn hylif interstitaidd y croen (ISF) mewn modd “di-waed”.
Mae’r patshys yma’n cynnwys araeau o nodwyddau mân - micronodwyddau - a luniwyd i dorri trwy’r croen, mewn modd sy’n cyfyngu cymaint â phosibl ar y mewnwthio a monitro’r biofarcwyr sydd ag arwyddocâd clinigol.
Mae modd eu rhoi ar y croen eich hunan i gael diagnosis pwynt gofal mewn meddygfa neu hyd yn oed gartref. Gallai’r gwaith ymchwil arloesol hwn newid y sefyllfa o ran canfod afiechydon niwroddirywiol yn gynnar.
Dyma ddywedodd Dr Sanjiv Sharma, a fu gynt yn datblygu ‘patshyn clyfar’ cyntaf y byd ar gyfer COVID-19:
“Y croen yw’r organ mwyaf yn y corff – mae’n cynnwys mwy o ISF na holl gyfaint y gwaed. Mae’r hylif hwn yn uwch-hidlydd gwaed ac yn cynnwys biofarcwyr sy’n cyd-fynd â biohylifau eraill megis chwys, poer ac wrin.
Mae modd ei samplo mewn modd sydd o’r braidd yn fewnwthiol a’i ddefnyddio naill ai ar gyfer profion pwynt gofal neu mewn amser go iawn, gan ddefnyddio dyfeisiau micronodwyddau.
Defnyddiwyd patshys araeau micronodwyddau biosynhwyraidd ar ffurf synwyryddion trawsdermol gwisgadwy i ganfod y cytocin llidhyrwyddol IL-6. Mae IL-6 yn bresennol yn ISF y croen gyda cytocinau eraill, ac mae ymhlyg mewn llawer o gyflyrau clinigol, gan gynnwys afiechydon niwroddirywiol a niwmonia angeuol sy’n deillio o SARSCoV 2.
Rydym wedi gallu canfod IL-6 ar grynodiadau mor isel ag 1 pg/mL mewn ISF croen synthetig, sy’n dangos pa mor ddefnyddiol y bydd ar gyfer mesuriadau pwynt gofal di-waed, rheolaidd mewn cyd-destunau symlach ar draws y byd.
Mae modd addasu graddfa’r dyfeisiau a ddatblygwyd gennym ni, ac mae gan y synhwyrydd sy’n deillio o hynny amser mesur byr (6 munud), gyda lefel uchel o gywirdeb a therfyn canfod isel.
Bydd yr offeryn diagnostig newydd hwn, ar gyfer sgrinio biofarcwyr llidhyrwyddol mewn profion pwynt gofal, yn gweld y croen yn cael ei ddefnyddio fel ffenestr ar y corff ac organau hollbwysig fel yr ymennydd.”
Gwnaed y gwaith hwn mewn cydweithrediad â Biomark, ISEP, Porto, Portwgal.
Dyma sylw gan y cyd-awdur, Felismina Moreira o Ysgol Peirianneg y Sefydliad Polytechnig, Portwgal:
“Mae Biomark ISEP Porto wedi arloesi gyda chymwysiadau polymerau imprintio moleciwlaidd (MIPs) ac wedi eu hestyn i wahanol gymwysiadau gofal iechyd. Trwy gyfuno hyn ag arbenigedd Abertawe mewn diagnosteg drawsdermol rydym wedi dangos bod yr MIPs, ar y cyd â’r araeau nodwyddau, yn blatfform gwych ar gyfer datblygu dyfeisiau pwynt gofal sy’n profi heb ollwng gwaed. Mae modd estyn y rhain i ddiagnosteg gardiofasgwlaidd, canser ac anhwylderau niwroddirywiol.”
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda’u partneriaid ymchwil yn y Deyrnas Unedig, Portwgal, Ffrainc a Japan i hybu maes diagnosteg drawsdermol a’i estyn er mwyn datblygu dyfeisiau diagnostig ar gyfer llu o gymwysiadau gofal iechyd.
Cyhoeddwyd y papur dan y teitl ‘Molecular Imprinted Polymers on Microneedle Arrays for Point of Care Transdermal Sampling and Sensing of Inflammatory Biomarkers’ gan Gymdeithas Gemeg America.
Mae rhaglen IMPACT yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.