Mae arbenigwr o Abertawe wedi ennill y wobr gyntaf mewn cynhadledd ryngwladol o fri am ei waith sy'n mynd i'r afael â llygredd afonydd o hen fwynfeydd.
Mae Aaron Todd o'r Adran Ddaearyddiaeth yn ymgymryd â PhD ar reoli afonydd a mesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt (salt dilution flow gauging), sef techneg ar gyfer amcangyfrif llif nant fach yn gyflym ac yn hawdd.
Mae wedi bod yn cynnal ei waith maes yng ngweithfeydd plwm Nantymwyn yn Sir Gâr, y rhoddwyd y gorau iddynt ym 1932. Mae gwaith ymchwil Aaron yn helpu i fonitro llygredd o'r gwaith sy'n llifo i afon ac aber Tywi.
Yn ddiweddar, cyflwynodd ei waith ymchwil i'w gyd-arbenigwyr yng Nghynhadledd Ryngwladol y Gymdeithas Dŵr Mwynfeydd yn Seland Newydd. Derbyniodd y wobr gyntaf am ei gyflwyniad, gyda bwrsariaeth gwerth £1500. Rhoddodd Aaron hefyd ail gyflwyniad ar ran ei gyd-ymchwilydd PhD, Stuart Cairns.
Esboniodd Aaron Todd:
"Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau i asesu llifoedd dŵr a llygredd canlyniadol ar draws safle Nantymwyn, gan gynnwys mesur llifoedd ar ôl gosod halen ynddynt, techneg a ddefnyddiais ac a addysgais ar Ynysoedd Philippines yn ddiweddar. Rwyf hefyd yn defnyddio samplu synoptig a chwistrellu olrhain, er bod hyn yn eithaf cyffredin yn yr Unol Daleithiau, mae'n weddol brin yn y DU.
Mae gwaith ymchwil Stuart Cairns wedi bod yn edrych ar y defnydd o bio-olosg - deunydd organig wedi'i losgi - i waredu halogion o amrywiaeth o ddyfroedd yr effeithiwyd arnynt, megis dŵr ffo o draffyrdd. Gwnaeth ef a minnau dreialu ei ddefnydd mewn dau waith metel: yn gyntaf yn Nantymwyn ac yna ar Fynydd Parys ar Sir Fôn, a dyna beth y gwnes i siarad amdano yn y gynhadledd. Gwnaethom ganfod bod y bio-olosg yn gallu dileu dros 90% o'r metelau sy'n peri pryder mewn un funud yn unig, sy'n ganlyniad hynod addawol".
Meddai Pete Stanley, Uwch-ymgynghorydd Arbenigol Gweithfeydd Segur yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n noddi gwaith ymchwil Aaron yn rhannol:
"Mae gwaith ymchwil Aaron yn Nantymwyn wedi helpu i gael gwell eglurder ar y pwysau llygru sy'n bresennol. Mae hyn wedi galluogi gorsafoedd mesur llifoedd i gael eu gosod mewn mannau allweddol, a phan fydd hyn wedi'i gyfuno â ffynonellau gwasgaredig ehangach, mae'n cyfeirio gwaith dichonoldeb parhaus a phroses dylunio gwaith ymyrryd gwrth-lygredd fesul cam.
Mae Nantymwyn wedi datblygu'n safle allweddol yn y Rhaglen Gweithfeydd Metel gan mai dyma'r prif waith llygru. Bydd gwaith yma'n gwella corff o ddŵr hwy (yn yr achos hwn y Tywi) nag unrhyw waith arall yng Nghymru".