![Llun o'r Is-gyrnol Andrew Child, Pennaeth Milwrol Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru, yn eistedd o flaen lle tân mawr wrth lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar y cyd â’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.](/cy/swyddfar-wasg/newyddion-a-digwyddiadau/newyddion/2023/07/Armed-Forces-Convenant.jpg)
Is-gyrnol Andrew Child, Pennaeth Milwrol Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru & Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cyfamod i gydnabod y gwerth y mae'r rhai hynny sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, boed yn aelodau rheolaidd neu’n aelodau wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn ei gyfrannu at y brifysgol a'r wlad.
Daeth cynrychiolwyr o sawl rhan o'r lluoedd arfog ynghyd mewn seremoni yn Abaty Singleton, i nodi cydweithrediad parhaus ein prifysgol â'r lluoedd arfog ac edrych ymlaen at eu cefnogi a chydweithio â hwy yn y dyfodol.
Croesawodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, gynrychiolwyr i'n prifysgol cyn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar y cyd â’r Is-gyrnol Andrew Child, Pennaeth Milwrol Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru.
Meddai'r Athro Boyle:
“Mae gan Brifysgol Abertawe hanes hir o gefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog. Rydyn ni'n falch y bydd llofnodi'r cyfamod hwn yn dangos ein hymrwymiad i ysgogi newid cadarnhaol yn ein polisïau a'n harferion i gefnogi pobl sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a phobl sydd wedi gwasanaethu’n flaenorol, ynghyd â'u teuluoedd, yn y dyfodol.”