Dyn yn sefyll wrth ddarlithfa o flaen bwrdd gwyn.

Gall busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yn Abertawe gael mynediad at gymorth sydd wedi'i ariannu'n llawn ac sydd wedi’i fwriadu i'w helpu i sbarduno arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Chwefror 2024 ymlaen, diolch i gyllid newydd sydd wedi’i sicrhau gan Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC).

Mae'r Rhaglen Twf Glân wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer sefydliadau cymwys ac mae’n cynnig yr offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol, a’u helpu i weithio tuag at nodau Sero Net, gwella lefelau gwasanaethau, lleihau costau gweithredu a chyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae'r rhaglen hefyd yn helpu sefydliadau i hybu arloesedd, gan ddatblygu cynlluniau twf glân a allai fod yn gymwys ar gyfer cyllid arloesi Llywodraeth Cymru. 

Mewn ymateb i'r galw cynyddol o du busnesau, mae’r cymhwystra ar gyfer mewnlifiad 2024 wedi'i ehangu i gynnwys cwmnïau'r sector preifat am y tro cyntaf. 

Bydd y rhaglenni chwe mis newydd yn gweld hyd at 30 o sefydliadau'n dod at ei gilydd i ffurfio cymunedau arloesi newydd. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai misol a dau ddiwrnod preswyl, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o'r economi gylchol, eu cynlluniau ar gyfer twf glân ac arloesi ar y cyd. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio at y cymorth ychwanegol sydd ar gael a staff prifysgolion, yn ogystal â chymorth mentora 1-i-1. 

Mae CEIC yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae wedi bod yn hynod lwyddiannus yn darparu llu o atebion ers ei roi ar waith yn 2021. 

Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen CEIC, Dr Gary Walpole: "Rydyn ni’n falch iawn o allu ymestyn y rhaglenni CEIC i gwmnïau preifat o 2024 ymlaen trwy'r Rhaglen Twf Glân. Bydd newid y garfan yn creu cyfleoedd gwerthfawr i sefydliadau o bob sector ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu’r arferion gorau a nodi meysydd sydd o ddiddordeb i bawb. 

"Yn ein profiad ni, mae'r dull cydweithredol yma yn cyflymu'r gwaith o ddatblygu camau arloesol newydd sydd nid yn unig o fudd i'r sefydliadau dan sylw ond hefyd i'r economi ehangach." 

Mae'r Rhaglen Twf Glân yn dysgu sefydliadau am yr egwyddorion sy'n sail i'r Economi Gylchol, gan eu helpu i ailfeddwl am reoli adnoddau a chyfrannu at uchelgais ‘Sero Net’ Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfranogwyr yn rhannu offer, technegau a’r arferion gorau gyda chyd-aelodau'r gymuned er mwyn nodi a dyfeisio atebion ymarferol i'w heriau twf glân. 

Meddai Dr Walpole: "Gyda thargedau sero net swyddogol yn ffurfioli cysylltiadau amgylcheddol rhwng sefydliadau ar bob cam o'r gadwyn werth, mae'r rhaglenni CEIC yn cynnig cyfle gwirioneddol i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector ar draws yn Abertawe gydweithio i ddatblygu cynlluniau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn diogelu eu gweithrediadau yn y dyfodol.

"Mae pwysigrwydd arferion cynaliadwy a chyd-ddibyniaeth sefydliadau yn cael ei adlewyrchu fwyfwy mewn arferion recriwtio a chaffael, sy'n golygu na fu erioed amser gwell i sefydliadau adolygu eu dull gweithredu a diogelu eu perfformiad yn y dyfodol." 

Mae'r rhaglen Twf Glân yn cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Gall sefydliadau wneud cais ar-lein neu gofrestru ar gyfer un o sesiynau Mewnwelediad ar-lein di-dâl CEIC i ddysgu mwy.

 

Rhannu'r stori