Roedd nifer y bobl sydd wedi cael brechlyn Covid-19 ymhlith plant a phobl ifanc yn isel ar draws y pedair gwlad, o'i gymharu â grwpiau oedran eraill, yn ôl yr astudiaeth ymchwil gyntaf i ystyried data gan bedair gwlad y DU.
Datgelodd hefyd fod y nifer yn is o ran cael ail frechlyn neu bigiad atgyfnerthu.
Roedd nifer y bobl a oedd yn cael brechlyn Covid yn gysylltiedig ag oedran a rhyw'r plentyn a'r person ifanc, yn ogystal â nifer y bobl yn yr aelwyd a'i statws brechu.
Roedd yr ymchwil, dan arweiniad yr Athro Rhiannon Owen ym Mhrifysgol Abertawe a'r Athro Syr Aziz Sheikh ym Mhrifysgol Caeredin, yn cysylltu data iechyd a gweinyddol i archwilio'r nifer sydd wedi cael brechlyn Covid mewn dros 3.4 miliwn o blant a phobl ifanc rhwng 5 ac 17 oed yn y DU.
Roedd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn Nature Communications, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol y Frenhines Belfast, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Strathclyde.
Ystyriodd yr astudiaeth ddata dienw rhwng 4 Awst 2021 a 31 Mai 2022. Archwiliodd y ffactorau sy'n dylanwadu ar y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau ymhlith plant a phobl ifanc, gan gynnwys ffactorau rhyw ac oedran a ffactorau sy'n ymwneud â'r aelwyd, gan ystyried oedi wrth gael y brechlyn oherwydd haint.
Defnyddiodd yr astudiaeth dechnegau modelu a metaddadansoddi aml-gyflwr i nodi newidynnau demograffig allweddol sy'n dylanwadu ar y nifer sy'n derbyn brechlyn ymhlith plant a phobl ifanc ar raddfa genedlaethol.
Dangosodd yr astudiaeth fod 35 y cant o blant a phobl ifanc ledled gwledydd y DU wedi cael y brechlyn cyntaf, bod 21 y cant wedi cael yr ail frechlyn, a 2 y cant wedi cael y dos atgyfnerthu. Yn ystod cyfnod yr astudiaeth, gwnaeth 13 y cant brofi'n bositif am Covid a bu farw 133 o bob achos.
Roedd plant a phobl ifanc rhwng 5 ac 11 oed 90% yn llai tebygol o gael eu brechlyn Covid cyntaf, ac roedd pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed 42% yn llai tebygol o gymharu â phobl ifanc 16 i 17 oed.
Datgelodd yr ymchwilwyr fod plant a phobl ifanc mewn cartrefi heb eu brechu 81% yn llai tebygol o gael eu brechlyn Covid cyntaf o gymharu â phlant a phobl ifanc o aelwydydd ag o leiaf un oedolyn wedi'i frechu.
Roedd dynion 7% yn llai tebygol o gael eu brechlyn cyntaf o gymharu â menywod, ac roedd plant a phobl ifanc a oedd yn byw mewn aelwydydd ag un oedolyn 11% yn llai tebygol o gael eu brechlyn cyntaf o gymharu â phlant a oedd yn byw mewn cartrefi â dau berson.
Meddai'r awdur cyntaf Sarah Aldridge, ymchwilydd a gwyddonydd data yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Abertawe: "Mae ein hymchwil yn pwysleisio'r rôl hanfodol o flaenoriaethu ymdrechion i frechu yn erbyn Covid i blant a phobl ifanc. Mae'r data'n tynnu sylw at yr angen am ymyriadau wedi'u targedu er mwyn mynd i'r afael â ffactorau risg penodol, gan sicrhau amddiffyniad eang a lliniaru effeithiau posibl ar y grŵp oedran hwn.
"Er mwyn paratoi ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol, mae deall a mynd i'r afael â gwahaniaethau yn ymwneud â brechu ymhlith poblogaethau sy'n agored i niwed yn hanfodol i strategaethau iechyd cyhoeddus effeithiol."