Mae Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr (SLA) Prifysgol Abertawe wedi croesawu grŵp newydd o fyfyrwyr gofal iechyd i'w rhaglen arweinyddiaeth, gan gefnogi eu gallu i ddarparu gofal o safon i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol.
Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae'r rhaglen yn ymdrechu i symud ymlaen o'r syniad o arweinyddiaeth sy'n dibynnu ar deitl; yn hytrach, mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr fagu hyder i arwain drwy ysbrydoli, cefnogi eraill a dylanwadu arnynt.
Gall pob myfyriwr cyn-gofrestru o Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol gyflwyno cais am y rhaglen a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gynhadledd arweinyddiaeth sy’n para deuddydd.
Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr gwrdd â phobl o'r un meddylfryd, cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol mewn grŵp a chael eu hysbrydoli gan arweinwyr a chyflogwyr o gefndiroedd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol.
Meddai Mrs Beryl Mansel, Cyfarwyddwr SLA: "Mae gennym 24 myfyriwr o wyth disgyblaeth, gan gynnwys pedwar maes nyrsio, ymarfer yr adran lawdriniaethau, therapi galwedigaethol, ffisioleg gardiaidd a gwyddor barafeddygol, felly mae'r gynhadledd eleni wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau.
"Rydyn ni wedi gweld twf a datblygiad aruthrol ymhlith ein myfyrwyr a'n syfrdanodd ni i gyd; mae eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u hymroddiad wedi bod yn wirioneddol anhygoel, gan ddangos ymrwymiad go iawn i dwf personol a phroffesiynol."
Roedd y gynhadledd yn cynnwys sawl siaradwr o sefydliadau allanol proffil uchel, megis Prifysgol Plymouth a'r Coleg Brenhinol Therapi Galwedigaethol, yn ogystal â myfyrwyr y drydedd flwyddyn, graddedigion a darlithwyr o'r Brifysgol.
Roedd y themâu'n cynnwys cydweithredu rhyngbroffesiynol, cyd-gymorth, hunanhyder a deallusrwydd emosiynol, rhywbeth a gafodd ei amlygu mewn sesiwn gyda dau o gyn-fyfyrwyr SLA, Andrew Lelliott a Simon James.
Meddai Simon, ymarferydd arbenigol yn y Tîm Lymffoedema Cenedlaethol: "A finnau'n un o'r cyfranogwyr cyntaf erioed o'r Academi, mae'n fraint o'r mwyaf cael fy ngwahodd yn ôl fel siaradwr, gan helpu cyfranogwyr i feithrin y sgiliau i wireddu eu huchelgeisiau.
"Ar ddechrau'r rhaglen, rydych chi'n nerfus gan nad ydych chi'n gwybod i ba gyfeiriad bydd yn mynd â chi, ond erbyn y diwedd bydd gennych chi hyder yn eich galluoedd i wynebu pob sefyllfa. Heb yr Academi, dwi ddim yn siŵr y byddwn i lle rydw i heddiw.
Bydd Simon bellach yn chwarae rôl allweddol fel hyfforddwr yn nhaith Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Abertawe eleni.
Yn ogystal â chreu cyfleoedd i rwydweithio, mae hyfforddwyr yn helpu cyfranogwyr drwy gydol y rhaglen, gan rannu eu profiadau a chynnig cipolwg unigryw ar eu proffesiwn yn y dyfodol.
Meddai un o gyfranogwyr rhaglen 2024: "Dwi'n edrych ymlaen at gael hyfforddwr ac arsylwi ar yr hyn sy'n gwneud arweinydd tosturiol. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi bod yn brofiad gwych, a dwi wedi cwrdd â phobl o ddisgyblaethau gwahanol eisoes.
"Ces i fy ysbrydoli wrth wrando ar siaradwyr y gynhadledd, ac maen nhw eisoes wedi fy helpu i ddeall y gallwch chi fynd i unrhyw le yn eich gyrfa os ydych chi wir yn canolbwyntio ar eich nod. Dwi'n edrych ymlaen at ddysgu sut i fod yn ymarferydd empathig, gan ddefnyddio'r cyfle unigryw sy'n cael ei gynnig gan yr Academi i ddatblygu rhinweddau arweinyddiaeth y gallaf i eu rhoi ar waith ar ôl cymhwyso."
Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.