Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio pam mae ymagweddau iechyd cyhoeddus presennol at fynd i'r afael â gordewdra wedi methu a pham mae'n annhebygol y byddant yn atal rhagor o gynyddu.
Mae'r llyfr, Tackling the Obesity Crisis: Beyond Failed Approaches to Lasting Solutions, sydd ar gyfer y cyhoedd cyffredinol, gan David Benton, Athro Emeritws yn yr Ysgol Seicoleg, yn cyhoeddi rhybuddion difrifol am y broblem frawychus, fyd-eang sef gordewdra, sy'n gallu lleihau disgwyliad oes cynifer ag 14 o flynyddoedd.
Yn 2022, gwnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ganfod bod 59% o oedolion yn Ewrop naill ai dros bwysau neu'n ordew, sy'n ystadegyn arswydus sy'n ymddangos fel ei fod yn gwaethygu, a rhagwelir y bydd dros hanner y byd yn ordew erbyn 2035.
Yn ei lyfr newydd, mae'r Athro Benton yn esbonio bod polisi iechyd wedi methu gan nad oes yr un wlad sydd wedi lleihau achosion o ordewdra. Prin iawn yw'r dystiolaeth bod bwyta llai o fraster a siwgr yn arwain at fuddion iechyd, ac yn ôl rhai astudiaethau mae gordewdra wedi cynyddu. Nid oes un dull cyffredin, fel dangos calorïau ar fwydlenni, sydd wedi cael effaith ystyrlon.
Mae'n awgrymu rhesymau amrywiol dros y methiant hwn yn iechyd y cyhoedd.
Meddai'r Athro Benton, “Er bod dros gant o ffactorau sy'n dylanwadu ar ordewdra, mae polisïau'n ystyried un neu ddim mwy nag ychydig ohonynt yn unig. Mae nifer y calorïau sy'n cael eu bwyta gymaint yn fwy na'r hyn y mae eu hangen fel nad yw ymyriadau'n lleihau'r maint a fwyteir yn ddigonol. Hyd yn oed pan fydd unigolion yn gallu lleihau eu pwysau, mae newidiadau biolegol sy'n annog adennill y pwysau sydd wedi'u colli."
Mae'n dod i'r casgliad bod angen defnyddio ymagwedd hollol wahanol.
Meddai'r Athro Benton: “Does dim ateb amlwg, ond mae ychydig o bosibiliadau y gallen ni eu harchwilio. Mae tlodi'n brif ffactor, felly gallai camau gweithredu sy'n canolbwyntio ar y rhan hon o'r gymdeithas fod yn allweddol. Rydym yn gwybod bod y ffordd y mae babanod yn cael eu bwydo yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf o'u bywydau'n penderfynu pa mor debygol y maent o ddatblygu gordewdra pan fyddant yn oedolion ac mae'n bwysig i fam reoli ei phwysau pan fydd hi'n feichiog.
“Mae llawer o'r polisïau presennol â'r nod o gynnig dewis iach, ond oherwydd bod ychydig iawn o bobl yn awyddus i newid eu hymddygiad, mae'n rhaid canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylid grymuso pobl drwy gywiro eu rhagdybiaethau anghywir ac addysgu ymagweddau llwyddiannus iddynt."
Am ddeugain mlynedd, mae'r Athro Benton, sy'n arbenigwr ar ddeiet ac ymddygiad a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi ymchwilio i'r berthynas rhwng maeth a gweithrediad yr ymennydd. Mae ei waith wedi cael ei ddyfynnu gan lywodraeth Unol Daleithiau America a llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth iddynt lunio cyngor ar iechyd ac, yn y Deyrnas Unedig, mae ef wedi rhoi tystiolaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn Nhŷ'r Arglwyddi ar ddylanwad deiet ar ymddygiad.
Mae Tackling the Obesity Crisis: Beyond Failed Approaches to Lasting Solutions, a gyhoeddwyd gan Springer, bellach ar gael i'w brynu gan Amazon.