Menyw yn cusanu pen baban cynamserol mae hi'n ei nyrsio yn yr ysbyty, wedi'i hamgylchynu gan gyfarpar meddygol.

Bydd Prifysgol Abertawe’n cydweithredu â'r Human Milk Foundation (IMF) a'r artist portreadau, Lynne Pearce, i lansio'r arddangosfa gelf ymdrochol. 

Mae Cysylltu Calonnau sy'n defnyddio paentiadau hyfryd a sain i adrodd straeon anhygoel y bobl sydd wedi cael llaeth rhoddwr ar gyfer eu baban, a'r rhai sy'n rhoi llaeth neu'n cefnogi gwaith banciau llaeth.

Mae'r arddangosfa'n amlygu'r effaith aruthrol y gall rhoi llaeth ei chael ar deuluoedd, a sut gall roi gobaith i’r rhai sydd wedi wynebu babanod yn cael eu geni’n gynamserol, colli baban, canser mamol a mwy.

Meddai'r artist, Leanne Pearce:

"Roedden ni am adrodd straeon yr holl bobl hynny sy'n helpu i gefnogi'r banc llaeth. Felly, mae pob paentiad, sy'n cyd-fynd â stori sain, yn sôn am brofiadau rhieni â babanod mewn gofal newyddenegidol, ond hefyd y menywod sydd wedi cael llaeth pan nad oedden nhw'n gallu bwydo ar y fron oherwydd canser, neu'r rhai hynny a oedd yn cael anhawster gwneud digon o laeth ac roedd eu baban hŷn yn sâl.

"Mae fy mhaentiadau hefyd yn portreadu menywod sydd wedi rhoi llaeth mewn amgylchiadau gofidus, gan gynnwys menywod sydd wedi rhoi llaeth ar ôl colli eu baban eu hun. Dwi hefyd wedi paentio'r bobl sy'n cefnogi'r gwasanaeth, fel y beicwyr gwaed sy'n helpu i gludo'r llaeth a'r meddyg llaetha ymgynghorol yn HMF."

Meddai'r Athro Amy Brown o Ganolfan Llaetha, Bwydo ar y Fron ac Ymchwil Drosi (LIFT) y Brifysgol:

"Os nad yw babanod yn gallu cael llaeth eu mamau eu hunain, gall llaeth rhoddwr achub bywyd babanod sâl a'r rhai sy'n cael eu geni'n gynamserol, ond gall hefyd newid bywydau teuluoedd, rhoddwyr a chymunedau. Rydyn ni wrth ein boddau'n gallu arddangos y straeon hyn mewn ffordd mor hyfryd a gafaelgar, ac rydyn ni'n ddiolchgar i'n harianwyr, Cyllid Arloesi Ymchwil Cymru CCAUC ac UKRI sydd wedi gwneud hyn yn bosib."

Meddai cynrychiolydd o'r Human Milk Foundation:

"Rydym yn falch iawn y bydd y straeon anhygoel y tu ôl i'r banc llaeth dynol a gwaith yr Human Milk Foundation yn cael eu hadrodd, gan godi ymwybyddiaeth o'r effaith drawsnewidiol y gall rhoi a derbyn llaeth dynol ei chael ar deuluoedd. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'n harianwyr yn CCAUC ac UKRI, yr Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe a'r artist hynod ddawnus Lynne Pearce am wireddu'r prosiect hwn. Mae hi wedi bod yn wych cydweithredu. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld Cysylltu Calonnau’n cyfareddu pobl ledled y wlad!"

Caiff yr arddangosfa hon ei lansio nos Lun 20 Mai o 6.30pm yng Nghanolfan y  Celfyddydau Taliesin, Campws Singleton Prifysgol Abertawe a bydd cyfle i weld y paentiadau cyn y prif ddigwyddiad yn yr awditoriwm rhwng 7.30pm a 9pm.  

Mae gwybodaeth a thocynnau (am ddim) ar gael yma. 

Yn dilyn y digwyddiad lansio, bydd yr arddangosfa'n symud i leoliad Oriel Science y Brifysgol yng nghanol y ddinas, ac wedyn i Hearts Milk Bank.

Cefnogir y digwyddiad a'r gyfres o baentiadau gan Gyllid Arloesi Ymchwil Cymru CCAUC ac UKRI. Sylwer y bydd y digwyddiad yn cynnwys lluniau o bynciau megis cynamseroldeb babanod, colli baban a chanser, a chaiff y pynciau hyn eu trafod. 

Rhannu'r stori