Dau lun ochr yn ochr, un o ferlod yn sefyll ar fryn glaswelltog gyda thraeth yn y cefndir. Y llall o dref glan môr yn y nos

Bydd rhan ddiweddaraf prosiect ffilmiau unigryw sy'n cynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned i arddangos harddwch Gŵyr yn cael ei dangosiad cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe fis nesaf.

Caiff ail dymor cyfres ddogfen Gŵyr ei sgrinio i gyd-fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd ddydd Mercher 5 Mehefin.p 

Wedi'i ffilmio'n llwyr ym mhenrhyn Gŵyr a de Cymru, mae'r gyfres yn gasgliad o ffilmiau sy'n dangos elfennau o hanes, diwylliant ac adnoddau naturiol lleol. 

Meddai'r cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd, Georgios Dimitropoulos, darlithydd yn y cyfryngau yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: “Ar ôl iddi lwyddo mewn gwyliau ffilmiau ac ennill 17 o wobrau, mae'r gyfres ddogfen Gŵyr yn dychwelyd adref i ddathlu bioamrywiaeth nodedig, ecosystemau unigryw, diwylliant a hanes cyfoethog ein rhanbarth. 

“O ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r llanw i dirweddau arfordirol godidog, mae ein ffilmiau'n cyfuno diwylliant Cymru â rhythmau byd natur. Gallwch fod yn dyst i'r hanes, y diwylliant, y fflora a'r ffawna lleol sy'n gwneud ein rhanbarth yn unigryw. 

“Mae'r cydgynhyrchiad hwn yn cael ei arwain gan ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy drwy'r celfyddydau a diwylliant. Mae pob ffilm yn gam tuag at ddeall a diogelu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol Gŵyr a Chymru.” 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda Georgios, y tîm cynhyrchu ac arbenigwyr amgylcheddol pan fyddant yn rhannu'r straeon y tu ôl i'r ffilmiau, yn trafod eu themâu pwerus, ac yn archwilio ffyrdd o sicrhau dyfodol cynaliadwy. 

Caiff y gyfres ei sgrinio am 7.30pm a gallwch archebu tocynnau nawr 

Darllenwch fwy am brosiect Gŵyr neu ewch i ffilmiau Gŵyr

 

Rhannu'r stori