Mae gwybodaeth ffynhonnell agored bellach yn fwyfwy pwysig mewn achosion cyfreithiol. Mae hyn yn arbennig o wir ym meysydd hawliau dynol, cyfraith ddyngarol a chyfraith trosedd ryngwladol,

Yn oes ddigidol ffugiadau dwfn a deallusrwydd artiffisial, bydd canllaw newydd amserol – sydd wedi’i lansio heddiw – yn helpu barnwyr i asesu a yw lluniau ffynhonnell agored a gyflwynir fel tystiolaeth yn ddilys, yn gredadwy ac yn ddibynadwy.

Mae gwybodaeth ffynhonnell agored bellach yn fwyfwy pwysig mewn achosion cyfreithiol ac ymdrechion i geisio ffeithiau, at ddibenion atebolrwydd a chyfiawnder. Mae hyn yn arbennig o wir ym meysydd hawliau dynol, cyfraith ddyngarol a chyfraith trosedd ryngwladol, fel y gellir ei weld yn y gwrthdaro arfog parhaus yn Gaza ac Wcráin.

Mae'r canllaw newydd, a luniwyd gan grŵp o ysgolheigion cyfreithiol, eiriolwyr hawliau dynol ac arbenigwyr mewn ymchwiliadau ffynhonnell agored, yn ceisio esbonio'r broses gymhleth o werthuso lluniau ffynhonnell agored digidol.

Enw'r canllaw yw ‘Evaluating Digital Open-Source Imagery: A Guide for Judges and Fact-Finders’.

Ei nod yw rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i alluogi barnwyr a'r rhai hynny sy'n ceisio ffeithiau ac yn gwneud penderfyniadau i asesu'n effeithiol hygrededd, dibynadwyedd a gwerth tystiolaethol gwybodaeth ffynhonnell agored.

Mae'n ymdrin â materion allweddol megis cadarnhau dilysrwydd, dadansoddi metadata a dilysu ffynonellau. Mae'n darparu diffiniadau eglur, enghreifftiau ymarferol ac arweiniad craff, gan alluogi defnyddwyr i wneud asesiadau a phenderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch tystiolaeth ffynhonnell agored.

Bydd y canllaw ar gael mewn sawl iaith – gan gynnwys Saesneg, Wcreineg, Arabeg, Ffrangeg a Sbaeneg – gan sicrhau ei fod ar gael i gynulleidfa fyd-eang.

Cafodd ei ysgrifennu gan gyfranwyr uchel eu bri o sefydliadau megis Prifysgol Abertawe; Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain; Menter Gyfiawnder yr Open Society; Prifysgol Califfornia, Berkley; Mnemonic; WITNESS; Prifysgol Essex; Prifysgol Rhydychen; a Chanolfan Hawliau Sylfaenol Ysgol Hertie.

Meddai'r Athro Yvonne McDermott Rees, o Brifysgol Abertawe, un o gyd-awduron y canllaw:

“Mae'r canllaw hwn yn llenwi bwlch hollbwysig yn y dirwedd gyfreithiol. Am y tro cyntaf, mae gan farnwyr a'r rhai hynny sy'n ceisio ffeithiau fynediad at adnodd pwrpasol sy'n meithrin y ddealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol i'w galluogi i werthuso gwybodaeth ffynhonnell agored ddigidol yn effeithiol.”

Meddai cyd-awdur arall, Dr Daragh Murray, o Brifysgol y Frenhines Mary, Llundain:

“Mae gwybodaeth ffynhonnell agored ddigidol wedi dod i'r amlwg fel adnodd pwysig at ddibenion atebolrwydd. Fodd bynnag, mae'r defnydd ohoni'n cyflwyno her unigryw i weithwyr cyfreithiol proffesiynol. Mae'r canllaw hwn yn garreg filltir wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn a grymuso barnwyr a'r rhai hynny sy'n ceisio ffeithiau i ymdrin â chymhlethdodau tystiolaeth ffynhonnell agored.”

Mae ‘Evaluating Digital Open-Source Imagery: A Guide for Judges and Fact-Finders’, a gyhoeddir ddydd Llun 20 Mai 2024, yn ddatblygiad hollbwysig ym maes ymarfer cyfreithiol ac eirioli hawliau dynol.

Cafodd y gwaith cyfieithu a chynhyrchu ei ariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Abertawe a phrosiect TRUE ym Mhrifysgol Abertawe, a ariennir gan grant Frontier Research UKRI EP/X016021/1.

Cafodd y gwaith ei gefnogi hefyd gan yr IHSS (Sefydliad y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol) ym Mhrifysgol y Frenhines Mary, Llundain; y Ganolfan Hawliau Sylfaenol yn Ysgol Hertie, Berlin; ac Uned Dilysu Digidol Prifysgol Essex.

Bydd y canllaw ar gael ar-lein 

Cynhelir digwyddiad lansio ddydd Gwener 24 Mai 2024, o 3.30pm tan 5pm yn y Deml Fewnol, Crown Office Row, Temple, Llundain EC4Y 7HL. Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Yr Arglwydd Ustus Birss, Barnwr Llys Apêl Cymru a Lloegr a Dirprwy Bennaeth Cyfiawnder Sifil.
  • Ei Hardderchogrwydd y Barnwr Joanna Korner, Barnwr yn y Llys Troseddau Rhyngwladol.
  • Dr Daragh Murray, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, a'r Athro Yvonne McDermott Rees, Prifysgol Abertawe, cyd-awduron y canllaw.

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton,Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori