Montage o dri llun, un yn dangos hen dudalennau blaen cylchgrawn, un arall yn dangos casgliad o hen luniau du a gwyn a'r trydydd dwy ddynes yn gwisgo clustffonau yn edrych ar gyfrifiadur

Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cadw deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn dathlu 10 mlynedd o statws achredu i gydnabod eu safonau uchel, o ran gofalu am gofnodion gwerthfawr a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.

Achrediad Gwasanaeth Archifau yw safon y DU ar gyfer gwasanaethau archif, ac Archifau Richard Burton oedd y brifysgol gyntaf yn y DU a'r gwasanaeth cyntaf yng Nghymru i ennill statws achredu ar ôl lansio'r safon yn 2013.

Meddai Pennaeth y Casgliadau Diwylliannol, Ymgysylltu a Churadu, Siân Williams: "Roedd yn anrhydedd i ni sicrhau'r achrediad gan ei fod yn diffinio arferion da ac yn nodi safonau y cytunwyd arnynt yn y sector archifau.  

"Rwy'n falch iawn o ddweud, ers hynny, ein bod wedi mynd o nerth i nerth ac yn ymfalchïo mewn chwilio bob amser am ffyrdd y gallwn ehangu ein casgliadau a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i ddefnyddwyr."

Mae'r Archifau'n gartref i fwy na 1.7 cilomedr o ddogfennau, gan gynnwys ffotograffau, casetiau sain, papur a memrwn, ffilm a deunydd wedi'i greu'n ddigidol.

I ddathlu pen-blwydd yr achredu, mae'r tîm wedi bod yn pori drwy'r Archifau i archwilio rhai o'r eiliadau allweddol o'r 10 mlynedd diwethaf. Ymhlith yr uchafbwyntiau niferus mae:

  • Llyfr nodiadau 'coll' Dylan Thomas - yn 2014 gwnaeth y Brifysgol gais llwyddiannus am y llyfr nodiadau, un o bump a ddefnyddiwyd gan Dylan Thomas ac a ddisgrifir fel "y darganfyddiad mwyaf cyffrous ers marwolaeth y bardd";
  • Union Matters - prosiect i ddigideiddio a gwarchod cofnodion Ffederasiwn Glowyr De Cymru sy'n dyddio o 1899 i 1934 sy'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth gan gynnwys Streic Gyffredinol 1926 a dirwasgiad economaidd y 1930au;
  • Yn ystod Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn 2020, cafodd yr Archifau fwy na 50 o adneuon newydd o ddeunydd a bu hefyd yn cefnogi Dr Sam Blaxland yn ei ymchwil i hanes y Brifysgol, yn ogystal â'r prosiect hanes llafar Lleisiau Prifysgol Abertawe, 1920-2020; a
  • Becoming Richard Burton – darparodd yr Archifau eitemau allweddol ar gyfer yr arddangosiad llwyddiannus hwn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a oedd yn dilyn hanes Richard Jenkins yn troi'n Richard Burton, seren y llwyfan a'r sgrîn.

Ar wahân i groesawu staff, myfyrwyr a'r cyhoedd, mae'r Archifau hefyd yn parhau i gynnal grwpiau myfyrwyr o wahanol adrannau academaidd gan gynnwys y rhai sy'n astudio'r modiwl MA Cyfleu'r Gorffennol: Hanes Cyhoeddus gan ddefnyddio Casgliadau Hanesyddol lle mae myfyrwyr yn ymchwilio i gasgliad archifol ac yn creu gwefan ar-lein.

Mae'r Archifau wedi bod yn cefnogi nifer o ymchwilwyr a chwmnïau cyfryngau sy'n defnyddio'r casgliadau i gasglu cynnwys i ddathlu digwyddiadau fel 40 mlynedd ers protestiadau Comin Greenham, ac ar hyn o bryd 40 mlynedd ers Streic y Glowyr 1984/85.

Fel cartref Casgliad Raissa Page, mae staff yn rhagweld lansio'r cyhoeddiad Raissa Page: A Life in Photography yn ddiweddarach eleni wrth baratoi ar gyfer canmlwyddiant geni Richard Burton yn 2025.

Darllenwch ragor amdano ym mlog Archifau Richard Burton a cheir rhagor o wybodaeth am sut i gyrchu eu casgliadau

Rhannu'r stori