Y gobaith yw y bydd hefyd yn gartref i rywogaethau morol megis gwymonydd a brennig (yn y llun)

Y gobaith yw y bydd hefyd yn gartref i rywogaethau morol megis gwymonydd a brennig (yn y llun)

Wrth i forglawdd newydd gael ei ddatblygu ym mhentref y Mwmbwls ym Mae Abertawe, mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut bydd ei ddyluniad yn helpu i annog bioamrywiaeth, diolch i ymchwil a chydweithredu gofalus.

Bydd y morglawdd 1.2km sydd wedi'i adnewyddu a'i gryfhau'n helpu i amddiffyn ardal y Mwmbwls rhag llifogydd ac fe'i dyluniwyd i bara am sawl degawd i ddod. 

Y gobaith yw y bydd hefyd yn gartref i rywogaethau morol megis gwymonydd, brennig a chregyn llong. Y rheswm dros hyn yw bod rhannau o'r wal yn cael eu cynhyrchu o baneli concrit â chefnau a phatrymau sy'n dynwared cyfuchlineddau caled arfordir creigiog, gan ddarparu bylchau a holltau lle gall creaduriaid y môr fyw.

Adwaenir hyn fel ecobeirianneg: cynnwys nodweddion i wella bioamrywiaeth fel rhan o ddyluniad prosiect isadeiledd.

Arweiniodd Dr Ruth Callaway, biowyddonydd, yr ymchwil i brofi pa fath o banel a lleoliad fyddai orau wrth ddenu rhywogaethau morol. Ar gyfer prosiect morglawdd y Mwmbwls, a adwaenir fel ‘Sea Hive’, bu cydweithrediad agos rhwng Cyngor Abertawe, sy'n rheoli'r gwaith, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, a Knights Brown, cwmni adeiladu a fu'n bartner busnes y prosiect ymchwil hwn a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

At ddibenion ymchwil Dr Callaway, gosodwyd 135 o baneli prawf concrit – ar ffurf hecsagon – ar y morglawdd yn y Mwmbwls, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Castiwyd pob panel ag un o 13 gwead arwyneb gwahanol. Y syniad oedd cymharu'r 13 dyluniad i weld p'un fyddai orau wrth ddenu rhywogaethau morol.

Codwyd y paneli mewn tri safle gwahanol ar y morglawdd 50 metr ar wahân, gyda rhai ohonynt yn fwy agored i'r tonnau nag eraill. Ar bob safle, gosodwyd paneli mewn tair rhes ar uchderau gwahanol, er mwyn asesu unrhyw wahaniaethau yn ôl pa mor hir roeddent o dan y dŵr.

Ar ôl bod ar waith am flwyddyn, dadansoddwyd y paneli a dyma'r canfyddiadau:

  • Paneli ag arwyneb llawn cefnau amlwg ac isadeiledd caled oedd y gorau am ddenu rhywogaethau morol
  • Y rhywogaethau mwyaf cyffredin a ymgartrefodd yn y paneli oedd dau fath o gregyn llong, sydd hefyd yn gyffredin ar hyd arfordiroedd creigiog yr ardal
  • Defnyddiodd gwichiaid a brennig y mannau ar y paneli – a rhyngddynt – i bori a chysgodi
  • Nid ymgartrefodd yr un rhywogaeth yn y paneli a oedd fwyaf agored i donnau
  • Roedd llawer mwy o fywyd morol ar y rhes isaf o baneli, a oedd o dan y dŵr hwyaf

Yna defnyddiodd aelodau'r tîm y canfyddiadau hyn wrth wneud eu penderfyniadau terfynol ar gyfer y prosiect.

Gwnaethant ddewis dyluniad paneli a oedd ymysg y gorau wrth ddenu bywyd morol. Yn ogystal, mae'r dyluniad terfynol yn cynnwys rhigolau hecsagonal i ddarparu cysgod ychwanegol ar gyfer rhywogaethau morol, yn unol â chanfyddiadau'r ymchwil.

Mae'r paneli'n cael eu castio mewn concrit ar y safle.

Meddai Dr Ruth Callaway, cymrawd ymchwil er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe a phennaeth Blue Cube Marine Limited:

“Mae'n wych gweld yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio ar gyfer prosiect peirianneg sylweddol yn y byd go iawn a fydd yn gwella ein hamgylchedd lleol am genedlaethau i ddod.

Mae morglawdd y Mwmbwls yn un o'r prosiectau peirianneg sylweddol cyntaf yn y DU i ymgorffori'r math hwn o ymchwil. Mae Cyngor Abertawe'n haeddu clod aruthrol am feddu ar y dewrder a'r ewyllys i roi'r ymchwil ar waith.

Roedd y ffordd y cafodd y prosiect ei gynllunio a'i gyflawni, ochr yn ochr â'r holl bartneriaid – o ddylunwyr i wneuthurwyr concrit – yn hollbwysig i'w lwyddiant. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli prosiectau tebyg.”

Meddai Dr Clare Wood o Brifysgol Abertawe, arbenigwr mewn dulliau adeiladu cynaliadwy a gymerodd ran yn y prosiect hefyd:

“O'r dechrau, roedd prosiect ymchwil Sea Hive y Mwmbwls Prifysgol Abertawe'n hollbwysig wrth ymgysylltu â'r grŵp amrywiol o randdeiliaid a'u llywio er mwyn datblygu morglawdd y Mwmbwls. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid allweddol megis BlueCube Marine i arwain ymchwil i arloesi peirianneg gynaliadwy a gwella bioamrywiaeth.”

Meddai Andrew Stevens, aelod o Gabinet y Cyngor:

“Rydyn ni wrth ein boddau y bydd yr amddiffynfeydd morol newydd yn diogelu'r gymuned ac yn annog bioamrywiaeth.

Mae'n wych gweld prosiect gwych Sea Hive yn cael ei ddatblygu ynghyd â gweddill y morglawdd ar ei newydd wedd a'r promenâd.

Bydd y promenâd ei hun yn cynnwys llawer o dirweddu meddal newydd a fydd, ochr yn ochr â'r gwyrddni presennol, yn darparu gwelliant ecolegol amlwg, gan wneud y Mwmbwls hyd yn oed yn fwy atyniadol i'r cyhoedd ac yn llesol i'r amgylchedd.”

Blue Cube Marine – stori morglawdd y Mwmbwls

Ymchwil Prifysgol Abertawe i'r biowyddorau

Ymchwil Prifysgol Abertawe i beirianneg sifil

Rhannu'r stori