Yn ddiweddar, ymunodd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Parthian Books â'r gymuned leol i archwilio llenyddiaeth a hanes Cymru a'i diwydiant dur.
Roedd y digwyddiad arbennig yn cyflwyno rhifyn newydd o lyfr Shifts gan yr Athro Christopher Meredith, sy'n sôn am ei brofiad o waith dur Glynebwy i bortreadu dirywiad y diwydiant dur mewn fersiynau ffuglennol o'r cymunedau amgylchynol a bywyd y dosbarth gweithiol yn y 1970au yn ne Cymru.
Cyhoeddwyd y nofel gyntaf ym 1988, a chafodd y nofel glasurol hon ei hailgyhoeddi'n ddiweddar fel rhan o Gyfres Llyfrgell Cymru, menter gan Lywodraeth Cymru sy'n sicrhau bod llenyddiaeth gyfoethog a helaeth Cymru a ysgrifennir yn Saesneg ar gael i ddarllenwyr yng Nghymru a'r tu hwnt.
I archwilio'r cysylltiad rhwng dur a'r gymuned leol, bu Sefydliad Ymchwil Diwylliannau a Chymunedau Prifysgol Abertawe, gyda chymorth y Swyddfa Ymchwil Heriau Lleol cynhaliwyd digwyddiad yn adeilad hanesyddol Port Talbot, y Plaza.
Dechreuodd Christopher Meredith, Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, ei sgwrs drwy gynnig cefnogaeth i drigolion Port Talbot a'r gymuned ddur ar ran Pwyllgor Llywio Cymdeithas Awduron Cymru.
Yna, gwnaeth yr awdur a anwyd yn Nhredegar ddarllen rhannau o'r nofel cyn rhoi cipolwg unigryw i'r gynulleidfa ar ei hanes ef a'i nofel glodwiw.
Meddai'r Athro Meredith: "I mi, sy'n hanu o gefndir gwaith dur, roedd hwn yn ddigwyddiad llawn ysgogiad. Gall nofelau amgyffred â dwysedd y byd go iawn drwy'r dychmygol - rwy'n ffodus bod llyfr a ysgrifennais ddeugain mlynedd yn ôl yn dal i atseinio ac roedd cynhesrwydd, deallusrwydd a'r cysylltiad yn y Plaza yn deimladwy. Roedd siarad ac yn arbennig wrando ym Mhort Talbot ar adeg dyngedfennol ar gyfer y dref wych hon yn fraint enfawr.”
Bu'r Athro Kirsti Bohata, o'r Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, yn arwain y digwyddiad.
Meddai: "Mae Shifts yn un o'r nofelau gorau a ysgrifennwyd erioed am Gymru, ac roedd hi'n fraint clywed bod pobl sydd wedi gweithio yn y diwydiant dur ym Mhort Talbot yn gallu uniaethu â hi ar unwaith.
"Diben cyfres Llyfrgell Cymru o glasuron Saesneg yw gwneud treftadaeth llenyddol Cymru ar gael yn eang, ac mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor ystyrlon y gall fod.”
Bu'r digwyddiad hefyd yn cynnwys yr Athro Louise Miskell o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, a fu'n siarad am hanes ac arwyddocâd dwfn y gwaith dur ar yr ugeinfed ganrif.
Amlygodd yr Athro Miskell dri dyddiad allweddol yn y dref: 1918, 1951 a 2001, i ddangos natur fythol newidiol y diwydiant dur a chanfyddiadau'r cyhoedd.
Meddai: "Mae gan Bort Talbot hanes hir a nodedig fel tref ddur, ond yn yr hinsawdd presennol o ansicrwydd, teflir cysgod dros yr hanes. I mi, roedd y digwyddiad hwn yn ymwneud ag ailymweld â rhai o'r eiliadau hollbwysig dros y can mlynedd diwethaf, pan oedd cynhyrchu dur yn diffinio ymdeimlad o le a hunaniaeth Port Talbot.”
Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys gweithwyr dur presennol a rhai'r gorffennol, aelodau cymdeithasau hanes a grwpiau treftadaeth lleol, a pherthnasau'r gweithwyr dur, a fu'n rhannu myfyrdodau ar effaith y diwydiant ar eu teuluoedd a straeon am gysylltiad emosiynol parhaus y dref â’r diwydiant dur.
Meddai'r Athro David Turner, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Diwylliannau a Chymunedau: "Roedd Sefydliad Ymchwil Diwylliannau a Chymunedau newydd Prifysgol Abertawe'n falch o gefnogi'r digwyddiad hwn, a ddangosodd yn gadarn rôl gweithgynhyrchu dur wrth lunio hunaniaeth cymunedau Cymru megis Port Talbot a Glynebwy.
"Mae cynhyrchu dur wedi llywio bywyd cymdeithasol ac economaidd y rhanbarth hwn; ac mae'n rhan o'r DNA diwylliannol hefyd. Yn yr hinsawdd presennol sydd ohoni o newid ac ansicrwydd, mae'n bwysig nad yw hanes effaith cynhyrchu dur ar ddiwylliannau a chymunedau diwydiannol de Cymru'n cael ei anghofio.”