Priya Dodiya a Dr Alwena Morgan

Dathlwyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, Priya Dodyia, a'r uwch-ddarlithydd, Dr Alwena Morgan, yn seremoni wobrwyo flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cyfraniadau eithriadol.

Cyflwynwyd Gwobr Merêd i Priya, myfyriwr seicoleg o Gaerdydd yn ei hail flwyddyn. Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad myfyriwr sy'n aelod presennol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol at yr iaith a diwylliant Cymraeg.

Dyfarnwyd y wobr i Priya i gydnabod ei chyfraniadau sylweddol at hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy ei gwaith gwirfoddol gyda Discovery Prifysgol Abertawe, sefydliad dan arweiniad gwirfoddolwyr.

Mae hi wedi cydweithio â gwahanol adrannau a sefydliadau yn y Brifysgol i greu Clwb Cymraeg wythnosol ac mae wedi ymgysylltu â grwpiau amrywiol o fyfyrwyr, gan gynnwys cymunedau rhyngwladol ac LHDTC+. Mae ymdrechion Priya wedi meithrin amgylchedd mwy cynhwysol, gan annog myfyrwyr o bob cefndir i gofleidio'r Gymraeg, ac mae wedi bod yn eiriolwr brwd dros amrywiaeth, gan rannu ei phrofiadau fel siaradwr Cymraeg o dras Indiaidd i ysbrydoli pobl eraill.

Wrth dderbyn y wobr, meddai Priya: "Mae'r wobr hon yn golygu cymaint i mi oherwydd fel siaradwr Cymraeg o dras Indiaidd, rwyf wedi wynebu gwahaniaethu yn y gymuned. Ond, drwy fy ymdrechion i hyrwyddo'r iaith mewn cymunedau amrywiol, rwy'n gobeithio creu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb."

Anrhydeddwyd Dr Alwena Morgan, uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, â'r Wobr Adnoddau Cyfrwng Cymraeg Eithriadol am ei gwaith arloesol ar y cwrs Biocemeg Cymraeg.

Y cwrs arloesol hwn, a ddatblygwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw'r Cwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOOC) Cymraeg cyntaf yn y gwyddorau, ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed sy'n astudio Bioleg a/neu Gemeg ar Safon Uwch/UG.

Lansiwyd y cwrs yn 2022, ac mae wedi gwella addysg wyddonol cyfrwng Cymraeg yn sylweddol drwy symleiddio iaith ac ychwanegu dros 400 o dermau newydd at y Porth Termau.

Meddai Dr Morgan: “Mae'r wobr hon yn bwysig iawn i mi; mae'n gydnabyddiaeth o'r gwaith caled rydym i gyd wedi'i gyfrannu at yr adnodd. Hoffwn ddiolch i Elin Rhys a thîm Telesgop, Geinor o Testun, Tegau Andrews o Brifysgol Bangor, a Joanna, Alaw, a Ffion o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cyfraniadau gwerthfawr at y prosiect hwn." 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: "Mae'r holl enillwyr yn haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith a'u cyfraniad o ansawdd uchel at addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau. Rydym yn diolch iddynt am godi proffil y Gymraeg yn eu sefydliadau, a dymunwn yn dda iddynt i'r dyfodol."

Rhannu'r stori