Mae tîm ymchwil rhyngwladol o Brifysgol Abertawe ac UBC Okanagan (UBCO) wedi darganfod gwybodaeth newydd am esblygiad dynol drwy gymharu calonnau dynol â chalonnau epaod mawr eraill.
Er gwaethaf y ffaith bod gan fodau dynol ac epaod mawr nad ydynt yn ddynol gyd-hynafiad, mae'r grŵp cyntaf wedi esblygu ymenyddiau mwy o faint yn ogystal â'r gallu i gerdded neu redeg yn unionsyth ar ddwy draed i deithio pellteroedd hir er mwyn hela, yn ôl pob tebyg.
Nawr, oherwydd astudiaeth gymharol newydd o ffurf a gweithrediad y galon, a gyhoeddwyd yn Communications Biology, mae ymchwilwyr yn credu eu bod nhw wedi darganfod darn arall o'r jig-so esblygiadol.
Cymharodd y tîm y galon ddynol â chalonnau ein perthnasau esblygiadol agosaf, gan gynnwys tsimpansïaid, orangwtangiaid, gorilaod a bonobos, sy'n byw mewn gwarchodfeydd bywyd gwyllt yn Affrica ac mewn sŵau ledled Ewrop.
Yn ystod archwiliadau milfeddygol arferol o'r epaod mawr hyn, defnyddiodd y tîm ecocardiograffeg, sef sgan uwchsain cardiaidd, i gynhyrchu delweddau o'r fentrigl chwith, sef siambr y galon sy'n pwmpio gwaed o gwmpas y corff. Yn fentrigl chwith yr epa mawr nad yw'n ddynol, mae sypynnau o gyhyrau yn ymestyn i'r siambr; trabeciwleiddiadau yw'r rhain.
Meddai Bryony Curry, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer Corff yn UBCO: “Mae fentrigl chwith bod dynol iach yn gymharol lyfn, ac mae’r cyhyrau’n gryno'n bennaf o'u cymharu â'r rhwydwaith rhwyllog sydd â mwy o drabeciwleiddiad a welir yng nghalonnau epaod mawr nad ydynt yn ddynol.
“Mae'r gwahaniaeth yn fwyaf amlwg ar yr apig, sef gwaelod y galon, lle gwelsom oddeutu pedair gwaith mwy o drabeciwleiddiadau mewn calonnau epaod mawr nad ydynt yn ddynol o'u cymharu â chalonnau bodau dynol.”
Mesurodd y tîm hefyd symudiad a chyflymderau'r galon gan ddefnyddio ecocardiograffeg olrhain brychni, sef techneg ddelweddu sy'n olrhain patrwm y cyhyr cardiaidd wrth iddo gyfangu ac ymlacio.
Meddai Bryony: “Gwelsom fod hyd y trabeciwleiddio yn y galon yn gysylltiedig â maint yr anffurfio, y cylchdroi a'r troelli. Hynny yw, ymhlith bodau dynol, sydd â'r lefel leiaf o drabeciwleiddio, gwelsom weithrediad cardiaidd cymharol well. Mae'r canfyddiad hwn yn ategu ein rhagdybiaeth y gall y galon ddynol fod wedi esblygu i fod yn wahanol i strwythur calonnau epaod mawr eraill nad ydynt yn ddynol er mwyn diwallu anghenion mwy cilfach ecolegol unigryw bodau dynol.”
Gellir hefyd gysylltu'r ymennydd mwy a'r lefel uwch o weithgarwch corfforol ymhlith bodau dynol, o'u cymharu ag epaod mawr eraill, â galw metabolaidd uwch, sy'n gofyn am galon sy'n gallu pwmpio mwy o waed i'r corff.
Yn yr un ffordd, mae llif gwaed uwch yn cyfrannu at allu bodau dynol i oeri oherwydd bod pibellau gwaed sy'n agos at y croen yn ymledu, sy'n ymddangos fel gwrido’r croen, a cholli gwres i'r aer.
Meddai Dr Aimee Drane, Uwch-ddarlithydd yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe: “Mewn termau esblygiadol, gall ein canfyddiadau awgrymu bod pwysau detholus wedi gweithredu ar y galon ddynol i'w haddasu i ddiwallu anghenion cerdded yn unionsyth ac ymdopi â straen thermol.
“Yr hyn nad ydym yn ei ddeall eto yw sut gall calonnau'r epaod mawr nad ydynt yn ddynol, sydd â mwy o drabeciwleiddiad, fod yn addasol i'w cilfachau ecolegol eu hunain. Efallai, mai strwythur a etifeddwyd gan galon yr hynafiad yw hwn; fodd bynnag, ym myd natur, yn anaml iawn fydd strwythur yn ddibwrpas.”
Mae'r tîm ymchwil yn ddiolchgar i'r staff a’r gwirfoddolwyr sy'n gofalu am yr anifeiliaid a oedd yn destunau’r astudiaeth, gan gynnwys y timau yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Tchimpounga (Y Congo), Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Chimfunshi (Zambia), Gwarchodfa Tsimpansïaid Tacugama (Sierra Leone), Canolfan Achub ac Adsefydlu Orangwtangiaid Nyaru Menteng (Borneo), Cymdeithas Sŵolegol Llundain (DU), Sŵ Paignton (DU), Gerddi Sŵ Bryste (DU), Sŵ Burgers' (yr Iseldiroedd) a Sŵ Wilhelma (yr Almaen).