Myfyrwraig yn defnyddio gluniadur

Mae astudiaeth seicoleg gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio'n fwy tebygol o ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial – yn enwedig ChatGPT – ar gyfer aseiniadau academaidd, gan godi cwestiynau am uniondeb academaidd a'r angen am ymyriadau rhagweithiol.

Mae ChatGPT, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2022, yn rhaglen deallusrwydd artiffisial sy'n gallu ateb cwestiynau mewn ffyrdd manwl a thebyg i bobl.

Arolygodd ymchwilwyr 160 o fyfyrwyr israddedig, rhwng 18 a 24 oed, ym mis Mawrth 2023 i asesu eu hagweddau tuag at adnoddau deallusrwydd artiffisial megis ChatGPT, a'u defnydd blaenorol ohonynt, mewn gwaith cwrs academaidd.

Mynegodd 32 y cant o ymatebwyr barodrwydd i ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial megis ChatGPT ar gyfer eu haseiniadau, a chyfaddefodd 15 y cant eu bod eisoes wedi defnyddio adnoddau o'r fath yn y gorffennol.

Yn groes i'r disgwyl, nid oedd dangosyddion ymddygiad academaidd a ddefnyddir yn gyffredin fel nodweddion personoliaeth – megis cydwybodolrwydd, hynawsedd, Maciafeliaeth a narsisiaeth – ochr yn ochr â pherfformiad academaidd a hyder yn eu sgiliau astudio yn rhagfynegi'n gywir y defnydd o adnoddau deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwaith cwrs yn y dyfodol.

Fodd bynnag, daeth un ffactor allweddol i'r amlwg fel rhagfynegydd arwyddocaol – difaterwch tuag at raddau.

Esboniodd Dr David Playfoot, y prif awdur: “Mae dylanwad y pum nodwedd personoliaeth fawr fel arfer yn arwyddocaol mewn astudiaethau o ymddygiad. Fodd bynnag, er syndod mawr i ni, roedd lefel o ddifaterwch cyfranogwyr tuag at eu rhaglen radd yn drech na phob un ohonyn nhw. Datgelodd ein hastudiaeth fod myfyrwyr a gafodd sgôr uwch ar ein graddfa difaterwch tuag at eu gradd, gan ddangos diffyg diddordeb neu gyfranogiad yn eu rhaglen radd, yn fwy tebygol o fynegi parodrwydd i ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial ar gyfer aseiniadau.

“Dyw hi ddim yn bwysig a yw rhywun yn gydwybodol yn gyffredinol, os ydyn nhw wedi ymddieithrio o’u rhaglen radd, maen nhw'n dal i fod yn fwy tebygol o ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial ar gyfer eu haseiniadau.”

Gwnaeth yr astudiaeth hefyd archwilio effaith risg a goblygiadau ar y tebygolrwydd o ddefnyddio ChatGPT i dwyllo. Dangosodd y canlyniadau fod myfyrwyr yn llai tebygol o dwyllo pan oedd risg uchel o gael eu darganfod neu pan oedd y gosb am dwyllo'n llym. Fodd bynnag, roedd yr unigolion mwyaf difater tuag at eu graddau'n dal i fod yn fwy tebygol o gamymddwyn yn academaidd hyd yn oed pan oedd y risg yn uwch.

Pwysleisiodd y cyd-awdur Dr Andrew G Thomas arwyddocâd difaterwch tuag at raddau fel ffactor risg sylweddol o ran camymddygiad academaidd: “Mae ein hymchwil yn amlygu ei bod hi’n bwysig i addysgwyr a sefydliadau gymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan sicrhau uniondeb systemau academaidd.

“Mae hefyd yn awgrymu bod camau ataliol yn cael llai o effaith dros amser, a bod polisïau llym iawn yn ddiangen er mwyn annog myfyrwyr i beidio â chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial – er y gall fod angen camau ataliol cryfach yn achos y rhai hynny sydd wedi ymddieithrio o'u hastudiaethau.

“Mae'r astudiaeth hon yn braenaru'r tir ar gyfer dulliau addysgu arloesol sy'n canolbwyntio ar feithrin cymhelliant cynhenid ac atebolrwydd academaidd myfyrwyr. Drwy ddeall rôl difaterwch myfyrwyr tuag at eu gradd yn eu penderfyniadau a'u gweithredoedd, gall addysgwyr wella eu gallu i gynnal safonau academaidd ac uniondeb yn amgylchedd academaidd digidol yr oes hon.”

Darllenwch yr astudiaeth Hey ChatGPT, give me a title for a paper about degree apathy and student use of AI for assignment writing’ ar The Internet and Higher Education.

Rhannu'r stori