Llun o dyrbin gwynt arnofiol Pelaflex. Credyd: Marine Power Systems.

Credyd: Marine Power Systems.

Mae Innovate UK wedi dyfarnu cyllid i optimeiddio ymhellach blatfform gwynt alltraeth arnofiol unigryw a hyblyg ar gyfer cymwysiadau yn y Môr Celtaidd yn rhan o  gydweithrediad sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe. 

Bydd y cyllid yn helpu i sefydlu’r prosiect “Launchpad” sydd â’r nod o sicrhau, lle y bo'n bosib, y bydd cadwyn gyflenwi leol yn cefnogi gwaith i greu, gweithgynhyrchu a chyflwyno'r platfform, a adwaenir fel PelaFlex.

Dan arweiniad Marine Power Systems, bydd Adran Peirianneg Fecanyddol Prifysgol Abertawe'n gweithio ar y cyd â Ledwood Mechanical Engineering, Tata Steel UK, ABP (Associated British Ports) Port Talbot, a Phorthladd Aberdaugleddau ar y prosiect sy'n werth dros £800,000.

Bydd Launchpad yn optimeiddio effeithlonrwydd strwythurol PelaFlex, gan roi sylw penodol i'r amgylchedd heriol yn y Môr Celtaidd wrth leihau cost deunyddiau a'u dosbarthu. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dur stribed a wneir ym Mhort Talbot, cyfansoddion a gaiff eu gwneud gan gyflenwyr lleol ac yna eu cydosod a'u dosbarthu gan ddefnyddio porthladdoedd presennol yn ne-orllewin Cymru.

Bydd Prifysgol Abertawe'n cyfrannu at y gwaith dylunio drwy ddefnyddio'r datblygiadau diweddaraf ym maes modelu dylunio strwythurol, a bydd Ledwood, a leolir yn Sir Benfro, yn darparu adborth a fydd yn helpu i uchafu i ba raddau y gall cyflenwyr lleol gefnogi gwaith saernïo.

Bydd mewnbwn gan Associated British Ports a Phorthladd Aberdaugleddau'n sicrhau bod modd i'r platfform gael ei gydosod a'i gyflwyno o'r lleoliadau hynny wrth hefyd leihau'r buddsoddiadau y mae eu hangen i wneud hynny. 

Bydd y prosiect yn cefnogi gweledigaeth Tata Steel UK i ddatgarboneiddio prosesau cynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Un enghraifft o hyn fydd cynhyrchu dur stribed gwyrdd gan ddefnyddio ffwrnais arc trydan.  Bydd hefyd yn helpu i sefydlu'r dref fel hyb diwydiannol ar gyfer datblygu a defnyddio gwynt alltraeth. 

Dywedodd Dr Will Harrison, Uwch-ddarlithydd Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'n gyfle gwych i ni weithio gydag MPS, Ledwood, Tata Steel, Porthladd Aberdaugleddau ac ABP Port Talbot i gyflwyno'r prosiect cyffrous hwn. Mae pob un o'r partneriaid yn cynnig sgiliau arbenigol ategol gwahanol i'r her beirianneg hon ac mae'r prosiect yn arddangos ac yn amlygu potensial diwydiant yn ne-orllewin Cymru.   Mae MPS wedi datblygu cysyniad o safon fyd-eang ac rydym yn falch iawn y byddwn yn eu helpu i optimeiddio’r cydsyniad hwn gan ddefnyddio profiad mewn technegau cyfrifiannu ym Mhrifysgol Abertawe ac i gefnogi diwydiant lleol.”

Ychwanegodd Graham Foster, Prif Swyddog Technoleg ym Marine Power Systems: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cymorth drwy Innovate UK. Wrth i ddefnyddio gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd ddod yn realiti, dyma'r adeg orau i ni weithio ar y cyd â'r gadwyn gyflenwi leol i optimeiddio gwaith dylunio manwl ein technoleg ac uchafu ein gallu i'w rhoi ar waith. Enghraifft dda o hynny yw ein bod yn hyderus drwy'r prosiect hwn y byddwn yn gallu optimeiddio dyluniad ein platfform i gynyddu faint o ddur lleol a ddefnyddir i'w wneud o oddeutu 10% i dros 50%.”

Dywedodd Mark Davies o Ledwood Mechanical Engineering: “Mae Launchpad yn cynrychioli cam arall ymlaen yn natblygiad y diwydiant gwynt alltraeth arnofiol newydd.  Fel cwmni peirianneg lleol, mae'n bleser gennym fod yn gweithio gydag MPS, Tata Steel, Porthladd Aberdaugleddau, ABP Port Talbot a Phrifysgol Abertawe i helpu i adeiladu cadwyn gyflenwi leol gan fanteisio ar y sgiliau, yr arbenigedd a'r isadeiledd sydd gennym yma yn ne-orllewin Cymru.  Dyma adeg gyffrous i ni a gobeithiwn y bydd y rhanbarth yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a ddaw i'r amlwg yn fuan.”

Rhannu'r stori