Myfyrwyr ar y traeth

Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau safle 65 ar y cyd yn y byd ar gyfer cyfraniadau ystyrlon tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Arolwg Effaith Prifysgolion Times Higher Education (THE University Impact Rankings).

Bellach yn ei chweched flwyddyn, Arolwg Effaith y Byd THE yw'r unig un sy'n mesur cyfraniadau prifysgolion tuag at bob un o 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac yn asesu eu hymrwymiad i gynaliadwyedd ar draws pedwar maes eang: ymchwil, stiwardiaeth, allgymorth ac addysgu.

Mae cynnydd Abertawe o fand safleoedd cyffredinol 101-200 yn 2023 i gydradd 65 yn 2024 yn sgîl ymarfer a werthusodd fwy o brifysgolion nag erioed o'r blaen, sef 2,152 mewn 125 o wledydd a rhanbarthau, gan gynnwys 68 o brifysgolion yn y DU, sy'n dangos rhagoriaeth gynhwysfawr wrth gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy byd-eang.

Mae Abertawe yn yr 17eg safle ymhlith 20 prifysgol orau'r DU .

Yn ôl Arolwg Effaith THE, drwy ragori mewn amrywiaeth o Nodau Datblygu Cynaliadwy, mae'r prifysgolion hyn yn dangos eu hymrwymiad i fynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd y byd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cynhwysiant cymdeithasol, twf economaidd a phartneriaethau.

Cafodd Abertawe ei hasesu yn chwech o'r 17 nod, ac mae wedi cyflawni safle ymhlith y 50 sefydliad gorau yn y byd ar gyfer pump o'r chwech.

  • Nod Datblygu Cynaliadwy 12: Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol 9fed
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 15: Bywyd ar y Tir - 19eg
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 16: Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn - 26ain
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 3: Iechyd Da a Lles – 40ain
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 11: Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy - 49ain
  • Nod Datblygu Cynaliadwy 17: Partneriaeth ar gyfer y Nodau – safle 101 – 200

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: "Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ei heffaith ar ddatblygiad cynaliadwy er lles ein planed a chenedlaethau'r dyfodol.

"Mae ein llwyddiant yn yr arolwg hwn yn cadarnhau'r effaith go iawn mae ein gwaith yn ei chael yn fyd-eang ac yn lleol, drwy ddatblygu a rhannu gwybodaeth newydd i fynd i'r afael â heriau byd-eang, gan sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffyrdd sy'n fwyfwy cyfrifol wrth gyflawni ein nodau. Mae ein Strategaeth Cynaliadwyedd a'r Argyfwng Hinsawdd (2021 - 2025), sy'n cydweddu â nodau strategol y brifysgol, wedi darparu fframwaith i roi ein polisi cynaliadwy ar waith yn ein gweithrediadau. Wedi'i llywio gan ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi blaenllaw, mae ein strategaeth yn ein harwain i fod yn fwy cynaliadwy o ran ein meddylfryd a sut rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau a'n swyddogaethau."

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: Mae ymrwymiad a chyfraniad Abertawe i gynaliadwyedd wedi cael eu cydnabod yn dda gyda'r safle hwn ymhlith y 100 o brifysgolion gorau, ochr yn ochr â'n safle 80 yn nhabl Cynaliadwyedd Byd-eang QS yn ddiweddar a dod yn 8fed yn nhabl cynghrair prifysgolion uchel ei fri People and Planet. Mae'n galonogol gweld Abertawe'n cael ei chydnabod ymhlith sefydliadau gorau'r DU a'r byd am gynaliadwyedd, gan ddangos ymdrechion ein holl staff a sut mae pob un ohonom yn gallu gwneud cyfraniad ystyrlon, fel unigolion ac fel sefydliad.”

Rhannu'r stori