The President’s Kill List: Assassination in US Foreign Policy Since 1945

Mae gan lywodraeth yr Unol Daleithiau hanes hir o ymwneud â llofruddiaethau ac ymgeisiau i gyflawni llofruddiaethau, o Fidel Castro i Qassem Soleimani yn 2020.  

Yn ei lyfr newydd, The President’s Kill List: Assassination in US Foreign Policy Since 1945 (Gwasg Prifysgol Caeredin), mae Dr Luca Trenta, sy'n arbenigo mewn Polisi Tramor yr Unol Daleithiau ac yn Athro Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o gysylltiad llywodraeth yr Unol Daleithiau â llofruddiaethau o'r Rhyfel Oer cynnar hyd at heddiw.  

Mae'r llyfr yn datgelu'r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddiwyd, o wenwyn a saethwyr cudd i leiddiaid tâl ac actorion lleol. Mae'n archwilio sut y gwnaeth llunwyr polisi benderfynu trefnu llofruddiaethau ac i ba raddau yr oedd gan Arlywyddion reolaeth dros y penderfyniadau hyn. 

Drwy olrhain hanes ymagwedd llywodraeth yr Unol Daleithiau at lofruddiaethau, mae Dr Trenta yn dadansoddi datblygiad y polisïau hyn. Am y tro cyntaf, mae'r llyfr yn datgelu sut y mae gweinyddiaethau olynol wedi cyfiawnhau a chyfreithloni llofruddiaethau'n breifat ac yn gyhoeddus, gan sicrhau bod yr arf dadleuol hwn yn parhau i fod yn opsiwn.  

Mae Dr Trenta yn adnabyddus am ei arbenigedd ym maes polisi tramor yr Unol Daleithiau, yn enwedig ym maes gweithrediadau cudd a llofruddiaethau. Derbyniodd Wobr Ymgysylltiad Seren y Dyfodol yr Academi Brydeinig yn 2017 am ei brosiect ar weithrediadau cudd sydd wedi cynnwys ymgymryd â gwaith allgymorth addysgol a chreu podlediadau cysylltiedig.

Wrth gyfeirio at gyhoeddi ei lyfr diweddaraf, dywedodd Dr Trenta: "Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llofruddiaethau a noddwyd gan y wladwriaeth a llofruddiaethau a amheuir, wedi denu cryn sylw yn y newyddion. Mae Canada, India, yr Unol Daleithiau a gwladwriaethau eraill wedi'u tynnu i mewn i gêm llawn cynllwynion a gwrth-gynllwynion, cyhuddiadau a gwadiadau.  Mae llawer o sylwebaeth academaidd ac yn y cyfryngau am y datblygiadau hyn yn tueddu i gyfeirio at lofruddiaethau fel rhywbeth mae gwladwriaethau 'afreolus' ac - yn hollbwysig - rhai y tu allan i'r gyfundrefn orllewinol yn ei wneud.  

"Nod y llyfr yw unioni'r dadansoddiad hwn yn rannol. Mae llofruddiaethau wedi bod yn rhan amlwg o bolisi tramor yr Unol Daleithiau ers yn gynnar yn y Rhyfel Oer. Fel y mae'r llyfr yn dangos - a hynny'n bennaf drwy ymchwil archifol - mae swyddogion y CIA, arlywyddion a llunwyr polisi allweddol, megis Ymgynghorwyr Diogelwch Cenedlaethol, wedi chwarae ran fawr wrth gynllunio llofruddiaethau ac ymgeisiau i gyflawni llofruddiaethau. Mewn sawl achos, mae'r llyfr yn herio gwadiadau ac enghreifftiau o gamarwain gan y swyddogion hyn â’r nod o ddatgelu camau gweithredu llywodraeth yr Unol Daleithiau yn y maes hynod ddadleuol hwn.  

"Mae natur reolaidd a pharhad llofruddiaethau fel un o arferion ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau hefyd yn ein helpu i herio'r (hunan) ddelwedd o'r Unol Daleithiau fel arweinydd trefn ryngwladol ryddfrydol sy'n seiliedig ar reolau. Roedd y rheolau hyn yn berthnasol i rai yn unig - os o gwbl. Bu’n rhaid i eraill, megis arweinwyr yn ne'r byd a fu'n darged y cynllwynion hyn, wynebu canlyniadau gweithgareddau cudd llywodraeth y DU."

Mae ‘The President’s Kill List: Assassination in US Foreign Policy Since 1945’, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caeredin, ar gael i'w brynu nawr.

Rhannu'r stori