Oli Fryatt yn cyfnwyno'i thesis tair munud

Oli Fryatt yn cyfnwyno'i thesis tair munud.

Mae Oli Fryatt, sy'n astudio am PhD mewn Peirianneg Fecanyddol, wedi ennill rownd derfynol cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.

Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o'r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig, cyfres o ddigwyddiadau mis o hyd i arddangos yr ymchwil flaengar sy'n cael ei chyflawni gan fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe.

Roedd Oli yn fuddugol yn erbyn 13 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill o dair cyfadran y brifysgol i hawlio'r brif wobr.

Yn ei gyflwyniad gafaelgar, trafododd Oli yr angen dybryd i wella dulliau ailgylchu paneli solar ar ddiwedd eu hoes er mwyn adfer deunyddiau craidd gwerthfawr. Amlygodd ddull ailgylchu arloesol gan ddefnyddio nitrogen hylifol, sy'n meddu ar y potensial i helpu'r broses o drawsnewid i ynni gwrdd, a hynny'n sylweddol, drwy fabwysiadu egwyddorion yr economi gylchol.

Mae 3MT, a sefydlwyd gan Brifysgol Queensland yn 2008, yn gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir mewn mwy na 200 o brifysgolion ledled y byd. Mae'n herio myfyrwyr PhD i gyflwyno eu hymchwil mewn tair munud yn unig gan ddefnyddio un sleid PowerPoint sefydlog. Nod y gystadleuaeth yw gwneud pynciau ymchwil cymhleth yn hygyrch i gynulleidfa eang heb wybodaeth arbenigol am y maes.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o oddeutu 70 o sefydliadau yn y DU sy'n cyfranogi yn y fenter fyd-eang hon. Mae cystadleuaeth 3MT yn annog myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i rannu eu gwaith a'u brwdfrydedd â chynulleidfaoedd anarbenigol, gan arddangos ansawdd ac amrywiaeth eu hymchwil a'i heffaith ar y byd.

Gan fyfyrio ar ei gyflawniad, meddai Oli Fryatt: “Mae cyfranogi yng nghystadleuaeth 3MT wedi bod yn brofiad gwych a wnaeth fy herio i rannu fy ymchwil mewn modd gafaelgar a chryno. Mae ennill y gystadleuaeth ym mlwyddyn gyntaf fy PhD wedi hybu fy hyder wrth gyflwyno fy ymchwil ac mae'n cadarnhau'r diddordeb yn y gwaith hwn tuag at hyrwyddo dyfodol gwyrddach, a'i bwysigrwydd.”

Ychwanegodd yr Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe: “Y Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig, sy'n cynnwys rownd derfynol a seremoni wobrwyo cystadleuaeth 3MT, yw uchafbwynt ein Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol. Mae'r digwyddiadau cyffrous hyn yn dod â'r holl gymuned ymchwil a chymorth ymchwil ynghyd ar draws ein cyfadrannau ac yn galluogi ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddisgleirio gerbron cynulleidfa eang a brwd.

“Eleni, creodd natur ddybryd llawer o'r prosiectau ymchwil argraff arna i, gan amrywio o nyrsys byddar yn y GIG a chywirdeb profion llif unffordd, i waredu haenau tenau iawn o baent ac ailgylchu celloedd solar. Mae'n destun ysbrydoliaeth gweld bod ein myfyrwyr ymchwil am newid pethau a'u bod yn gwireddu eu haddewid.”

Bydd Oli Fryatt bellach yn mynd rhagddo i rownd gogynderfynol cystadleuaeth 3MT y DU ym mis Gorffennaf. Bydd yn gobeithio cael cyfle i gystadlu yn rownd derfynol ar-lein y DU ym mis Medi, a gynhelir gan Vitae, sy'n flaenllaw'n fyd-eang wrth ddatblygu ymchwilwyr.

Rhannu'r stori