Afon Afan

Mae Prifysgol Abertawe a Chlwb Pysgota a Chadwraeth Cwm Afan (AVACC) wedi sefydlu partneriaeth hirdymor â'r nod o ddatblygu ymchwil ac ymdrechion cadwraeth o ran bioamrywiaeth afonydd yng nalgylch Afan a systemau afon tebyg eraill yn ne Cymru. 

Mae AVACC wedi ymrwymo i roi rhodd blynyddol gwerth £1,000 i Brifysgol Abertawe am yr ugain mlynedd nesaf, a fydd yn cefnogi un neu ddau o fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig bob blwyddyn i ymgymryd â phrosiectau ymchwil hanfodol.

Bydd y prosiectau hyn yn canolbwyntio ar ddeall a chynnal bioamrywiaeth yn nalgylch Afan, gan fynd i'r afael â materion amgylcheddol o bwys megis llygredd, chwalu cynefinoedd, newid yn yr hinsawdd ac effaith newidiadau i'r ffyrdd y caiff tir ei ddefnyddio. Bydd cwmpas yr ymchwil yn cynnwys yr holl rywogaethau dŵr croyw yn Afon Afan, gan gynnwys pysgod, infertebratau, planhigion a mamaliaid.

Yn nodedig, dyma'r dyfarniad cyntaf o'i fath gan unrhyw glwb pysgota yn y DU ac mae’n gosod cynsail ar gyfer cydweithrediadau yn y dyfodol rhwng grwpiau cadwraeth a sefydliadau academaidd.  

Bydd y ddau unigolyn cyntaf i dderbyn y dyfarniad, sef Dorothy Hazel a Rhys Sweeny, yn ymgymryd â'u prosiectau ymchwil MSc gan olrhain ac asesu effeithiau cylfatiau ffordd yn nalgylch Afan, dan oruchwyliaeth yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR) yn Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe.

Dywedodd yr Athro Garcia de Leaniz: "Mae'r bartneriaeth hon yn cynrychioli cyfle gwych i'n myfyrwyr biowyddorau ymgymryd â'u traethodau ymchwil ar brosiectau ymchwil sydd o bwys mawr i bobl leol, wrth weithio tuag at y nod o gynnal ac adfer Afon Afan ac afonydd tebyg yn ne Cymru". 

Mynegodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymchwil ac Arloesi, ei diolchgarwch am y bartneriaeth: "Rydym mor ddiolchgar i Glwb Pysgota a Chadwraeth Cwm Afan am ei graffter a'i haelioni.  Bydd y cyllid hirdymor hwn yn cefnogi ymchwil sylweddol i ddiogelu'n hadnoddau naturiol, gan gynnig cyfleoedd heb eu hail i'n myfyrwyr biowyddorau gymryd rhan mewn gwaith amgylcheddol ymarferol.

"Mae'r bartneriaeth hon yn dathlu cam arwyddocaol tuag at wella dealltwriaeth ac ymdrechion i gynnal ecosystemau afonydd yn ne Cymru ac mae Prifysgol Abertawe'n edrych ymlaen at y canlyniadau ymchwil cadarnhaol y bydd y cyllid hwn yn eu creu i'r amgylchedd a'r gymuned academaidd fel ei gilydd." 

Dywedodd John Phillips, Llywydd Oes AVACC: "Mae ein clwb bob amser wedi bod yn ymroddedig i gynnal harddwch naturiol ac iechyd ecolegol Cwm Afan. Drwy weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, rydym yn buddsoddi yn nyfodol ein hafonydd ac yn sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol yn gallu parhau â'r gwaith hanfodol hwn.

"Rydym wrth ein boddau'n cyflwyno Dyfarniad Amgylcheddol Llywyddon AVACC, sy'n cefnogi myfyrwyr yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r dyfarniad hwn yn anrhydeddu ymroddiad ein Llywyddon, ein His-lywyddon a'n haelodau pwyllgor, rhai’r gorffennol a’r presennol, ers i'r clwb gael ei sefydlu ym 1951."

Rhannu'r stori