Chwech o bobl yn sefyll mewn ystafell, dau ohonyn nhw'n eistedd wrth fwrdd yn llofnodi dogfen

Yn y llun, yn llofnodi’r cytundeb y mae’r Deon Cysylltiol (Rhyngwladol), yr Athro Lisa Wallace, Rheolwr Gyfarwyddwr Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti, Dhanjay Jhurry, Prif Swyddog Gweithredol Medine Group, Dhiren Ponnusamy, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol, yr Athro Judith Lamie, a Rheolwr Gyfarwyddwr Medine Property, Joel Bruneau.

Bydd nyrsys ym Mauritius yn gallu elwa o hyfforddiant gofal iechyd arobryn Prifysgol Abertawe fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol newydd.

Bydd y Brifysgol yn darparu rhaglen BSc Nyrsio (Atodol) ar ôl llofnodi cytundeb partneriaeth â Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti (UIEH) ym Mauritius.

Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau megis hybu iechyd ac iechyd y cyhoedd, ymarfer ar sail tystiolaeth, ymchwil nyrsio a chyflwyniad i arweinyddiaeth glinigol. Mae wedi'i chynllunio i nyrsys cofrestredig â diploma sy'n awyddus i ehangu eu datblygiad personol a phroffesiynol.

Gan ddechrau ym mis Medi, bydd yn cynnwys dosbarthiadau ar ffurf hybrid, gyda sesiynau wyneb yn wyneb ar gampws UIEH a chyrsiau ar-lein, wedi'u cyflwyno gan dîm cymwysedig o'r Brifysgol.

Meddai'r Athro Keith Lloyd - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: "Rydym yn falch iawn o ddechrau ar y bartneriaeth hon ag UIEH, gan rannu ein rhagoriaeth academaidd mewn nyrsio i ddatblygu sgiliau'r nyrsys ym Mauritius.

"Mae gennym dros 30 o flynyddoedd o hyfforddi nyrsys ac ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol i'r GIG, felly gall myfyrwyr ar y rhaglen atodol fod yn hyderus y byddan nhw'n gorffen eu rhaglen wedi meithrin y sgiliau i fodloni'r galw am nyrsys cymwysedig, galluog a hyderus.

"Edrychwn ymlaen at fod yn rhan o lwyddiant ein myfyrwyr newydd yn y dyfodol."

Mae UIEH, a leolir yn Pierrefonds, Mauritius, yn ganolfan rhagoriaeth academaidd sy'n cynnig amrywiaeth o raglenni prifysgol mewn partneriaeth â sefydliadau o fri rhyngwladol. Mae'n rhan o Medine, sy'n grŵp aml-sector mawr ym Mauritius.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr UIEH, Dhanjay Jhurry: "Mae ein partneriaeth yn tanlinellu ymrwymiad Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti i ragoriaeth academaidd. Nod y cydweithrediad hwn yw bodloni galw lleol a rhanbarthol am ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnig cyfle i nyrsys sydd wedi ennill diploma astudio am radd baglor.”

Mae'r bartneriaeth strategol hon rhwng UIEH a Phrifysgol Abertawe'n cyd-fynd â menter ehangach i greu canolfan ragoriaeth ranbarthol mewn hyfforddiant gofal iechyd.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 300 o sefydliadau gorau yn y byd (QS World University Ranking 2025), yn 2il yn y DU ar gyfer y proffesiynau iechyd (The Guardian University Guide 2024) ac yn un o'r 10 sefydliad gorau yn y DU am nyrsio (The Times a Sunday Times Good University Guide 2024).

Rhagor o wybodaeth am yrfaoedd nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori