Mae Dr Naeem Anwar, Dr Mark Kingston, Dr Julie Peconi a Dr Owen Pickrell o Brifysgol Abertawe wedi cael eu dewis i ymuno â Chrwsibl Cymru eleni.

Mae Dr Naeem Anwar, Dr Mark Kingston, Dr Julie Peconi a Dr Owen Pickrell o Brifysgol Abertawe wedi cael eu dewis i ymuno â Chrwsibl Cymru eleni.

Mae pedwar ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis i ymuno â Chrwsibl Cymru 2024, rhaglen arobryn sydd â'r nod o feithrin datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain ymysg arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Bob blwyddyn, caiff 30 o ymchwilwyr eithriadol yng Nghymru eu dewis i gyfranogi mewn cyfres o weithdai preswyl ymdrochol, a adwaenir fel labordai sgiliau. Mae'r gweithdai hyn yn cynnig llwyfan ar gyfer cydweithrediad rhyngddisgyblaethol ac yn ceisio gwella effaith eu hymchwil wrth hyrwyddo datblygiad gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.

Mae'r ymchwilwyr sydd wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2024 fel a ganlyn:

  • Mae Dr Naeem Anwar yn un o Gymrodyr Rhyngwladol Newton y Gymdeithas Frenhinol yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe ac yn un o aelodau sefydlu UK Young Academy. Mae'n frwd am ledaenu gwyddoniaeth ac mae ei ymchwil yn archwilio'r grymoedd niwclear cryf sy'n clymu cwarciau a gliwonau'n hadronau. Mae ganddo ddiddordeb penodol yn y gronynnau dieithr, di-ddal ac ansefydlog a oedd yn bodoli yn ôl pob tebygolrwydd yn y bydysawd cynnar.
  • Mae Dr Mark Kingston yn uwch-reolwr treialon a phrosiectau ar gyfer astudiaethau ymchwil ryngddisgyblaethol gydweithredol o ofal sylfaenol a brys, yn gyd-ymgeisydd ac yn aelod o grŵp gweithredol Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys ac yn aelod o fwrdd Fforwm Ymchwil Gwasanaethau Meddygol Brys 999. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ymagweddau dulliau cymysg cymhwysol at wasanaethau ambiwlans a gofal heb ei drefnu. Mae'n ymroddedig i ehangu'r ddealltwriaeth o ddisgyblaethau ymchwil amrywiol a meithrin arbenigedd a chydweithrediad ym maes ymchwil ledled Cymru.
  • Mae Dr Julie Peconi yn canolbwyntio ar atal afiechyd a sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar y croen ac atal canser y croen. Yn ddiweddar, gwnaeth gwblhau astudiaeth Sunproofed o ddiogelwch yn yr haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae bellach yn manteisio ar fuddion yr ymchwil hon yn ei rôl bresennol fel Cymrawd Effaith ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Julie hefyd yn gwirfoddoli gyda Skin Care Cymru ac mae'n un o Ymddiriedolwyr Pachyonychia Congenita Project Europe.
  • Mae Dr Owen Pickrell yn academydd clinigol ac yn feddyg ymgynghorol niwrolegol yn Ysbyty Treforys, yn ogystal â bod yn athro cysylltiol er anrhydedd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar niwroleg glinigol, epilepsi, anghydraddoldebau iechyd, geneteg epilepsi a defnyddio data mawr a phrosesu iaith naturiol i wella bywydau pobl ag epilepsi.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi:

"Rydyn ni'n falch iawn o'n cymuned ymchwil yma yn Abertawe, ac mae'n hyfryd gweld ein cynrychiolwyr yn rhaglen Crwsibl Cymru eleni. Mae cynnwys ein hymchwilwyr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ymchwil ryngddisgyblaethol, gydweithredol, ac yn amlygu ehangder a dyfnder ein harbenigedd ymchwil. Bydd cyfranogi yn rhaglen Crwsibl Cymru'n rhoi cyfle unigryw iddyn nhw i gyd i ddatblygu eu doniau a mireinio eu sgiliau, gan wella eu cyfleoedd ymchwil – rhywbeth a fydd o fudd mawr wrth i ni fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang."

Mae Crwsibl Cymru yn fenter gydweithredol a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Rhannu'r stori