Llun o unigolyn yn bwrw ei bleidlais gan ddefnyddio blwch pleidleisio.

Wrth i ni nesáu at yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod, mae pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi eu maniffestos, gan adael llawer o bobl mewn dryswch ynghylch pa blaid sy'n cydweddu orau â'u barn. I ymdrin â'r broblem hon, mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i greu offeryn pleidleisio ar-lein newydd.

Mae WhoGetsMyVote, a lansiwyd yr wythnos hon, yn caniatáu i bleidleiswyr weld sut mae eu safbwyntiau ar faterion polisi allweddol yn cydweddu â safbwyntiau pleidiau gwleidyddol ar yr un materion.

Gofynnir i bleidleiswyr nodi i ba raddau y maent yn cytuno â chyfres o ddatganiadau polisi. Yna, mae delweddau graffigol yn datgelu pa mor agos y maent at safbwyntiau'r pleidiau gwleidyddol yn gyffredinol ac ar bob mater unigol.

Noddir y prosiect gan Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economeg Cymru (WISERD) ac mae'n enghraifft o'r ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n bosib oherwydd Rhwydwaith Ymchwil i Wleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD. Fe'i cefnogir hefyd gan Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ac Ymarfer Prifysgol Abertawe.

Ers i'r etholiad gael ei gyhoeddi, mae academyddion, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD o Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe wedi bod yn cyfrannu at ddatblygu'r cwestiynau a ddefnyddir i baru pleidleiswyr â phleidiau, gan ymchwilio'n helaeth a chodio polisïau ar gyfer pob plaid.

Mae'r prosiect yn parhau â gwaith Dr Matthew Wall, sef arweinydd tîm y prosiect ar gyfer Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio technolegau digidol i rymuso pleidleiswyr a gwella democratiaeth.

Meddai Dr Wall, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a Chyd-gyfarwyddwr WISERD: “Mae gwefannau paru pleidleiswyr bellach wedi cael eu sefydlu fel rhan bwysig o ymgyrchoedd etholiadau ledled y byd. Gellir defnyddio'r gwefannau gorau, megis WhoGetsMyVote, am ddim ac maent wedi'u cynhyrchu gan arbenigwyr academaidd er lles y cyhoedd. Maent yn rhoi gwybodaeth nad yw'n bleidiol, sy’n seiliedig ar ymchwil drylwyr, am sut mae eu safbwyntiau’n cydweddu â pholisïau pleidiau.”

Ychwanegodd Dr Micha Germann, o Brifysgol Caerfaddon: “Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bleidleiswyr nad ydynt yn hollol ymwybodol o safbwyntiau pleidiau gwleidyddol ar faterion amrywiol, ac mae'r holl negeseuon gwleidyddol yn ychwanegu at y dryswch. Mae WhoGetsMyVote yn torri drwy'r wybodaeth ddiangen, gan eich helpu chi i adnabod y pleidiau sy'n cydweddu orau â'ch barn yn gyflym.”

Roedd fersiynau blaenorol o WhoGetsMyVote ar gael yn ystod Etholiadau Cyffredinol 2015, 2017 a 2019 ac etholiadau Ewropeaidd 2014 a 2019. Mae cyfanswm o dros 500,000 o bleidleiswyr wedi defnyddio'r offeryn.

Mae tystiolaeth sy'n dangos y gallai offer megis WhoGetsMyVote, a adwaenir fel Cymwysiadau Cyngor ar Bleidleisio (VAAs), helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio, yn enwedig ymhlith pleidleiswyr iau. Ceir tystiolaeth gref hefyd bod VAAs yn effeithio ar fwriadau pleidleisio pobl. 

Meddai Dr Iulia Cioroianu, o Brifysgol Caerfaddon: “Mae WhoGetsMyVote yn casglu llawer o 'ddata mawr' ar yr hyn y mae'r defnyddwyr yn ei feddwl am faterion allweddol etholiadau, eu bwriadau pleidleisio presennol a'u harferion pleidleisio yn y gorffennol. Dyma adnodd gwych i ymchwilwyr sydd am weld pa mor dda y mae'r prif bleidiau yn cyfleu eu negeseuon i grwpiau gwahanol o bleidleiswyr wrth i ymgyrch yr etholiad fynd rhagddi.”

Mae WhoGetsMyVote yn brosiect nid-er-elw nad yw'n gysylltiedig â phlaid neu sefydliad gwleidyddol ac mae'n cynrychioli consortiwm amrywiol o arbenigwyr gwleidyddol blaenllaw o brifysgolion a chanolfannau ymchwil amrywiol ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Arweinir y prosiect gan Dr Jon Wheatley (Prifysgol Oxford Brookes) a Dr Micha Germann (Prifysgol Caerfaddon).

Mae'r Grŵp Ymchwil yn perthyn i brifysgolion cyhoeddus ac mae'n cynnwys y canlynol: Dr Matthew Wall (Prifysgol Abertawe), Dr Jon Wheatley (Prifysgol Oxford Brookes), Dr Micha Germann (Prifysgol Caerfaddon), Dr Iulia Cioroianu (Prifysgol Caerfaddon), Dr Roula Nezi (Prifysgol Surrey), yr Athro Susan Banducci (Prifysgol Caerwysg), yr Athro Ailsa Henderson (Prifysgol Caeredin), Dr Fraser McMillan (Prifysgol Caeredin), Dr Ed Poole (Prifysgol Caerdydd), yr Athro Richard Wyn Jones (Prifysgol Caerdydd), Dr Fernando Mendez (Prifysgol Zurich), Dr Vasiliki Triga (Prifysgol Technoleg Cyprus) a Dr Costas Djouvas (Prifysgol Technoleg Cyprus).

Rhannu'r stori