Myfyrwyr hapus yn neidio y tu allan i Abaty Singleton

Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i 298fed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan gyrraedd y 300 uchaf am y tro cyntaf a sicrhau ei safle uchaf erioed yn y tabl.

Mae tabl cynghrair byd-eang QS Quacquarelli Symonds, sy’n dadansoddi addysg uwch, yn rhestru mwy na 1,500 o sefydliadau byd-eang blaenllaw ar draws naw categori: enw da academaidd, dyfyniadau fesul cyfadran, canlyniadau cyflogaeth, enw da ymysg cyflogwyr, y gymhareb rhwng myfyrwyr a chyfadrannau, rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol, myfyrwyr rhyngwladol a chynaliadwyedd.

Mae Abertawe wedi dringo naw safle i'r 300 uchaf yn bennaf drwy welliannau yn y mesuryddion enw da academaidd a rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol, ochr yn ochr â chynnydd sylweddol o ran cynaliadwyedd.

Yn y categori enw da academaidd, dringodd Abertawe 33 o safleoedd i rif 385 yn fyd-eang, ac fe'i rhestrwyd yn y 286ed safle ar gyfer rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol.

Yn y categori cynaliadwyedd, sicrhaodd Abertawe sgôr o 91.8 allan o 100, a'r 80fed safle yn fyd-eang.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rwy'n hynod falch o lwyddiant nodedig Prifysgol Abertawe wrth ddringo i'r 298fed safle yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan gyrraedd y 300 uchaf am y tro cyntaf a sicrhau ein safle uchaf erioed. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos ymdrechion anhygoel ein holl gydweithwyr.

“Yn ein Strategaeth Ryngwladol 2020-2025, ein nod oedd bod ymysg y 350 o brifysgolion gorau yn y byd, ac mae rhagori ar y nod hwnnw yn ystod y cyfnod yn gyflawniad nodedig sy'n garreg filltir i ni. Yn ychwanegol, mae ein perfformiad rhagorol yn y mesurydd cynaliadwyedd yn tanlinellu ein hymrwymiad i ymchwil sy’n cael effaith a chyfrifoldeb cymdeithasol. At ei gilydd, mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ein hymroddiad diwyro i ragoriaeth academaidd a'n gweledigaeth strategol ar gyfer ymgysylltiad a chynaliadwyedd byd-eang.

“Rwy'n hynod ddiolchgar i'n holl staff am eu gwaith caled a'u hymroddiad; mae eu hymdrechion cyfunol wedi gwneud cyfraniad hollbwysig at y cyflawniad nodedig hwn a hyrwyddo enw da Prifysgol Abertawe'n fyd-eang.”

Ychwanegodd yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: “Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith tîm pawb ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein safle byd-eang gwell ymysg y 300 uchaf yn atgyfnerthu ein statws fel cyrchfan blaenllaw i fyfyrwyr rhyngwladol, gan amlygu ein hymrwymiad i ragoriaeth academaidd, ymchwil sy'n cael effaith a chynaliadwyedd.”

Rhannu'r stori