Trefnwyd y gynhadledd gan bwyllgor o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe dan arweiniad Dr Marcela Bezdickova (yn y llun), Athro Cysylltiol mewn Anatomeg.

Trefnwyd y gynhadledd gan bwyllgor o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe dan arweiniad Dr Marcela Bezdickova (yn y llun), Athro Cysylltiol mewn Anatomeg.

Disgwylir i arbenigwyr anatomeg o wledydd amrywiol ymgynnull yn Abertawe rhwng 27 a 30 Mehefin pan fydd y Brifysgol yn cynnal y 15fed Symposiwm Rhyngwladol Anatomeg Glinigol a Chymhwysol (ISCAA).

Y nod yw archwilio a rhannu'r datblygiadau a'r arloesi diweddaraf ym maes anatomeg o bob cwr o'r byd.

Wedi'i sefydlu yn 2009, mae'r ISCAA yn dod â gwyddonwyr sy'n ymwneud â chymhwyso ymchwil anatomegol ym mhob sector ynghyd, er enghraifft anatomeg glinigol a chymhwysol a'r gwyddorau morffolegol.  Mae'r Symposia Rhyngwladol wedi cael eu cynnal mewn gwledydd gwahanol ac Abertawe sydd â'r fraint o gynnal digwyddiad 2024. 

Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau am lawer o agweddau gwahanol ar anatomeg ddynol, gan gynnwys:

  • Anatomeg berthnasol ar gyfer caffael organau
  • Modelu pwysau ar adeileddau'r llygad
  • Technegau adlunio ar gyfer y ligament croesffurf blaen (ACL)

Mwy o wybodaeth

Bydd cynadleddwyr hefyd yn cael cyfle i archwilio'r cyfleusterau sydd ar gael i ymchwilwyr a myfyrwyr yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae hyn yn cynnwys canolfan efelychu arloesol y Brifysgol, SUSIM, sy'n defnyddio realiti rhithwir i hyfforddi myfyrwyr drwy eu trochi mewn cyd-destunau hynod realistig, megis mewn theatr lawdriniaeth.

Yn ogystal, mae rhaglen y gynhadledd yn cynnig cyfleoedd i gynadleddwyr weld atyniadau Abertawe a'r cyffiniau.

Trefnwyd y gynhadledd gan bwyllgor o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe dan arweiniad Dr Marcela Bezdickova, Athro Cysylltiol mewn Anatomeg.

Ers 2015, mae Dr Bezdickova wedi bod yn un o'r prif anatomyddion yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan gyflwyno datblygiadau arloesol megis cyrsiau dyrannu allgyrsiol a sefydlu'r rhaglen cynorthwywyr addysgu anatomeg.

Meddai Dr Marcela Bezdickova:

“Mae rhaglen y gynhadledd hon yn addo bod yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth, meithrin cydweithio ymysg arbenigwyr, ysgolheigion ac ymarferwyr o bedwar ban byd.

Gyda'n gilydd, byddwn yn trafod cymhlethdodau anatomeg glinigol a chymhwysol, yn rhannu dealltwriaeth ac yn ehangu ffiniau ein dealltwriaeth gyfunol.

Bydd yn gyfle hefyd i ddangos y cyfleusterau neilltuol yma yn yr Ysgol Feddygaeth ac atyniadau niferus yr ardal leol i'n hymwelwyr.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu bron cant o gynadleddwyr o 15 gwlad o bedwar ban byd.

Gobeithio y byddwn ni'n cael amser cyffrous gyda'n gilydd a fydd yn cyfoethogi ein gwybodaeth."

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori