Plant: er gwaethaf cyngor parhaus i beidio â thorheulo'n fwriadol, mae gan aelodau'r cyhoedd, gan gynnwys plant, farn gadarnhaol yn aml am liw haul o ran iechyd a golwg.

Mae prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n gobeithio atal cynnydd pryderus canser y croen yng Nghymru drwy archwilio canfyddiadau presennol plant, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr am gael lliw haul. Bydd y canlyniadau'n helpu i ddatblygu pecyn cymorth addysgol newydd am ddiogelwch yn yr haul ar gyfer cwricwlwm Cymru.

Mae canser y croen bellach yn gyfrifol am hanner yr holl achosion o ganser yng Nghymru a Lloegr, er y gellir atal llawer ohonynt, gan gynnwys 86% o felanomata, drwy ddiogelwch gwell yn yr haul.

Er gwaethaf cyngor parhaus i beidio â thorheulo'n fwriadol, mae gan aelodau'r cyhoedd, gan gynnwys plant, farn gadarnhaol yn aml am liw haul o ran iechyd a golwg. 

Mae arbenigwyr croen a chanser yn cytuno nad yw'n bosib cael ‘lliw haul diogel’, gan amlygu a thrafod pwysigrwydd deall y rhesymau dros y gamdybiaeth hon.

Hyd yn hyn, ni wnaed unrhyw waith yng Nghymru i astudio meddyliau plant, eu rhieni a'u haddysgwyr am gael lliw haul a sut gellir annog pobl ifanc i fabwysiadu agweddau iachach. 

Mae SunChat (Sgyrsiau diogelwch yn yr haul am agweddau iach at gael lliw haul) yn defnyddio rhwydweithiau presennol a phartneriaid mewn ysgolion i archwilio'r pwnc hwn drwy'r canlynol:

  1. Gweithdai gyda phlant ysgol rhwng 5 ac 8 oed mewn Clybiau Ysgolion Iach i ddeall eu canfyddiadau am gael lliw haul a'u harferion presennol o ran diogelwch yn yr haul. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys lliwio, chwarae rôl, darlunio, technegau collage, fideos a phosteri.
  2. Arolwg amlddewis ar-lein gyda rhieni a gofalwyr plant ysgolion cynradd i ddeall yn well eu canfyddiadau, eu hagweddau a'u hymddygiadau o ran cael lliw haul, o’u safbwynt hwy eu hunain a'u plant.
  3. Grŵp ffocws ar-lein anffurfiol gydag addysgwyr ysgolion cynradd i ddeall eu canfyddiadau presennol am gael lliw haul, yn ogystal ag archwilio'r heriau wrth ymgysylltu â'r gymuned ysgolion yn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae SunChat, a ariennir gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI), yn gydweithrediad rhwng Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe, Uned Dreialon Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Meddai Dr Julie Peconi o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o brif ymchwilwyr SunChat: “Rydyn ni'n gwybod bod gormod o gysylltiad â'r haul yn cynyddu'r risg yn fawr y bydd plentyn yn cael canser y croen yn ddiweddarach yn ei oes, gan wneud addysg gynnar a hygyrch am ddiogelwch yn yr haul a hyrwyddo ymddygiadau diogel yn allweddol. 

“Drwy SunChat, rydyn ni'n gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd herio a newid y rhagdybiaeth gyffredin bod cael lliw haul yn ddymunol. Y Cwricwlwm i Gymru, drwy ei faes dynodedig i Iechyd a Lles a'i annibyniaeth i ysgolion wrth lunio cwricwlwm, yw'r cyfle delfrydol i helpu ysgolion i rymuso ac addysgu plant i fod yn oedolion iach a gwybodus, gan liniaru pwysau diangen ar wasanaethau a gofal dermatoleg y GIG yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Dr Gisselle Tur Porres, cyd-arweinydd y prosiect o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni'n ystyried problem hysbys canser y croen ac yn mynd i'r afael â hi mewn ffordd newydd, drwy ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant drwy weithgareddau creadigol i hwyluso a blaenoriaethu eu cyfranogiad.”

Mae rhagor o fanylion am brosiect SunChat wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar yn y cyfnodolyn PLOS ONE - “Exploring perceptions of and attitudes towards tanning with school children, parents/carers and educators in Wales: SunChat A mixed methods study protocol for the SunChat study.

 

Rhannu'r stori