Rhwydwaith: trefnir y gynhadledd gan y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, a chan y rhwydwaith ymchwil byd-eang VOX Pol a gydlynir gan y Brifysgol.

Sut mae grwpiau terfysgol yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a sut gellir gwrthwynebu hyn, dyna ffocws cynhadledd ryngwladol bwysig yn Abertawe sy'n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a chynrychiolwyr o lywodraethau a chwmnïau technoleg blaenllaw o bedwar ban byd ynghyd.

Wedi'i threfnu gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, cynhelir Cynhadledd TASM ar 18 ac 19 Mehefin, gan ddenu tua 250 o gynadleddwyr o 25 gwlad.

Mae'r gynhadledd wedi datblygu'n un o'r digwyddiadau byd-eang pwysicaf yn y maes hwn, oherwydd yr amrywiaeth unigryw o arbenigwyr o wahanol sectorau a gwledydd sy'n dod iddi ac yn cyfrannu ynddi.

Bydd cynrychiolwyr o lywodraethau cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith o wledydd sy'n cynnwys y DU, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Canada, yr UD, Awstralia a Malaysia, a chwmnïau technoleg gan gynnwys Meta a TikTok, yn ymuno ag academyddion ac ymarferwyr gwrth-eithafiaeth llawr gwlad o ledled y byd.

I sicrhau bod rhannu dysgu rhyngwladol wrth wraidd y digwyddiad, mae Prifysgol Abertawe wedi cefnogi presenoldeb cynadleddwyr o wledydd yn Ne'r Byd, gan gynnwys Singapore, y Maldives, Pacistan, Nigeria a Brasil.

Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys:

• Gwefannau a'r dde eithaf
• Twyllwybodaeth, camwybodaeth a chynllwynio
• Incels
• Ymchwil TikTok
• Atal a gwrthwynebu eithafiaeth dreisgar ar-lein

Bydd diwrnod cyntaf y gynhadledd yn canolbwyntio ar sut mae eithafwyr a therfysgwyr yn defnyddio platfformau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technolegau newydd a Web3, defnyddio cyfryngau gweledol ac AI cynhyrchiol, ynghyd â gwybodaeth lygredig ac ymgyrchoedd dylanwad milain.

Bydd yr ail ddiwrnod yn archwilio sut i ymateb i'r bygythiad. Mae hyn yn cynnwys rheoleiddio, defnyddio AI i nodi cynnwys eithafol a therfysgol, a sut i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu parchu, gan gynnwys rhyddid i lefaru, preifatrwydd a thryloywder.

Prif siaradwyr:

Brian Fishman, cyd-sefydlydd Cinder platfform gweithrediadau ymddiriedaeth a diogelwch blaenllaw. O'r blaen, bu Fishman yn arwain gwaith Facebook i wrthwynebu sefydliadau terfysgol a grwpiau casineb, ac ef oedd Cyfarwyddwr Ymchwil yng Nghanolfan Gwrthwynebu Terfysgaeth Academi Filwrol yr Unol Daleithiau.

Anjum Rahman, un o aelodau sefydlu Cyngor Menywod Islamaidd Seland Newydd. Yn dilyn yr ymosodiad saethu ar fosg Christchurch ym mis Mawrth 2019, bu Rahman yn llefarydd dros y gymuned Fwslimaidd. Ar hyn o bryd, mae Rahman yn aelod o gyngor llywodraethu InternetNZ ac yn aelod o'r pwyllgorau rhyngwladol sy'n ymdrin â chynnwys treisgar ar-lein.

Anne Craanen, ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n aelod o Rwydwaith VOX-Pol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd, ymatebion rheolaeth y gyfraith a rôl rhyw mewn terfysgaeth ac eithafiaeth dreisgar.

Dia Kayyali, ymgynghorydd technoleg a hawliau dynol a threfnydd cymunedol. Yn arbenigwr mewn cymedroli cynnwys ac atebolrwydd platfformau, mae gwaith Dia yn canolbwyntio ar effaith ar fywydau pobl penderfyniadau polisi a wneir gan ddeddfwyr a chwmnïau technoleg, yn enwedig yr effaith ar gymunedau sy’n agored i niwed, o bobl LGBTQIA+ i leiafrifoedd crefyddol.

Meddai'r Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe, arweinydd y tîm sy'n trefnu'r gynhadledd:

"Mae cynhadledd TASM wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol am fod yn un o'r digwyddiadau pwysicaf ym maes defnydd eithafwyr a therfysgwyr o blatfformau ar-lein. Mae ymateb effeithiol yn gofyn am gydweithredu ar draws sawl sector, felly mae'r gynhadledd yn dod ag amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol ynghyd i drafod y maes hollbwysig hwn, gan ystyried yr ymchwil ddiweddaraf gan arbenigwyr ledled y byd."

Trefnir y gynhadledd gan y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, a chan y rhwydwaith ymchwil byd-eang VOX Pol a gydlynir gan y Brifysgol.

 

Rhannu'r stori