Grŵp mawr o bobl yn gwisgo cit rhedeg o flaen llinell gychwyn y ras

Mae staff, myfyrwyr a ffrindiau a gymerodd ran yn Hanner Marathon Prifysgol Abertawe eleni wedi rhagori ar eu targed codi arian a chasglu mwy nag £20,000 i hybu gofal a chymorth ar gyfer iechyd meddwl.

Mae'r cyfanswm wedi rhagori ar gyfanswm y llynedd ac mae'n dal i gynyddu wrth i ragor o arian lifo i mewn ar ôl y digwyddiad llwyddiannus. 

Cymerodd mwy na 5,000 o redwyr ran yn y ras, a noddwyd gan y Brifysgol unwaith eto eleni, gan ddilyn cwrs o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, i Gampws Singleton ac ar hyd Heol y Mwmbwls ac yn ôl. 

Yn eu plith roedd tîm o 230 o redwyr o'r Brifysgol a ddewisodd godi arian i'n hymgyrch Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl, sy'n ariannu ymchwil hanfodol i atal hunanladdiad, ynghyd â chymorth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr. 

Meddai aelod o Dîm Abertawe, yr Athro Cysylltiol Cath Norris: "Yn ystod y ras, roeddwn i'n meddwl am yr holl gefnogwyr a roddodd arian at yr achos gwych hwn ac roedd hynny'n gymhelliant enfawr i ddal ati - wrth ganu i fy nhâp o gerddoriaeth yr wythdegau. Wel mae angen cerddoriaeth dda i basio'r amser!" 

Ychwanegodd: "Gwnaeth croesi'r llinell derfyn ennyn cymysgedd go iawn o emosiynau - pan ddechreuais i hyfforddi ym mis Ionawr, doeddwn i ddim yn obeithiol iawn y gallwn i redeg y pellter hwnnw, ond fe lwyddais i, a dwi mor falch o hynny. Dwi'n dal i wenu wrth feddwl mod i wedi rhedeg hanner marathon." 

Meddai'r Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg, yr Athro Deborah Youngs, a gyflwynodd fedalau i'r enillwyr: "Rodd gweld ymrwymiad yr holl redwyr yn ysbrydoliaeth go iawn, os oedden nhw'n cwblhau eu hanner marathon cyntaf erioed, yn rhedeg eu hamser personol gorau, yn manteisio ar olygfeydd hyfryd y cwrs, neu bob un o'r tri! 

"Rydyn ni wrth ein boddau bod y Brifysgol yn gallu cefnogi digwyddiad mor bwysig i'r ddinas gyfan. Rydyn ni'n arbennig o falch o'n staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr a ddaeth ynghyd i chwarae eu rhan a chodi cymaint o arian at achos da." 

Enillwyd ras y dynion gan Omar Ahmed mewn 1:03:02 ac enillydd y ras i ddefnyddwyr cadair olwyn oedd Josh Hickinbottam a'i amser oedd 1:05:47. Yn briodol i ras a noddwyd gan Brifysgol Abertawe, enillydd ras y menywod oedd Dr Emily Marchant o'r adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod gydag amser o 1:17:42. 

Ond roedd canlyniadau y Tîm Camau Breision yn drawiadol hefyd - ei ddyn cyntaf dros y llinell oedd Henry Spencer mewn 1:25:53 a Kitty Watts oedd y fenyw gyntaf gydag amser o 1:38:28. 

Darllenwch am sut caiff yr arian a godwyd gan Dîm Abertawe ei ddefnyddio ac os hoffech chi helpu, mae amser i roi o hyd, derbynnir cyfraniadau tan ddiwedd y mis. 

Gallwch chi hefyd weld lluniau o'r ras yn ein halbwm Flickr

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i fod yn rhan o Hanner Marathon Abertawe y flwyddyn nesaf, gallwch chi fynegi eich diddordeb yma. Bydd lleoedd am ddim ac am bris gostyngol ar gael eto i'n staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr.

 

Rhannu'r stori