Eli Staniforth

Mae Eli Staniforth, sy'n diwtor gyda Dysgu Cymraeg - Rhanbarth Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe, wedi cael ei dewis yn un o’r pedwar cystadleuydd yn rownd derfynol prif gystadleuaeth i ddysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr y mae cystadlu brwd amdani.

Denodd y gystadleuaeth eleni 45 o ymgeiswyr, sef y nifer uchaf yn ei hanes, a chynhelir y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Mae'r gystadleuaeth, sydd wedi denu dysgwyr medrus o Gymru a'r tu hwnt, yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Caiff enw'r enillydd ei ddatgelu mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher 7 Awst.

Yn ymuno ag Eli yn y rownd derfynol bydd y cyd-ddysgwyr neilltuol canlynol: Joshua Morgan, Antwn Owen-Hicks, ac Alanna Pennar-Macfarlane.

Dewiswyd cystadleuwyr y rownd derfynol yn dilyn rownd gynderfynol uchel ei safon a gynhaliwyd y mis diwethaf. Bydd y beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan, yn cael cyfle i holi'r ymgeiswyr ar Faes yr Eisteddfod cyn dewis yr enillydd terfynol.

Dechreuodd Eli Staniforth ar ei thaith dysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl, wedi'i hysbrydoli gan awydd i gysylltu ag eraill yn ystod cyfnod covid ac i wella ei rhagolygon yn sector y celfyddydau.

Er iddi gael ei magu mewn aelwyd di-Gymraeg yng Nghaerdydd ac astudio'r celfyddydau cain yn Rhydychen, ffynnodd ei brwdfrydedd am y Gymraeg a'i diwylliant. Yn ogystal â hybu ei hyder, gwnaeth dysgu Cymraeg hefyd ei hysbrydoli i ddod yn diwtor Cymraeg i oedolion, gan rannu ei brwdfrydedd â dysgwyr eraill. Cafodd brofiad ymarferol ar gynllun hyfforddiant mewnol gyda Dysgu Cymraeg Rhanbarth Abertawe, a arweiniodd y pen draw at gontract addysgu amser llawn, ac mae'n parhau'n aelod gwerthfawr o'r tîm.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae Elinor yn gobeithio cyfuno ei brwdfrydedd am ddysgu Cymraeg â chelf, ac mae ganddi weledigaeth am gyrsiau celf sy'n cysylltu dysgwyr â siaradwyr rhugl drwy fynegiant gweledol.

Cyhoeddir enillydd Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher 7 Awst pan gyflwynir tlws uchel ei bri Dysgwr y Flwyddyn gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr gwerth £300 a roddwyd yn hael gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards er diolch i'w rhieni am eu hymdrechion i ddysgu Cymraeg fel oedolion.

Yn ogystal â hyn, bydd y tri ymgeisydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlws er cof am Meirion Lewis, cyn Bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei wraig Clarice Lewis a'u merch Mair, ynghyd â gwobr gwerth £100 a roddwyd hefyd gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.

Cefnogir sesiynau Dysgwr y Flwyddyn ym Maes D gan Gwmni Cyfieithu Nico.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd rhwng 3 a 10 Awst.

Archwiliwch gyrsiau Cymraeg wedi'u teilwra i'ch anghenion.

Rhannu'r stori