Llun o deulu yn brwsio'u dannedd.

Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i amlygu'r heriau unigryw y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu wrth gynnal iechyd y geg a'r goblygiadau ehangach i'w lles cyffredinol.

Ar ôl nodi diffyg ymchwil i'r pwnc hwn yng Nghymru, sicrhaodd y tîm – dan arweiniad Dr Anne-Marie Coll, Athro Cysylltiol ar gyfer Nyrsio ac Iechyd ym Mhrifysgol De Cymru – gyllid gan y Grŵp Arloesi Ymchwil yng Nghyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg Prifysgol De Cymru am astudiaeth gychwynnol o'r mater hollbwysig hwn.

Mae'r astudiaeth yn gydweithrediad â Displaced People in Action (DPIA), elusen sy'n gweithio'n feunyddiol gyda phobl sy'n ceisio noddfa.

Drwy gyfweliadau â grŵp bach o weithwyr achosion sy'n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, mae'r tîm wedi nodi materion tebyg allweddol o ran iechyd y geg, megis rhwystrau ieithyddol, anawsterau ariannol a diwylliant.

Meddai Dr Ashra Khanom, Uwch-gymrawd Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Nododd Astudiaeth HEAR (Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid) fod iechyd deintyddol yn un o'r prif destunau pryder i bobl sy'n ceisio noddfa a darparwyr gofal iechyd.

“Nod ein hastudiaeth o iechyd y geg yw diwallu'r angen hwn drwy ddatblygu ymagwedd newydd at ofal ataliol. Efallai y bydd modd rhannu'r ddealltwriaeth a gafodd ei meithrin â grwpiau eraill sy’n agored i niwed.”

Ychwanegodd Dr Anne-Marie Coll: “Iechyd y geg yw'r ail angen mwyaf sydd heb ei ddiwallu ymhlith pobl sy'n ceisio noddfa.

“Rydyn ni'n archwilio'r effaith ddifrifol y gall problemau iechyd y geg ei chael ar ffoaduriaid, gan gynnwys annhegwch o ran mynediad at ofal iechyd y geg.

“Ein nod yw cynnig dealltwriaeth a all lywio polisïau a gwella gwasanaethau gofal iechyd i'r cymunedau hyn sy’n agored i niwed, yn ogystal ag addysg ar raglenni atal o ran iechyd y geg.

“Rydyn ni wrthi'n ceisio sicrhau rhagor o gyllid i ehangu’r ymchwil hon. Os byddwn ni'n llwyddiannus, rydyn ni'n gobeithio creu gweithdai ar bynciau iechyd, megis iechyd y geg, deiet a sut mae'r GIG yn gweithio. Pan ddaw pobl yma, mae'r pethau hyn yn anghyfarwydd iddyn nhw. Mae DPIA wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i ddatblygu'r ymchwil hon, ac rydyn ni'n gobeithio hyfforddi gweithwyr achosion i gyflwyno'r gweithdai hyn.”

Mae'r grŵp ymchwil a gyfrannodd at yr astudiaeth hon hefyd yn cynnwys Dr Teresa Filipponi, Dr Dilini Ratnayake, Dr Wayne Richards a'r Athro Emeritws Jamal Ameen o Brifysgol De Cymru.

Rhannu'r stori