Carrie Power

Mae cyn-feddyg gyda'r Fyddin wedi graddio o Brifysgol Abertawe ar ôl gadael yr ysgol heb Safon Uwch, ac erbyn hyn bydd yn hyfforddi i fod yn athrawes, gan annog pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion.

I Carrie Power, sy'n 36 oed ac yn hanu o'r ffin rhwng Hampshire a Wiltshire, nid oedd y Brifysgol yn rhywbeth y gwnaeth hi feddwl rhyw lawer amdano pan oedd hi yn yr ysgol.

"Ni chefais fy magu i ddeall beth oedd ystyr addysg uwch; Nid oeddwn yn gwybod bod benthyciadau i fyfyrwyr yn bodoli,” esboniodd Carrie.

"Ni chafodd y syniad o brifysgol byth ei drafod yn fy nhŷ i, gan nad oedd neb yn fy nheulu erioed wedi bod.  Felly gadewais yr ysgol heb wybod beth oedd fy holl opsiynau.”

Ymunodd Carrie â'r Fyddin Brydeinig yn 19 oed, gan hyfforddi fel Mecanig Cerbydau.

"Roedd y Fyddin yn sioc i'r system mewn sawl ffordd. Doedd gen i ddim pasbort nes fy mod yn 20 oed. Es i ar awyren am y tro cyntaf pan gefais fy anfon i'r Almaen yn 2009. Gwnes i weithio hefyd yng Nghanada am dri mis a gwasanaethu am chwe mis yn Affganistan cyn colli fy swydd yn 2013,” meddai Carrie.

"Ymunais i  â'r Fyddin Wrth Gefn yn 2016 fel Technegydd Meddygol Brwydrau. Fy hoff atgof oedd pan yr oeddwn yn cynrychioli fy uned yn yr Ŵyl Goffa gerbron y Frenhines a'r teulu brenhinol. Cefais yr anrhydedd o dywys Ernie Horsfall, cyn-filwr o'r Ail Ryfel Byd a Dydd D, i lawr Neuadd Frenhinol Albert i gael cymeradwyaeth am ei wasanaeth.

Yn 2016, dechreuodd Carrie weithio fel Cofrestrydd Cludiant ar gyfer y Fyddin mewn rôl sifil, ond dechreuodd gwestiynu ei llwybr gyrfa'n fuan iawn.

"Nid oedd yn cynnig unrhyw lwybr cynnydd, ac roedd swyddi eraill yn rhy bell i ffwrdd. Felly meddyliais i fy hun, 'A ydw i wir eisiau gwneud hyn am y 40 mlynedd nesaf?’ a'r ateb oedd na", meddai Carrie.

"Dewisais ganolbwyntio ar yr hyn a oedd yn fy ngwneud yn hapus, fel fy amser yn astudio Almaeneg yn y Brifysgol Agored o 2011 i 2013. Serch hynny, roedd y Brifysgol Agored yn mynnu eich bod yn cyfuno Almaeneg â phwnc arall, ac nid oedd hynny'n addas i mi.”

Penderfynodd Carrie gymryd cyfle a chyflwyno cais i brifysgolion gwahanol.

"Cefais fy nerbyn i rai, ond roedd llawer o'r cyrsiau'n gofyn am flwyddyn sylfaen; Serch hynny, nid oedd gradd Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe yn gofyn am hynny. Roedd ganddi'r rhaglen a'r cyfleoedd nofio gorau hefyd; ac fel triathletwr a nofiwr, gwnaeth hynny selio fy mhenderfyniad!"

Er bod Abertawe'n amgylchedd dysgu cadarnhaol, nid oedd yn hawdd i Carrie addasu i fod yn fyfyriwr eto ar ôl cynier o flynyddoedd.

"Roedd hi'n anodd gan fy mod wedi bod drwy gymaint yn fy mywyd nad oedd fy nghyd-fyfyrwyr yn gallu uniaethu ag ef, ac nid eu bai nhw oedd hyn wrth gwrs, ond mae'n brofiad unig ar adegau.

"Dechreuais ganfod fy lle yn nhîm nofio Prifysgol Abertawe. Gwnaeth fy ffrindiau fy nghefnogi drwy'r adegau anodd a'm helpu i ddathlu'r dyddiau da. Rwyf mor ddiolchgar i'n Prif Hyfforddwr, Hayley Baker, am wneud i mi deimlo'n rhan o rywbeth a fy nerbyn am y person rydw i, sef nofiwr sydd bron yn 40 oed!"

Gan ennill medal efydd yn ddiweddar ym Mhencampwriaethau'r British Masters, nid oes gan Carrie unrhyw fwriad o stopio a bydd yn parhau i gystadlu wrth iddi ddechrau ar bennod newydd gyffrous nesaf yn ei bywyd.

"Doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn am ei wneud ar ôl cwblhau fy ngradd, ond yn ystod fy ail flwyddyn, gweithiais i MFL Mentoring, prosiect gwych a ariennir gan Lywodraeth Cymru i annog mwy o ddisgyblion i astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU.”

"Roeddwn i'n dwlu ar y gwaith cymaint fel y dechreuais edrych ar addysgu Almaeneg a Ffrangeg, ac yn fuan byddaf yn dechrau ar fy hyfforddiant ym Mhrifysgol Rhydychen,” meddai Carrie.

Gadawodd Carrie'r Fyddin Wrth Gefn ym mis Rhagfyr 2023 ar ôl 14 mlynedd o wasanaeth ac erbyn hyn mae'n edrych ymlaen at rannu ei dealltwriaeth newydd o addysg uwch a'i photensial â'r genhedlaeth nesaf.

"Rwyf am roi'r hyder iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol, rhywbeth nad oeddwn yn ffodus i'w gael pan oeddwn i eu hoedran nhw.

"Ni fyddwn yn newid fy amser yn y Fyddin; gwnaeth fy llywio i'r person rydw i heddiw, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pob disgybl, waeth beth fo'i gefndir, yn cael y cyfle i archwilio ei opsiynau a gwybod ei bod hi'n iawn newid cyfeiriad.

"Wrth fod ym Mhrifysgol Abertawe dros y pedair blynedd diwethaf, dyma'r hapusaf rwyf wedi bod drwy gydol fy mywyd, er gwaethaf rhai anawsterau. Rwy'n teimlo'n hyderus fy mod ar y llwybr cywir yn fy mywyd yn awr, ac mae unrhyw broblemau rwyf wedi'u cael yn fy mywyd wedi gwneud hyn yn werth y cyfan.”

Rhannu'r stori