Dr Kate Evans

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i Dr Kate Evans, un o gyn-fyfyrwyr nodedig y Brifysgol, sy'n sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol yr elusen, Elephants for Africa. 

Cipiodd eliffantod ei chalon a'i dychymyg o oedran ifanc, ac ar ôl ymweld â lloches eliffantod yn Sri Lanka yn saith oed, gwnaeth addewid i eliffant y byddai'n helpu gyda’u cadwraeth a'u lles.

Esboniodd Dr Evans: "Roedd eliffant ifanc yno a oedd wedi colli ei fuches yn ddiweddar ac a oedd bellach yn ddibynnol ar bobl am ei ofal. Yn fy nghof roedd yn amlwg wedi cynhyrfu - yn llefain ac yn emosiynol - yn amlwg roedd ei fyd wedi ei droi ben i waered ac rwy'n cofio teimlo bod hynny'n hynod annheg. Ac felly, dyna'r eliffant y gwnes i addewid iddo!"

Er gwaethaf cael anhawsterau academaidd yn yr ysgol, gwnaeth Dr Evans ddyfalbarhau ac aeth ymlaen i astudio am radd a gradd meistr mewn Sŵoleg yn Abertawe, lle cafodd ddiagnosis o ddyslecsia yn ddiweddarach wrth gwblhau ei PhD.

Canolbwyntiodd ymchwil PhD Dr Evans ar ymddygiad eliffantod gwrywaidd adolesent, a osododd sylfaen ar gyfer Elephants for Africa, a sefydlodd ar ôl cwblhau ei PhD i sicrhau y gallai barhau â'i hymchwil a'i hehangu.

Mae Elephants for Africa yn ymroddedig i gadwraeth eliffantod a bywyd gwyllt. Drwy ymchwil ac addysg, mae'r elusen yn grymuso pentrefwyr lleol i fyw ochr yn ochr â bywyd gwyllt, gan eu hannog i ddeall eliffantod wrth leihau'r difrod y gallant ei achosi weithiau.

Ymroddodd Dr Evans i astudio ecoleg gymdeithasol eliffantod gwrywaidd yn nelta'r Okavango yn Botswana, un o anialdiroedd dilychwin olaf y byd, am fwy na degawd. Gan gydnabod yr angen am rôl fwy gweithredol ym maes cadwraeth, symudodd ei gwaith i ranbarth Afon Boteti i fynd i'r afael â mater dybryd gwrthdaro rhwng eliffantod a phobl.

Fel arweinydd Elephants for Africa, mae Dr Evans wedi canolbwyntio ei hymdrechion ar Botswana, sy'n gartref i'r boblogaeth fwyaf o eliffantod sydd ar ôl yn fyd-eang. Mae ei hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i ymchwil; mae hi'n eiriolwr brwd dros feithrin gallu lleol. Drwy raglenni addysg arloesol a ddatblygwyd ganddi hi a'i thîm, mae Dr Evans yn sicrhau bod gan gymunedau lleol sydd ar ffiniau ardaloedd gwarchodedig yr wybodaeth a'r sgiliau i hwyluso goroesiad eliffantod a chadw cynefinoedd naturiol.

Mae cyfraniadau Dr Evans i gadwraeth yn cael eu dathlu'n rhyngwladol. Mae'n aelod ac yn gydlynydd prosiect yng Nghanolfan Bioamrywiaeth Fyd-eang Gothenburg. Mae ei gwaith wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys y Wobr am Ymchwil Orau gan Wetnose Animal Aid yn 2010 a Medal Gadwraeth George B. Rabb gan Gymdeithas Swolegol Chicago yn 2011. Yn ogystal, yn 2021 enillodd rhaglen addysg Elephants for Africa Wobr Arian yng  Ngwobrau Global Good.

Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Dr Evans: 'Mae cael cydnabyddiaeth o waith fy mywyd gan Brifysgol Abertawe, drwy ddoethuriaeth er anrhydedd, yn anrhydedd enfawr. Abertawe oedd man cychwyn fy ngyrfa wyddonol, a oedd bron wedi dod i ben oherwydd y rhwystr cyntaf, gan na chefais y graddau angenrheidiol i gael fy nerbyn! Credaf yn wir fod yr Athro a gyfwelodd â mi wedi gweld rhywbeth ynof fi, fy angerdd, a dyna sut y cefais le yma ar gyfer fy ngradd gyntaf a'm gradd meistr.

"Rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â'r brifysgol ac rwy'n ymwneud â'r rhaglen fentora, ond rwy'n gobeithio y bydd fy nghysylltiadau ag Abertawe yn cryfhau yn sgîl y dyfarniad hwn a'm bod yn cael manteisio ar yr wybodaeth a'r arbenigedd anhygoel yma i ddatblygu fy ngwaith drwy ymchwil gydweithredol."

Rhannu'r stori