Y Babell Lên

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst 2024.

Ymhlith digwyddiadau’r Babell Lên a drefnir gan y Brifysgol eleni, mae:

Cofion Siôn Eirian: 'Taran ei Theatr ni Thewir' | Dydd Llun 5 Awst, 12.30pm

Jon Gower, Betsan Powys, Alun Wyn Bevan a Geraint Lewis yn cofio'r dramodydd, bardd a'r awdur Siôn Eirian, a fu farw yn 2020.

Ar Drywydd Brynley Roberts: Aberdâr, Abertawe ac Aberystwyth | Dydd Mawrth 6 Awst, 12.30pm

Robert Rhys, Gwerfyl Pierce Jones a Rhidian Griffiths yn trafod cyfraniad aruthrol Brynley Roberts i ddiwylliant Cymreig fel un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.

Hiraethu am Heimaey: Colli cymunedau, iaith a thraddodiadau yng Ngwlad yr Iâ | Dydd Mercher 7 Awst, 12.30pm

Dr Rhian Meara o’r Adran Ddaearyddiaeth a’r awdur arobryn Manon Steffan Ros yn edrych ar effeithiau dynol a chymdeithasol yn dilyn echdoriad annisgwyl ger tref ar Ynys Heimaey, a hynny drwy waith ymchwil ac ysgrifennu creadigol.

Darlith Goffa Hywel Teifi – yr Athro Daniel G. Williams | Dydd Iau 8 Awst, 11.30am

Yr Athro Daniel G. Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn traddodi'r ddarlith flynyddol er cof am yr Athro Hywel Teifi. Testun y ddarlith fydd ‘O'r Rhondda i Canaan: J Gwyn Griffiths, Gwyn Thomas ac Exodus’.

Yn dilyn y ddarlith, cynhelir derbyniad yn Ystafell Gynadledda Lido Pontypridd i gyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion Prifysgol Abertawe, lle darperir lluniaeth ysgafn.

Pobol a Phryfed | Dydd Gwener 9 Awst, 12.30pm

Yr actor ar awdur Andrew Teilo sy’n fwyaf adnabyddus  am chwarae cymeriad Hywel Llywelyn yn Pobol y Cwm fydd yn sgwrsio am ei yrfa gyda'r Athro Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, a’i brofiad yn ysgrifennu ei gasgliad o straeon byrion Pryfed Undydd yn dilyn ei gyfnod yn astudio ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.  

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Mae Prifysgol Abertawe'n falch unwaith eto eleni o noddi a churadu rhai digwyddiadau yn y Babell Lên ac mae cryn edrych ymlaen ymhlith ein staff a'n myfyrwyr at ymweld ag Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 a Pharc Ynys Angharad. Yn ôl ein harfer byddwn yn llwyfannu rhai o'n doniau creadigol ac yn amlygu gwaith rhai o'n hysgolheigion disgleiriaf gan gymryd ein lle yn falch ynghanol bwrlwm y Maes. Edrychwn ymlaen at groesawu cyfeillion hen a newydd i'r Babell Lên ac i Lido Pontypridd ar gyfer ein derbyniad i gyn-gyn-fyfyrwyr."

Bydd cyfle hefyd i weld staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn serennu mewn sesiynau eraill ar hyd y Maes drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys:

Dydd Llun 5 Awst, 12pm – 4pm | Pabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd Ben Walkling, myfyriwr PhD o’r Adran Ddaearyddiaeth yn gwneud cyflwyniad i'r tipiau glo, ac yn cynnal gweithgareddau gyda phobl ifanc.  

Dydd Mawrth 6 Awst, 10am | Pabell Cymdeithasau 

Blwyddyn o Sebra - Sgwrs banel gyda thri o awduron Sebra yn trafod eu cyhoeddiadau gyda’r wasgnod newydd. Un o'r tri bydd Mari George, cyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe, ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2024 gyda'i nofel gyntaf i oedolion Sut i Ddofi Corryn.  

Dydd Mawrth 6 Awst, 1pm | Amgueddfa Pontypridd  

Dr Gethin Matthews o’r Adran Hanes yn cyflwyno ‘Dim rhagor o enwau!’: Cofebau rhyfel yn ysbrydoli disgyblion o chwe ysgol leol i greu teyrngedau creadigol.  

Dydd Mawrth 6 Awst, 3 pm | Cymdeithasau

Sharon Jones o’r Adran fydwreigiaeth yn rhan o sgwrs banel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y testun 'Beth nesaf o ran y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol?'

Dydd Mawrth 6 Awst, 5pm |  Sinemaes

 Dr Elain Price, Uwch-ddarlithydd y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn cadeirio sgwrs am ‘Rhosyn a Rhith’ a ffilmiwyd yn yr ardal, gyda’r actores a’r awdur Mari Emlyn a phennaeth ffilm a drama S4C, Gwenllian Gravelle, cyn dangosiad o’r ffilm ei hun.

Dydd Mercher 7 Awst, 10.30am | Cymdeithasau

Wrth i’r rhaglen radio Caniadaeth y Cysegr ddathlu 75 mlynedd o ddarlledu, Dr Non Vaughan Williams, Uwch-ddarlithydd y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, ac un o gyn-gynhyrchwyr a chyflwynwyr y rhaglen, fydd yn trafod pwysigrwydd a chyfraniad y rhaglen.

Dydd Mercher 7 Awst, 2.10pm |  Pafiliwn 

Elinor Staniforth, un o diwtoriaid Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2024. Cyhoeddir enw’r enillydd yn y seremoni.  

Mercher 7 Awst, 4pm | Pabell Cymdeithasau 

Yr Athro Siwan Davies o’r Adran Ddaearyddiaeth yn cyflwyno Darlith Cymdeithas Edward Llwyd - 'Yr argyfwng hinsawdd: Mae'n amser deffro', gan roi cipolwg ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am yr argyfwng hinsawdd, yr effeithiau a’r rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol

Porwch raglen lawn yr Eisteddfod.

Rhannu'r stori