Verena Tay yn gwisgo ei chap a'i gŵn wrth iddi ddathlu graddio o Brifysgol Abertawe.

Mae stori anhygoel am gysylltiadau rhwng-genedlaethol rhwng Prifysgol Abertawe a Singapore wedi cyrraedd pennod hyfryd newydd, wrth i ferch raddio o'r un brifysgol â'i mam 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ym 1949, daeth y myfyriwr o Singapore, Lim Poh Luan, a oedd yn cael ei hadnabod fel Rose gan ei ffrindiau o Gymru, i Brifysgol Abertawe, a oedd yn cael ei galw'n Goleg Prifysgol Abertawe bryd hynny, i astudio arweinyddiaeth ieuenctid o dan gyfarwyddyd Jeffrey Jones.

Pan ddychwelodd hi i Singapore, daeth hi'n athrawes ac yn brifathrawes ysgol cyn iddi ymuno â staff y Weinyddiaeth Addysg. Ym 1954, priododd hi a chymerodd hi gyfenw ei gŵr, Tay.

Nawr, ei merch, Verena Tay, 58 oed, sy'n awdur adnabyddus, yn adroddwr straeon, yn ymarferydd theatr ac yn athrawes llais, yw'r ail aelod o'r teulu i raddio o'r Brifysgol.

Ar gyfer ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, ysgrifennodd Verena nofel, A Dance for Daughters, sy'n tynnu ar hanes a chwedloniaeth ei rhanbarth frodorol; darparodd atgofion cyfoethog a bywiog ei mam ysbrydoliaeth ar gyfer ei gwaith.

Gan siarad â'r Brifysgol yn 2016, soniodd Mrs Tay am ei dyddiau yn yr ysgol cyn y rhyfel yn ardal Tsieineaidd Singapore a sefyll ei harholiadau lefel O ar y diwrnod pan ymosododd yr awyrennau bomio Japaneaidd cyntaf ar yr ynys. Siaradodd hi am greulondeb y goresgyniad Japaneaidd, ei theimlad o ryddhad wrth allu ailadeiladu ei bywyd ar ôl y rhyfel a'i thaith i Gymru i astudio yn Abertawe.

Siaradodd hi hefyd am yr ymdeimlad o falchder mawr wrth wybod y byddai ei merch yn adnewyddu cysylltiad teuluol sy'n ymestyn mor bell yn ôl.

Meddai Mrs Tay, “Mae Verena wedi bod yn greadigol iawn ers iddi fod yn yr ysgol gynradd.  Dyna'r unig beth roedd hi am ei wneud ac rwy'n falch ei bod hi wedi penderfynu ymuno ag awduron eraill ym Mhrifysgol Abertawe.”

Mrs Tay oedd trydydd Llywydd Rhyngwladol Brigâd y Merched (1978-1983) ac mae'n uchel ei pharch o hyd yn ei heglwys Fethodistaidd leol yn Singapore. A hithau wedi dathlu ei chanfed pen-blwydd ym mis Ebrill, mae hi hefyd yn un o raddedigion hynaf y Brifysgol.

Er bod ei hiechyd yn anffodus wedi ei hatal rhag dod i seremoni ei merch yn bersonol, mae Verena yn gysylltiad byw â’i hamser yn Abertawe.

Meddai Verena, “Rwyf bob amser wedi dwlu ar straeon, boed hynny'n ffeithiol neu'n ffuglen. Fel plentyn, byddwn i'n darllen straeon tylwyth teg hen ffasiwn a nofelau am leoedd ymhell i ffwrdd, ond roeddwn i'n hoffi gwrando ar fy mam a'm modrybedd yn adrodd straeon am ein teulu hyd yn oed yn fwy.

“Rwy’n cofio fy mam yn siarad am fyw yn Neuadd Beck y Brifysgol ac ymweld â’r Mwmbwls i fwynhau hufen iâ. Roedd hwn yn beth moethus iddi oherwydd nad oedd llawer o arian ganddi bryd hynny. Rydym hefyd yn ddigon ffodus i feddu ar recordiadau lle mae'n trafod pa mor gyfeillgar oedd y bobl, er bod olion y rhyfel ar y ddinas a sut gwnaeth hi fwynhau ei phrofiad yno.

“Tyfodd fy nghysylltiad â'r Brifysgol fwy byth pan ges i’r pleser o gwrdd â Chyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Abertawe, yr Athro D.J. Britton, yn gynnar yn fy ngyrfa yn un o'i weithdai i lenorion yn Singapore. Roedd yn naturiol i mi ddewis Prifysgol Abertawe ac rwy'n falch fy mod i wedi gwneud y dewis hwn.”

Mae Verena eisoes wedi cyhoeddi dau gasgliad o straeon byrion, sef Spectre: Stories from Dark to Light (2012) a Spaces: People/Places (2016), a phedair drama, In the Company of Women: Selected Plays (2004), In the Company of Heroes (2011), Victimology (2011) a The Car and Other Plays (2016).

Mae hi hefyd wedi golygu blodeugerddi ffuglen amrywiol, gan gynnwys y gyfres boblogaidd, Balik Kampung (2012-16).

O ran ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Verena,  “Rwy'n gobeithio cyhoeddi A Dance for Daughters un dydd, byddai’n deyrnged i Abertawe, sy'n annwyl iawn i fy mam, yn ogystal â'm rhanbarth frodorol.”

Rhannu'r stori