Tanau gwyllt yn llosgi trwy goed

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi chwarae rhan allweddol mewn ymchwil newydd sy'n tynnu sylw at weithgarwch tanau gwyllt a rôl newid yn yr hinsawdd wrth eu hachosi.

Mae'r Adroddiad am Gyflwr Tanau Gwyllt byd-eang cyntaf newydd gael ei gyhoeddi, gan gofnodi tanau eithafol ledled y byd yn ystod tymor tân 2023-24, gan ddadansoddi a oes modd eu rhagweld ac archwilio eu hachosion. 

Arweiniwyd yr adroddiad gan Dr Matthew Jones, sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol East Anglia, a fu'n swyddog ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe gynt. Meddai: "Mae'r adroddiad yn darparu rhagolygon tymhorol a rhagfynegiadau degawdol. Mae'n dangos bod anghysondebau allweddol wedi digwydd yng Nghanada, Gwlad Groeg a gorllewin Amazonia, a chofnodwyd digwyddiadau eraill sydd wedi cael effaith sylweddol ledled y byd. 

"Gwnaeth newid yn yr hinsawdd gynyddu'r tebygolrwydd o danau eithafol yn sylweddol, ac mae angen lliniaru hyn er mwyn lleihau'r risg yn y dyfodol." 

Bu'r Athro Stefan Doerr, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt yn Abertawe, yn cyd-ysgrifennu'r adroddiad ac yn cyd-arwain ei adran ynghylch Ewrop. 

Roedd hyn yn manylu ar sut arweiniodd tanau unigol yng Ngwlad Groeg, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal, Ffrainc a'r Alban at wacáu ar raddfa fawr, tarfu ar gyflenwadau dŵr, difrod i isadeiledd yn ogystal â chael effaith ar dwristiaeth, dinistrio eiddo, ac mewn rhai achosion,  golli bywyd. Yn benodol, llosgodd tân Evros yng Ngwlad Groeg tua 900 km² o dir, arweiniodd at 19 o farwolaethau a gwnaeth orfodi ysbyty i gael ei wacáu yn ninas Alexandroupolis. 

Meddai: "Er bod gweithgarwch tanau gwyllt ledled Ewrop yn gymedrol yn gyffredinol y llynedd, tân Evros oedd y mwyaf a gofnodwyd erioed yn yr Undeb Ewropeaidd. 

"Mae'r tanau presennol a arweiniodd at orfodi gwacáu miloedd o drigolion ger Athen ac sy'n dilyn y tymereddau poethaf a gofnodwyd erioed ym mis Mehefin a Gorffennaf, yn ein hatgoffa bod de Ewrop yn profi cyfradd uwch o gynhesu oherwydd newid yn yr hinsawdd na'r rhan fwyaf o ranbarthau eraill y byd. 

"Mae hyn eisoes wedi arwain at dywydd tân eithafol yn amlach - hynny yw amodau tywydd sy'n hybu tanau eithafol - yn rhanbarth Môr y Canoldir nag y mae modelau hinsawdd wedi ei awgrymu." 

Yn ogystal, roedd canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:

  • 9m km² o dir wedi'i losgi'n fyd-eang yn ystod y tymor tân byd-eang rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024;
  • Roedd cyfanswm allyriadau carbon tân byd-eang 16% yn uwch na'r cyfartaledd, sef cyfanswm o 8.6bn tunnell o garbon deuocsid (CO2). Dim ond tymor tân tawel yn y safanau byd-eang a ataliodd y llynedd rhag gosod record newydd ar gyfer allyriadau tân byd-eang ers 2003; a
  • Chyfrannodd tanau yng Ngogledd America, yn enwedig yng Nghanada, tua chwarter yr allyriadau CO2 byd-eang o dân, gan gynyddu'r ffigwr byd-eang. 

Datgelodd yr astudiaeth hefyd fod newid yn yr hinsawdd sydd wedi'i achosi gan bobl wedi gwneud tywydd sy'n dueddol o achosi tân yn 2023-24 o leiaf dair gwaith yn fwy tebygol yng Nghanada, 20 gwaith yn fwy tebygol yng ngorllewin Amazonia a dwywaith yn fwy tebygol yng Ngwlad Groeg. 

Wrth edrych tuag at dymor 2024-25, mae rhagolygon tywydd tân yn dangos perygl tân uchel (ond nid eithafol) mewn rhannau o Ogledd America a De America a dwyrain Ewrop, sy’n gyson â thanau diweddar yng Nghanada, Califfornia a Pantanal Brasil. 

Ychwanegodd Dr Jones: "Yn gyffredinol, mae ein canfyddiadau'n pwysleisio pwysigrwydd ymdrechion lliniaru parhaus a gwell."

Darllenwch fwy am ein hymchwil tanau gwyllt

 

Rhannu'r stori