Claf gwrywaidd oedrannus yn gorwedd mewn gwely ysbyty

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu gwybodaeth bwysig am sut gall lefel testosteron claf helpu i'w amddiffyn rhag Covid-19 difrifol.

Ymchwiliodd ymchwil flaenorol a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe i sut mae hormonau rhyw yn debygol o fod yn benderfynyddion pwysig o ran difrifoldeb Covid-19. 

Nawr, mae'r arbenigwr cymhareb bysedd, Yr Athro John Manning, o'r tîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM), wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yng ngwlad Pwyl a Sweden i ystyried y pwnc yn agosach. 

Dywedodd y gall eu canfyddiadau, sydd newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn arloesol ar-lein Andrology, gael goblygiadau sylweddol ar gyfer iechyd y cyhoedd a thriniaeth yn y dyfodol. 

Dywedodd Yr Athro Manning: "Mae Covid-19 yn amrywio'n sylweddol o ran difrifoldeb ar draws gwledydd ac unigolion. Mae’n fwyaf difrifol mewn hen ddynion. Mae hyn wedi arwain at awgrymiadau y gall testosteron gael effaith ar ddifrifoldeb. Fodd bynnag, mae'n aneglur p’un a yw testosteron yn cynyddu neu'n lleihau difrifoldeb. 

"Mewn cydweithrediad â chydweithwyr yng ngwlad Pwyl a Sweden, rydym wedi bod yn edrych ar batrymau bysedd sy'n ddibynnol ar destosteron mewn cleifion mewn ysbytai o'u cymharu â’r grŵp safonol." 

Esboniodd fod dau esboniad - y ddamcaniaeth a yrrir gan androgen isel a'r ddamcaniaeth a yrrir gan androgen uchel. Mae'r ddamcaniaeth gyntaf yn awgrymu bod testosteron uchel yn helpu'r haint gan y feirws ond mae'r ddamcaniaeth arall yn dadlau bod lefelau isel testosteron sydd i'w ddarganfod mewn hen ddynion sy'n cynyddu eu hymateb imiwnyddol llidiol i Covid-19, sy'n arwain at brognosis gwael. 

Ar gyfer yr ymchwil newydd hon edrychodd y tîm ar wahaniaethau rhyw mewn hyd bysedd cymharol mewn cleifion mewn ysbytai a’r grŵp safonol. Credir bod gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn hyd bysedd cymharol yn codi o ganlyniad i gysylltiad â thestosteron a/neu oestrogen yn y groth neu yn ystod blaenaeddedrwydd. Credir bod mynegfysedd hir yn ymwneud â thestosteron isel/oestrogen uchel a bysedd bach hir yn ymwneud â thestosteron uchel/oestrogen isel. 

Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Feddygol Lodz, Gwlad Pwyl, wedi ystyried dau sampl cyn ac ar ôl i'r frechiad fod ar gael yn eang. Yn y ddau sampl, roedd gan y cleifion mewn ysbytai fysedd bach byr o’u cymharu â’r grŵp safonol. 

Meddai'r Athro Manning: "Roedd gan y cleifion gymarebau bysedd a oedd yn dangos testosteron isel cyn ac ar ôl genedigaeth. Roedd y patrwm yn bresennol ar ddechrau'r pandemig ac ar ôl i'r brechiad fod ar gael yn eang. 

"Mae hyn yn golygu y gallwn ddod i gasgliad bod testosteron yn amddiffyn yn erbyn Covid-19 difrifol. Efallai daw’r effaith oherwydd bod yr hormon yn lleihau llid yn yr ysgyfaint ac organau eraill. Mae gan y canfyddiadau oblygiadau ar gyfer iechyd y cyhoedd a thriniaethau." 

Darllenwch y papur yn llawn

 

Rhannu'r stori