Pump o bobl mewn oriel yn sefyll y tu ôl i arch Eifftaidd

(O'r chwith) Curadur yr amgueddfa Dr Ken Griffin, rheolwr mynediad casgliadau Dr Meg Gundlach, rheolwr amgueddfa Wendy Goodridge, ymchwilydd PhD John Rogers a chydlynydd dysgu ac ymgysylltu Phil Hobbs.

Mae arch hynafol o'r Hen Aifft wedi dychwelyd i Abertawe ar ôl prosiect llafurus 26 o flynyddoedd i'w hadfer.

Mae'r arteffact, y credir iddo ddyddio'n ôl i oddeutu 650 CC, bellach wedi dychwelyd i Ganolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe ar ôl miloedd o oriau o waith cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Cludwyd yr arch, a wnaed yn wreiddiol ar gyfer dyn o'r enw Ankhpakhered yn ninas Thebes, yn ôl dan oruchwyliaeth curadur yr amgueddfa, Dr Ken Griffin. Meddai: “Roedd angen glanhau, ailadeiladu ac atgyfnerthu'r arch yn drylwyr i'w hatal rhag dirywio ymhellach ac mae'n bleser mawr gennym ei bod hi wedi dychwelyd. 

“Rhoddwyd hi i ni gan Brifysgol Aberystwyth ym 1997 ond mae'r manylion am ei hanes yn aneglur. Mewn gwirionedd, cafodd ei defnyddio fel blwch storio ar un adeg ac roedd gwrthrychau eraill o'r Hen Aifft yn cael eu cadw ynddi.” 

Yn naturiol, ymhlith y bobl a oedd wrth law i'w dadbacio'n ofalus pan gyrhaeddodd oedd rheolwr yr amgueddfa, Wendy Goodridge, a oedd wedi mynd â'r arch i Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd yn wreiddiol. 

Meddai: “Doeddwn i ddim yn siŵr beth fydden nhw'n gallu ei wneud gyda hi oherwydd ei bod hi mewn cyflwr mor wael. Mae ei gweld hi nawr, wedi'i hadfer yn ysblennydd ar ôl cymaint o waith caled, y tu hwnt i'r gobeithion mwyaf a oedd gennym bryd hynny. Mae hi wedi bod yn werth aros amdani'n bendant.” 

Yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd, mae arbenigwyr cadwraeth a chenedlaethau o fyfyrwyr wedi gweithio arni. Esboniodd Phil Parkes, o Brifysgol Caerdydd, fod yr arch bren wedi'i gorchuddio â brethyn ac yna roedd haen denau o blastr wedi'i addurno dros hynny. 

Meddai: “Roedd rhan helaeth o'r brethyn hwnnw wedi datod oddi wrth yr arch dros amser ac roedd yn hongian yn rhydd. Roedd y pen pren ar wahân wedi datod oddi wrth y gweddill ac roedd cwpl o ddarnau mawr o bren ar goll, roedd ochr  gwaelod yr arch wedi syrthio'n rhydd ac roedd yr arch mewn cyflwr gwael iawn yn gyffredinol. 

“Mae'r myfyrwyr wedi ei hadfer fel bod yr arch gyfan yn gadarn bellach a gall hi gael ei harddangos.” 

Meddai Dr Griffin: “Mae'n fendigedig ei bod hi wedi chwarae rôl mor unigryw ym mhrofiad dysgu cynifer o fyfyrwyr – rydym yn gwybod am o leiaf 50 o fyfyrwyr sydd wedi'i defnyddio fel rhan o'u hymchwil. Yn ogystal â bod yn ddarn mor ddiddorol o hanes, mae hi wedi chwarae rôl wrth lywio sgiliau ein harbenigwyr yn y dyfodol.”

Nawr bod yr arch wedi cael ei hatgyweirio, gellir gweld yn glir bortreadau lliwgar o dduwiau'r Hen Aifft a hieroglyffau sy'n cynnwys negeseuon ar gyfer y bywyd tragwyddol, sy'n caniatáu i Eifftolegwyr ennill dealltwriaeth well o'i hanes. 

Maen nhw'n dweud bod y marciau ar y caead yn dangos ei bod hi wedi cael ei defnyddio'n ddiweddarach ar gyfer unigolyn arall, sef dyn o'r enw Djedher, ond pan gyrhaeddodd y DU ar droad y ganrif, roedd mymi gwahanol yn yr arch, a menyw oedd hon. Credir gall y corff hwn fod wedi cael ei roi yn yr arch i gynyddu ei gwerth wrth ei gwerthu i gasglwyr eiddgar Prydeinig bryd hynny. 

Mae'r arch mewn storfa ar hyn o bryd ond bwriedir ei harddangos yn oriel y Tŷ Marwolaeth yn y Ganolfan Eifftaidd. 

I ddarllen rhagor am hanes yr arch, gan gynnwys ffotograffau a delweddau 3D  ewch i flog diweddaraf Dr Griffin

 

Rhannu'r stori