Pont Brooklyn, New York. Mae cyrydu metelau'n broblem enfawr. Amcangyfrifir ei bod hi'n costio tua $2.2 driliwn. Gall hefyd arwain at golli bywydau. Mae unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys metel - adeiladau, pontydd, ceir, awyrennau – yn dod yn wannach ac yn llai diogel os bydd y broses gyrydu.

Pont Brooklyn, New York.  Mae cyrydu metelau'n broblem enfawr. Amcangyfrifir ei bod hi'n costio tua $2.2 driliwn.  Gall hefyd arwain at golli bywydau. Mae unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys metel - adeiladau, pontydd, ceir, awyrennau – yn dod yn wannach ac yn llai diogel os bydd y broses gyrydu.

Mae cwmni a sefydlwyd gan ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, sydd wedi patentu ffordd fwy diogel a chlyfar o fynd i'r afael â chyrydu, wedi mynd yn fyd-eang yn ddiweddar, drwy lofnodi cytundebau allforio ledled y byd.

Sefydlwyd Hexigone Inhibitors gan ymchwilydd a oedd yn arfer gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Patrick Dodds, gyda chymorth gan dîm arloesi'r Brifysgol.

Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi llofnodi cyfres o gytundebau rhyngwladol gyda sefydliadau o UDA, India a Mecsico, ynghyd â De America a Chanolbarth America.

Mae cyrydu metelau'n broblem enfawr. Amcangyfrifir ei bod hi'n costio tua $2.2 driliwn, sef mwy na 3% o'r cynnyrch domestig gros byd-eang.  Gall hefyd arwain at golli bywydau. Mae unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys metel - adeiladau, pontydd, ceir, awyrennau – yn dod yn wannach ac yn llai diogel os bydd y broses gyrydu'n dechrau.

Gwelodd Dr Dodds alw cynyddol yn y diwydiant am ffyrdd mwy diogel a chlyfar o fynd i'r afael â chyrydu, yn enwedig ar ôl i'r UE wahardd cromad hecsafalent, sef yr atalydd cyrydu a ddefnyddiwyd fwyaf yn flaenorol, oherwydd bod cysylltiad rhwng yr atalydd hwn â chanser.

Enw'r cynnyrch a grëwyd gan Hexigone, drwy gydweithio â'r diwydiant, yw Intelli-Ion® AX1. Gellir ei ddefnyddio fel ychwanegyn paent ac mewn caenau amddiffynnol i atal cyrydu. 

Yn ogystal â bod yn fwy diogel a chynaliadwy nag atalyddion eraill, dangoswyd hefyd ei fod dros deg gwaith yn fwy effeithiol nag opsiynau eraill sydd yn y farchnad, gan gynnwys cromad hecsafalent, sydd wedi cael ei wahardd, a ffosffad sinc, sef arweinydd newydd y farchnad.

Lansiodd y cwmni ei strategaeth allforio dair blynedd yn ôl, ar ôl iddo ddeillio o Brifysgol Abertawe.

Esboniodd Dr Patrick Dodds, sefydlydd a phrif weithredwr Hexigone,

“Mae allforion bellach yn cynrychioli 90% o'n trosiant ac ers 2021, rydym wedi cynyddu graddfa ein prosesau gweithgynhyrchu 3000% ac mae nifer ein haelodau staff wedi cynyddu 50%. Rydym yn teithio ledled y byd i gwrdd â chleientiaid newydd ac mae rhai o'n cytundebau hynod gyffrous a sylweddol ar fin mynd rhagddynt.

“Mae'r diwydiant yn datblygu'n hynod gyflym ac mae cyfleoedd di-rif pan fyddwch chi'n ystyried bod angen caenu pob ased metel i'w ddiogelu.Fodd bynnag, mae'r sector hwn yn hynod gyfrinachol hefyd, ac mae'r holl gleientiaid yn mynnu bod pob agwedd ar eu gweithrediadau'n cael eu cynnal gyda'r cyfrinachedd llymaf yn y maes hwn.”

“Mae India yn farchnad enfawr i ni, mae'r gyfradd dwf mor gyflym ac mae'r buddsoddiad yn ei hisadeiledd heb ei ail. Mae'n anhygoel faint sy'n digwydd yno.

Mae gennym gynnyrch gwych;rydym yn gwybod hynny.Felly, mae angen i ni ei rannu â chynifer o farchnadoedd a sectorau â phosib.Mae'r marchnadoedd allforio byd-eang yn creu posibiliadau di-rif.”

Meddai Dr Jonathan Widdowson, Swyddog Arloesi a Chwmnïau Deillio ym Mhrifysgol Abertawe,

“Mae'n braf gweld Hexigone yn mynd â'i fusnes yn fyd-eang, gan helpu i fynd i'r afael ag un o broblemau mwyaf drud y byd mewn ffordd fwy diogel a chlyfar.  Mae ein tîm wedi gweithio gyda Hexigone o'r dechrau, gan ei helpu i sefydlu a chymryd ei gamau cyntaf yn y farchnad fel cwmni deillio o Brifysgol Abertawe.

Enillodd Patrick brofiad a chymorth hollbwysig drwy gael mynediad at hyfforddiant a ddarparwyd gan Gymrodoriaeth Entrepreneuriaeth Hyb Mentergarwch Academi Frenhinol Peirianneg a buddsoddiad gan Wobr Mentergarwch y Gwir Anrhydeddus Gwmni o Arfogwyr a Seiri Pres.

Dilynwyd hyn gan gyfres o adnoddau cymorth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru ac roedd y tîm yn bresennol mewn llawer o genadaethau masnach a helpodd i hwyluso ei fynediad i'r farchnad atalyddion fyd-eang.”

 

Rhannu'r stori