Myfyrwyr Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2025 gan The Times and The Sunday Times.

Wedi'i gyhoeddi heddiw, ddydd Gwener 20 Medi 2024, mae'r canllaw hefyd yn gosod Abertawe yn y 37ain safle yn y DU, pedwar safle yn uwch na'r llynedd.

Yn ôl y canllaw, mae Abertawe wedi dod i’r brig diolch i'w phwyslais parhaus ar adeiladu gyrfaoedd, profiad ar lan y môr i’r myfyrwyr, a gwelliant o bedwar safle blwyddyn ar ôl blwyddyn. Cafodd ei chynnwys am tro cyntaf hefyd ymhlith y 300 uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS gan neidio 118 safle yn gynharach eleni.

Hwn yw’r eildro i Abertawe dderbyn anrhydedd Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, wedi iddi ennill y teitl cyntaf yn 2016.

Mae'r fuddugoliaeth ddiweddar hon yn dilyn cyfres o gyflawniadau syfrdanol i Brifysgol Abertawe. Wedi'i henwi'n Brifysgol Orau Cymru yn ddiweddar gan The Guardian University Guide 2025, mae yn y 29ain safle allan o 122 sefydliad yn y DU. Sicrhaodd Abertawe ei safle uchaf erioed hefyd yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan ddringo i safle 298 yn rhyngwladol a chael ei chynnwys yn y 300 uchaf am y tro cyntaf. Yn ogystal, roedd y Brifysgol ymhlith y 100 sefydliad gorau yn Ewrop yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'n bleser mawr gennym gael ein henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2025 yn ôl The Times, a’n bod wedi gwella ein safle yn y tablau’n gyffredinol eleni. Er bod y rhain yn amserau anodd i'n sector, mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein cydweithwyr ar draws cymuned gyfan ein Prifysgol.

"Mae'r anrhydeddau hyn hefyd yn amlygu ein hymrwymiad parhaus i gynnig profiad o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ac i ddarparu addysgu o ansawdd uchel - sydd wedi'i lunio a'i lywio gan ein rhagoriaeth ymchwil - sy'n eu paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus."

Mae'r canllaw yn darparu gwybodaeth hanfodol i ddarpar fyfyrwyr a'u teuluoedd er mwyn iddynt wneud dewisiadau gwybodus am addysg uwch, gan werthuso gwahanol agweddau, o ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyriwr i gyfraddau cwblhau gradd a rhagolygon cyflogaeth graddedigion.

Meddai Helen Davies, golygydd The Times and The Sunday Times Good University Guide: "Mae'r prifysgolion gorau – pryd bynnag y cawsant eu sefydlu, boed hynny yn y 15fed ganrif neu yn 2005 - yn bwerdai syniadaeth ddeallusol a chreadigrwydd, o'r celfyddydau i wyddoniaeth, sy'n gallu sbarduno adfywio economaidd ac arwain y ffordd at fywyd gwell. Ond mae dewis beth i’w astudio a ble - a sut i dalu amdano - yn fwy anodd nag erioed. Dyma le gall ein canllaw cynhwysfawr helpu.

"Eleni rydym wedi addasu ein methodoleg i ystyried pryderon cyfoes ynghylch newid yn yr hinsawdd a gyrfaoedd ac wedi ychwanegu metrig cynaliadwyedd, gan weithio gyda People & Planet, ac wedi cryfhau’r pwysoliad o ran rhagolygon graddedigion.

"Mae'r sector addysg uwch yn wynebu heriau digynsail o ddadlau am ryddid i lefaru i sefydlogrwydd ariannol, ond mae'n bwysig cofio pa mor gadarnhaol y gall mynd i’r brifysgol fod. Gallwch weld sut mae prifysgolion yn cymharu fesul pwnc, canllaw i fywyd ar y campws, a pha ysgoloriaethau a bwrsariaethau all fod ar gael ar-lein."

Mae tablau rhyngweithiol a nodweddion ychwanegol ar gael ar wefan The Times and The Sunday Times.

Rhannu'r stori