Wythnos Dysgu Oedolion yw'r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru, gyda thros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Caiff yr ymgyrch ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Boed yn droseddeg neu gemeg neu ddysgu sut i gysgu'n well, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyrsiau sydd am ddim ac ar gael i bawb, fel rhan o Wythnos Dysgu Oedolion, a gynhelir rhwng 9 ac 15 Medi.

Wythnos Dysgu Oedolion yw'r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru, gyda thros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Caiff yr ymgyrch ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod cariad at ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle a gydol oes. Bydd yr Wythnos Dysgu Oedolion yn hyrwyddo cannoedd o gyrsiau, digwyddiadau, sesiynau rhagflas, diwrnodau agored ac adnoddau dysgu sydd am ddim ac yn hygyrch i bawb.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn rhan o Wythnos Dysgu Oedolion.  Yr hyn sydd ar gynnig gan y Brifysgol:

  • Cysgu'n dda - cwrs pum wythnos gyda sesiynau dwy awr
  • Darlithoedd rhagflas mewn cyllid, busnes, marchnata neu dwristiaeth
  • Cemeg - pontio o Safon Uwch i radd
  • Cyflwyniadau i feysydd megis troseddeg, peirianneg ac anatomeg
  • Hanfodion seiberddiogelwch a hanes ac effaith cyfrifiadura, a gynigir gan y tîm Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe.

Sefydliad polisi, ymchwil a datblygu annibynnol yw'r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy'n ymroddedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth a chynhwysiant llawn. Mae’r Sefydliad wedi gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid am dros 25 o flynyddoedd i gefnogi Wythnos Dysgu Oedolion yng Nghymru.

Meddai Claudia Mollzahn, Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu ag Oedolion Prifysgol Abertawe:

"Gall dysgu oedolion ehangu gorwelion, meithrin eich rhwydweithiau ac agor drysau. Dyma eich cyfle i gael dechrau newydd a rhoi cynnig ar ail gyfle. 

Efallai eich bod yn edrych am gyfeiriad newydd, i roi hwb i'ch hyder, mireinio eich sgiliau, gwella eich cyfleoedd am swyddi, cael cyngor ac arweiniad ar gymhwyster, neu efallai rydych am ddysgu rhywbeth newydd a chwrdd â phobl o'r un anian.   Beth bynnag fo'r rheswm, Wythnos Dysgu Oedolion yw'r union beth i chi".

Mae Wythnos Dysgu Oedolion am ddim ac ar gael i bawb.

Mwy o wybodaeth am gyrsiau Wythnos Dysgu Oedolion a gynhelir gan Brifysgol Abertawe

Edrychwch arBlatfform Wythnos Dysgu Oedolion i weld y cannoedd o gyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein ac wyneb yn wyneb sydd ar gael AM DDIM

Rhannu'r stori