Pedwar person yn eistedd wrth ddesgiau mewn ystafell ddosbarth yn edrych ar sgriniau gliniadur.

Mae Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid sylweddol gan awdurdodau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gyflwyno hyfforddiant sgiliau digidol arloesol i bobl ifanc ac oedolion. Bydd y cyllid, sy'n werth dros £700,000, yn cael ei ddefnyddio i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'r nod yw gwella llythrennedd digidol yn y rhanbarth.

Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd wedi dyrannu dros £400,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a ariennir gan Lywodraeth y DU

i gefnogi menter Llwybrau Sgiliau Digidol Technocamps. Mae'r fenter hon yn canolbwyntio ar arfogi myfyrwyr â sgiliau digidol hanfodol y mae eu hangen i ffynnu yn niwydiant technoleg cynyddol Cymru.  Bydd yr arian yn galluogi cyflwyno cyrsiau hyfforddi unigryw a fydd yn paratoi cyfranogwyr ar gyfer galwadau’r gweithlu modern.

Hefyd, mae'r Sefydliad Codio, cangen fusnes Technocamps, wedi sicrhau bron £300,000 gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi rhaglenni uwchsgilio digidol ar gyfer oedolion o bob gallu ar draws y fwrdeistref sirol. Bydd y cyrsiau'n amrywio o lythrennedd digidol sylfaenol, megis cysylltu a chreu cyfrifon e-byst, i bynciau mwy heriol megis dysgu peirianyddol a dadansoddi data. Nod y cyrsiau byr datblygiad proffesiynol yw datblygu sgiliau a gwybodaeth y mae galw amdanynt, gan helpu pobl i ragori yn y farchnad swyddi technegol cystadleuol.

Pwysleisiodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, bwysigrwydd y cyllid hwn i ehangu hyfforddiant digidol ar draws y rhanbarth. Meddai: "Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i gyflwyno hyfforddiant i'r rhai sydd eisiau datblygu eu sgiliau digidol i gael y cymorth y mae ei angen arnynt, boed i deimlo mewn mwy o reolaeth gyda'r ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg ym mywyd pob dydd, i edrych am newid gyrfa mewn meysydd newydd a chyffrous y gweithlu neu i ennyn diddordeb ac ysgogiad newydd mewn pwnc na fu'n hygyrch iddynt yn y gorffennol".

Bydd y cyllid yn cefnogi sawl menter allweddol, gan gynnwys:

Sesiynau Ysgolion Rhyngweithiol: Bydd y gweithdai hyn yn addysgu disgyblion am bwysigrwydd sgiliau digidol a sut gallan nhw ddatblygu eu ceisiadau yn y dyfodol ar gyfer prifysgolion neu swyddi. Mae'r pynciau a addysgir yn cynnwys deallusrwydd ffynhonnell agored, AI, Modelu 3D ar gyfer Celf a Diwydiant ac Adeiladu Gwefannau.

Bŵtcamps Micro-fanylion a Sgiliau Digidol:Mae'r cyrsiau byr hyn, a gynhelir ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae Prifysgol Abertawe, yn cynnwys ystod eang o bynciau, o ddechreuwyr i rai uwch, megis Rhaglennu Python, Seiberddiogelwch, a Hanfodion Dysgu Peirianyddol.  Mae'r rhaglen micro-fanylion newydd ar gyfer mis Hydref newydd gael ei lansio a gellir cadw lle yma.

Gweithdai Sgiliau Digidol: Mae'r gweithdai hyn, a gynhelir mewn llyfrgelloedd ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar gyfer pobl dros 16 oed, yn cynnig cyfleoedd cyffrous i'r gymuned ehangu a dysgu sgiliau digidol newydd drwy weithdai megis Creu gyda Canva, Grym Cardiau Graffig a Datblygu Gemau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Ysgol Haf Uwch Technocamps: Gweithdai am ddim ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, sy'n trafod pynciau megis Canva, creu gwefan a rhaglennu robotiaid LEGO.

"Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ymestyn yr effaith rydym wedi'i chael dros yr ychydig ddegawdau diwethaf yn y sector digidol yng Nghymru", ychwanegodd yr Athro Moller. "Ein cenhadaeth yw creu piblinell o bobl â'r sgiliau digidol y mae eu hangen i helpu'r diwydiant technoleg yn lleol ac ar draws Cymru i ffynnu. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i greu mwy o gyfleoedd i bobl leol a busnesau i ddatblygu eu hunain ac yna greu mwy o gyfleoedd am swyddi a datblygiad economaidd yn y rhanbarth".

I gael mwy o wybodaeth am Technocamps, ewch i Hafan - Technocamps

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Rhannu'r stori